PAM?

Un dyn, un iaith, un wlad - un sialens. Ifor ap Glyn sy'n egluro beth a'i hysgogodd i gychwyn ar daith o gwmpas Cymru gan geisio gwneud Popeth yn Gymraeg...

“Mae hi'n anodd dweud lle'n union y dechreuodd y syniad ar gyfer yr arbrawf yma - nôl yn Llundain pan o'n i'n tyfu i fyny am wn i!

 

Dylanwadau Cynnar

Ddiwedd y saithdegau ro'n i'n derbyn cylchgrawn Y Faner drwy'r post bob wythnos, ac yn ei ddarllen ar y tiwb ar y ffordd i'r ysgol, fel ffordd o wella Nghymraeg. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae gen i gof darllen erthygl am Robat Gruffudd Y Lolfa, a chriw o rai eraill yn galw am bobl i gyfamodi i ddefnyddio'r Gymraeg yn unig. Chlywais i ddim byd wedyn am sut hwyl gawson nhw ond roedd hedyn wedi ei blannu."

picture of posterAc roedd poster enwog Cymdeithas yr Iaith, gyda dau.n cusanu dan y geiriau "Gwnewch Bopeth yn Gymraeg" hefyd yn dipyn o eicon.

picture of posterRoedd darganfod roc Cymraeg yn dipyn o agoriad llygaid – yn enwedig Geraint Jarman a chwaraeodd gig yn Llundain pan o'n i'n dal i fyw yno.

'Da ni'n cymryd cerddoriaeth Gymraeg mor ganiataol erbyn hyn, fel ei bod hi'n anodd cofio bellach pa mor chwyldroadol oedd peth felly yr adeg honno, nôl tua diwedd y 70au.

Wrth ganu mewn band fy hun ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach, ac wrth deithio gyda'r beirdd wedyn, cefais flas ar deithio drwy wahanol rannau o Gymru a ffurfio fy mapiau fy hun o'r sefyllfa ieithyddol ar draws ein gwlad.