Un dyn, un iaith, un wlad - un sialens. Ifor ap Glyn sy'n egluro beth a'i hysgogodd i gychwyn ar daith o gwmpas Cymru gan geisio gwneud Popeth yn Gymraeg...
“Mae hi'n anodd dweud lle'n union y dechreuodd y syniad ar gyfer yr arbrawf yma - nôl yn Llundain pan o'n i'n tyfu i fyny am wn i!
Ond efallai'r ffordd orau o esbonio "Pam?" yw hefo'r straeon bach canlynol:
Disgwyl croesi'r lôn on i, a merch newydd barcio car wrth f'ymyl. "Di otsh mod i ar y pafin dwad?" meddai hi wrth gloi ei char. Doeddwn i ddim yn ei hadnabod hi...
Pasio ty arall ddiwrnod wedyn, a'r sawl oedd yn byw yno ar hanner cychwyn allan drwy'r drws. Ceg yn agor i nghyfarch, yna'n cau'n araf fel pysgodyn "Sori, on i'n meddwl mai chdi oedd y postmon"
Pytiau sgwrs ar ymyl stryd yng Nghaernarfon. Dieithriaid yn cyfarfod, yn ffeirio sylwadau ac yn gwahanu. Dim mwy na hynny. Ond yna sylweddolais fod peth arwyddocad i'r sgyrsiau hyn. Digwyddon nhw yn Gymraeg.
Mae popeth yn Gymraeg yng Nghaernarfon fwy neu lai. Ond pa mor aml mae sgyrsiau fel uchod yn digwydd ar hap mewn rhannau eraill o Gymru?
Penderfynais i ffeindio allan! A dyna fan cychwyn Popeth yn Gymraeg...