SUT I...

Cyngor Ifor ar wneud 'Popeth yn Gymraeg'

 

rhif 1Gwena a bydd yn gyfeillgar!

 

rhif 2Bydd yn barod i ymateb i'r Saesneg, ond gwna hynny'n Gymraeg! Paid â rhoi'r argraff nad wyt ti'n deall unrhyw iaith ar wahân i'r Gymraeg.

 

rhif 3Bydd yn barod i ysgwyd llaw gyda phobl - mae'n ffordd o ddangos nad wyt ti'n trio'u bychanu nhw.

 

rhif 4Meddylia am eiriau fyddai pobl yn debygol o fod wedi eu clywed yn barod, a phlanna'r geiriau allweddol hyn yma ac acw yn dy sgwrs.

 

rhif 5Paid â throi i'r Saesneg - er mor gyfleus ydyw! Mae gwobr i'w gael o ddyfalbarhau.

 

rhif 6Bydd angen hyder arnat - llond troll ohono fo!

 

rhif 7Mae cyswllt llygaid yn bwysig o ran mynegi eich hunain yn effeithiol. Bydd yn hyderus yn yr hun yr wyt ti'n neud!

 

rhif 8Bydd yn barod i ddefnyddio ystumiau i ddisgrifio'r hyn wyt ti'n ei ddweud.

 

rhif 9Siarada'n glir, gan ynganu pob gair yn eglur, a cheisia fod mor gryno â phosib...

 

rhif 10...Ond paid â siarad yn nawddoglyd o glir - paid codi dy lais - mae'n fwy tebygol o wylltio rhywun na'i helpu i ddeall.