Un dyn, un iaith, un sialens. Y Bardd Ifor ap Glyn wedi ymgymryd รข'r her o deithio Cymru - a thu hwnt, gan wneud 'Popeth yn Gymraeg'. Ond a fydd ei daith yn llwyddiannus yn eich ardal chi tybed?
Aberystwyth - a diwedd y daith i Ifor. Dros yr wythnos ddiwethaf rydym wedi ei weld yn ymdrechu i wneud 'Popeth yn Gymraeg' ar hyd a lled Cymru. Bellach, mae'n bryd iddo drosglwyddo'r awenau i'w wirfoddolwyr, er mwyn lledaenu'r neges o ddefnyddio'r Gymraeg yn gyntaf bob amser.
Penderfyna gynnal arbrawf yn y dref ger y lli, i ddenu eraill i ymuno ag ef yn yr ymgyrch. A fydd y gwirfoddolwyr hyn yn llwyddo'n eu tasg - a chydag Ifor yn cael cryn drafferth i ennyn diddordeb yn yr arbrawf ar strydoedd y dref, a fydd gwirfoddolwyr o gwbl?