28ain o Hydref 2005
Aeth popeth yn grêt - mae'r criw ma’ yn "Bopethwyr" naturiol iawn! Gobeithio fod hyn yn gychwyn ar gaseg eira anferth o weithgarwch tebyg...
Felly...
Be mae dyn yn gwneud gyda'r nos ar ôl diwrnod caled yn Aberystwyth yn trio gwneud Popeth yn Gymraeg? Yn eironig braidd, es i wylio noson o ffilmiau mud mewn hen sinema, gyda phianydd yn cyfeilio; ar ôl diwrnod cyfan yn ceisio cael hyd i ffordd o roi llais i'r Gymraeg, mae'n braf weithiau rhoi'r meddwl ar rywbeth di-iaith.
Roedd y rhan fwyaf o'r ffilmiau yn dangos Aberystwyth yn y dauddegau a'r hyn a'm trawodd yn syth oedd gymaint o'r dynion oedd yn smocio - bob un wan jac bron iawn. Dechreuodd y taflunydd chwythu mwg mewn cydymdeimlad; a fwy nag unwaith yn ystod y noson bu rhaid i'r pianydd druan lenwi mewn drwy adrodd straeon. Yn anffodus cafwyd mwy o broblemau hefo'r taflunydd nag oedd ganddo yntau o straeon i'n diddanu, a bu sawl saib anghyfforddus; ond rhaid dweud, i mi roedd yn rhan o'r hwyl - noson ddifyr iawn. Yn enwedig wedyn o fynd i dafarn Rummers a chyfarfod â bardd neu "bersolari" o Wlad y Basg. Dysgais mai "eskerrik asko" yw diolch yn fawr, ac ystyr "negu gorriak" yw gaeafau geirwon (!). Nid yn unig fod Aberystwyth yn lle canolog i'r Cymry, mae'n ganolbwynt i bob math o ddiwylliannau eraill, mae'n ymddangos.
29ain o Hydref 2005
Ddiwedd y daith - ynteu'r dechrau?
Rhai meddyliau wrth gau pen y mwdwl...
Mae gan bawb yng Ngymru berthynas a'r iaith Gymraeg - ond nid pawb sy'n cydnabod hynny.
Beth felly yw ein perthynas a'r Saesneg? Ni sy'n ddigon lwcus i fedru siarad Cymraeg?
Yng Nghymru mae'r Saesneg yn meddu ar sawl hunaniaeth; mae'n iaith Gymreig (yeah butt, no butt, no buts, butt); ond ar yr un pryd mae'n iaith drefedigaethol sy'n bygwth dyfodol y Gymraeg; mae hefyd yn iaith ryngwladol sy'n ein galluogi i siarad a phobloedd mewn sawl gwlad arall. Yn rhai o wledydd y dwyrain mae Saesneg yn "iaith ryddid"; Almaeneg neu Rwsieg yw ieithoedd gormes yn y Weriniaeth Jec er enghraifft.
Ond nol yng Nghymru mae siarad Saesneg gystal ag ildio'r ddadl dros y Gymraeg heb yngan gair. Gwnewch bopeth yn Gymraeg.
Dwi'n teimlo'r pwysau i gario mlaen ond teimlo'r pwysau i gael eraill i wneud hefyd. A fydd criw Aber yn cario mlaen? Byddai'n braf meddwl hynny. Fydd y gyfres pan gaiff ei darlledu yn ysgogi eraill i wneud run fath? Byddai'n braf meddwl hynny hefyd.
... ond sut mae gwneud y peth yn fwy atyniadol ac yn llai o fwrn?
(Achos mi fydd hi'n ymddangos yn faich i lawer)
Beth am wneud PyG ar un diwrnod o'r wythnos
e.e. Wednesdays for Welsh, fatha Dress Down Friday...
Neu beth am ymgyrch i normaleiddio un gair ar y tro?
Cael pawb i ddweud "diolch"yn lle "thanks"? National Diolch yn Fawr Week??!!
Fesul gair mae ieithoedd yn cael eu colli; pam ddim ei hadennill fesul gair?
Byddwch hyderus, byddwch gyfeillgar, dyfalbarhewch...
Gwnewch Bopeth yn Gymraeg!!
Mwynhewch!