Un dyn, un iaith, un sialens. Y Bardd Ifor ap Glyn wedi ymgymryd â'r her o deithio Cymru - a thu hwnt, gan wneud 'Popeth yn Gymraeg'. Ond a fydd ei daith yn llwyddiannus yn eich ardal chi tybed?
Betws y Coed – 55.8% yn siarad Cymraeg yn 2001
Conwy – 33.2% yn siarad Cymraeg yn 2001
Wrth nesáu at ddiwedd ei daith, ac wedi siwrne go gythryblus, penderfyna Ifor ei bod hi'n bryd am hoe fach. A lle gwell i fynd ar wyliau nag i Landudno? Ond gyda llai na chwarter poblogaeth y dref yn siarad Cymraeg, gallai'r gwyliau brofi'n waith caled tu hwnt - yn enwedig ag yntau'n awyddus i weld os fydd ymateb pobl yn wahanol i ffwrdd o olwg y camera!
Fydd pobl yn ymddwyn yn wahanol gan feddwl nad ydynt yn cael eu ffilmio - er bod Ifor wedi celu camera cudd ym mhoced ei siaced ledr! Ac wrth iddo groesi'r bont am Gonwy, a fydd yr arbrawf yn datgelu canlyniadau gwahanol yn y fan honno?