YR IAITH AR DAITH

Un dyn, un iaith, un sialens. Y Bardd Ifor ap Glyn wedi ymgymryd â'r her o deithio Cymru - a thu hwnt, gan wneud 'Popeth yn Gymraeg'. Ond a fydd ei daith yn llwyddiannus yn eich ardal chi tybed?

 

Rhaglen 2, Dydd Mawrth, 29 Tachwedd, 2005

Arberth - 35% yn siarad Cymraeg yn 1991. 24% yn siarad Cymraeg yn 2001

Llanboidy
91.4% yn siarad Cymraeg yn 1891
54.4% yn siarad Cymraeg yn 2001
Trefdraeth
95.2% yn siarad Cymraeg yn 1891
48.6% yn siarad Cymraeg yn 2001
Tyddewi
90.7% yn siarad Cymraeg yn 1891
36.0% yn siarad Cymraeg yn 2001

A hithau'n ganmlwyddiant y ffotograffydd John Thomas, bydd Ifor heno'n teithio trwy Sir Benfro’n ail-greu rhai o ffotograffau'r gwr hwnnw - a hynny trwy wneud 'Popeth yn Gymraeg' wrth gwrs!

Mae'r daith yn ei arwain o Arberth i Lanboidy a Threfdraeth, cyn cyrraedd dinas Tyddewi ar ddiwrnod arwyddocaol iawn – Dydd Gwyl Dewi! Ond sut ymateb fydd yn ei ganfod yn y mannau hynny, ac amser yn unig a ddengys os fydd Ifor yn llwyddo i gyfathrebu trwy ddefnyddio delweddau.

picture from the programme picture from the programme picture from the programme picture from the programme picture from the programme picture from the programme picture from the programme picture from the programme