Rhaglen 1
Popeth yn Wyrdd - Rhaglen 1
Gwylio'r clip arbennig o gynllun rhaglen 1
Yn y rhaglen hon, bydd Ifor yn ymweld â Chastellnewydd Emlyn i geisio gweld a ydy hi'n bosibl i gael gwared ar fagiau plastig o'r dref. Bydd angen cefnogaeth y cyngor, y siopau a phobl y dref – beth fydd canlyniad yr ymgyrch?
Newyddion yr Ymgyrch
Mae'r ymgyrch yn mynd o nerth i nerth yng Nghastell Newydd Emlyn. Mae amryw o fasnachwyr yn dweud nad ydyn nhw am adnewyddu eu cyflenwad o fagiau plastig unwaith mae’r stoc presennol wedi dod i ben. Mae'r cyngor hefyd yn bwriadau codi arwyddion yn y dre i ddweud wrth bobl ei bod hi ar ei ffordd i fod yn ddi-fag plastig.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ymgyrch debyg, darllenwch y canllawiau yma...
mwy »
Trefnu Ymgyrch Tref Ddi-fag Plastig
- Ymweld â gwefan Modbury, sef y dref gyntaf ddi-fag plastig ym Mhrydain, i ymchwilio i'r rhesymau lu am gychwyn ymgyrch yn eich tref chi - www.plasticbagfree.com
- Cysylltu a thrafod â chyngor y dref i sefydlu cefnogaeth i'r ymgyrch.
- Holi ac ennill cefnogaeth i'r ymgyrch ymysg masnachwyr.
- Ymweld â’r ysgol leol a’r eglwys / capel i ofyn am gymorth e.e. cyfeillion yr eglwys / capel i wneud bagiau cotwm i werthu'n lleol, a'r ysgol i gynnal cystadleuaeth dylunio logo ar gyfer y bagiau.
- Pennu dyddiad a threfnu lleoliad i gynnal cyfarfod i'r masnachwyr er mwyn trafod oblygiadau dod yn dref ddi-fag plastig – efallai bydd cyngor y dref yn fodlon helpu gyda'r gost hon.
- Codi posteri, dosbarthu 'flyers' a gyrru datganiad i'r wasg i hysbysebu'r noson.
- Gwahodd siaradwyr i annerch y cyfarfod, e.e. cynrychiolydd o Cadw Cymru’n Daclus neu aelod o grŵp amgylcheddol lleol.
- Ar ôl cyfarfod y masnachwyr, trefnu dangosiad sydd hefyd yn agored i'r cyhoedd o 'Hawaii - Message in the Waves' - ffilm sy'n dangos effaith llygredd plastig ar y blaned, neu ffilmiau eraill sy'n edrych ar y pwnc (mae manylion pellach am sut i gael gafael ar gopi o'r ffilm ar wefan Modbury).
- Cynnal pleidlais i sefydlu cefnogaeth i'r ymgyrch gan bennu dyddiad penodol i ddatgan fod eich tref yn un ddi-fag plastig.
- Codi ymwybyddiaeth yn lleol o ganlyniad y bleidlais.
« llai
[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]