Mae hi’n bryd i Ifor drosglwyddo’r awennau, ac annog eraill i wneud ‘Popeth yn Gymraeg’, ond pwy yw’r ‘disgyblion’ dewr wnaeth dderbyn yr her o wneud ‘Popeth yn Gymraeg’?
Myfyriwr ugain oed, o Bentyrch ger Caerdydd yw Ioan. Ar hyn o bryd, mae’n ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ac yn astudio Hanes.
Mae Adam yn fyfyriwr ugain oed o Bencoed yn wreiddiol. Ar hyn o bryd, mae yn ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, ac yn dilyn cwrs gradd yn y Gyfraith.
Mae Dafydd Gerallt Jones, neu Deio, yn fyfyriwr 21 mlwydd oed o Lanllyfni, ger Caernarfon. Ar hyn o bryd, mae’n ei drydedd flwyddyn o astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.
Myfyriwr 21 mlwydd oed o Lanharri, ger Caerdydd. Ar hyn o bryd, mae Aled yn ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, ac yn astudio Daeryddiaeth.
Myfyrwraig 20 mlwydd oed o Gaernarfon yw Lleucu. Ar y funud mae hi’n ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth yn astudio Drama.
Myfyrwraig 21 mlwydd oed o Harlech yn wreiddiol yw Nicola, neu Nicky John fel y caiff ei hadnabod. Ar hyn o bryd mae hi’n treulio’r rhan fwyaf o’i hamser yn Aberystwyth, ble mae ar ei blwyddyn olaf yn astudio Drama a Theatr yn y Brifysgol yno.
Mae Rhodri yn 31 mlwydd oed ac yn wreiddiol o Bontypridd. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel Swyddog Iaith i Fenter Iaith Ceredigion. Mae ei ddiddordebau yn cynnwys cefnogi a dilyn Clwb Pêl-Droed Abertawe (obsesif ffan yn ei eiriau ei hun!) a (thrio!) cadw’n ffit.
Mae Elizabeth yn 58 oed ac yn enedigol o Cellan ger Llanbedr Pont Steffan. Bellach, mae hi wedi ymgartrefu yn Nhaliesin, ger Aberystwyth. Yn athrawes wedi ymddeol, Elizabeth yw Swyddog Datblygu Merched y Wawr Ceredigion a Phenfro.
Mae Endaf yn 20 oed ac yn dod o Lanarmon Dyffryn Ceiriog. Ar hyn o bryd mae o yn ei drydedd flwyddyn yn y coleg ac yn dilyn cwrs gradd mewn Chwaraeon a Gwyddoniaeth Chwaraeon.