Un dyn, un iaith, un sialens. Y Bardd Ifor ap Glyn wedi ymgymryd â'r her o deithio Cymru - a thu hwnt, gan wneud 'Popeth yn Gymraeg'. Ond a fydd ei daith yn llwyddiannus yn eich ardal chi tybed?
Tregaron - 67.9% yn siarad Cymraeg yn 2001
Llanymddyfri - 47% yn siarad Cymraeg yn 2001
Aberhonddu - 14% yn siarad Cymraeg yn 2001
Heno, cawn weld Ifor, a gafodd ei eni a'i fagu yn Llundain, yn olrhain ei wreiddiau Cymreig ac yn dychwelyd i Bontrhydfendigaid, ger Aberystwyth, ar drywydd ei achau. Arferai ei hen dad-cu fod yn borthmon yn y parthau hyn - galwedigaeth gyffredin iawn bryd hynny, ond sut hwyl fydd Ifor yn ei gael tybed?
Byddai gwaith ei hen dad-cu, Thomas Hughes, wedi ei alw i farchnadoedd Llundain yn fynych, felly i ffwr' ag Ifor i ddilyn ôl ei droed - a hynny gyda chydymaith go unigryw!