Un dyn, un iaith, un sialens. Y Bardd Ifor ap Glyn wedi ymgymryd â'r her o deithio Cymru - a thu hwnt, gan wneud 'Popeth yn Gymraeg'. Ond a fydd ei daith yn llwyddiannus yn eich ardal chi tybed?
Ardal Llysfasi - 53.4% yn siarad Cymraeg yn 2001
Ardal Bryncunallt - 11.3% yn siarad Cymraeg yn 2001
Ardal Alrhe - 10.0% yn siarad Cymraeg yn 2001
Ardal Bwrras - 11.7% yn siarad Cymraeg yn 2001
Canol Wrecsam - 12.1% yn siarad Cymraeg yn 2001
Caerwys - 23.6% yn siarad Cymraeg yn 2001
Ardal Brynteg - 9.8% yn siarad Cymraeg yn 2001
400 mlynedd yn ôl, enillodd bardd crwydrol Rhys Cain, £23 - oedd yn ffortiwn bryd hynny - yn barddoni mewn tai uchelwyr gogledd ddwyrain Cymru. Faint fyddai Ifor, fel bardd yn yr unfed-ganrif-ar-ddeg, yn ei ennill wrth ddilyn yr un daith tybed?
Dechreua'r daith ym Mhlasty Henllan yn Nyffryn Clwyd, cyn mynd ymlaen i ardaloedd Bryncuallt, Alrhe a Bwrras. Ymlaen ag ef wedyn i Wrecsam, Brynteg a Chaerwys. Bydd ei ymweliad olaf i Groesoswallt, yn golygu iddo groesi'r ffin draw i Loegr - faint o Gymraeg fydd yn fanno tybed, a beth fydd cyfanswm Ifor wedi'r clera?