Y GWIRFODDOLWYR

Wedi ateb hysbyseb Ifor, a roddwyd ym mhapurau newydd yr ardal, cyrhaeddodd naw disgybl chwilfrydig i fwyty’r Orendy yn Aberystwyth. Rhoddodd Ifor dasg unigol i bob un o’r disgyblion, ond sut hwyl gawson nhw arni tybed…?

 

Deio Jones

Mi oedd yn rhaid i fi fynd i mewn i siop anifail anwes i ofyn am ‘botel ddŵr i gwningen’. Doedd perchennog y siop ddim yn gallu siarad Cymraeg medda fo (er mi ddeudodd o hynny yn Gymraeg!!) ac i fod yn onest, roedd o’n beth mor anarferol i orfod gofyn amdano doeddwn i ddim yn meddwl fod gen i fawr o obaith, ond o bwyso arno roedd o’n amlwg yn deall mwy nag oedd o yn ei gyfaddef ac mi gefais y botel yn ddigon di drafferth.

 

Lleucu Siôn

Roedd yn rhaid i mi gerdded o gwmpas strydoedd Aber yn gofyn am gyfarwyddiadau i gyrraedd y pwll nofio a hynny gan ddefnyddio’r Gymraeg yn unig. Roeddwn i yn nerfus iawn ar y dechrau gan fod hi’n amhosibl gwybod sut fath o ymateb yr oeddwn i am ei gael, ond sioc ar yr ochr ore ges i mewn gwirionedd. Roedd pawb y dois i ar eu traws yn arbennig o gwrtais, ac yn bwysicach wedi gallu deall yr hyn oedd gen i i’w ddweud.

 

Ioan Rhys Davies

Yr unig wir ofn oedd gennyf oedd pe bai siopwr yn gwylltio gyda mi am beidio troi i’r Saesneg! [Ond] pan fentrais i mewn i’r siop frechdannau… yn ffodus iawn, roedd hi’n gyfeillgar tu hwnt, ac fe wnaeth bob ymdrech i ddefnyddio’r ychydig Gymraeg oedd ganddi i wrando arnaf – er y bu’n rhaid i mi ddynwared iâr â’m breichiau!

 

Nicola Zoe John

Buan iawn y gwelsom fod y rheini gyda’r ddealltwriaeth leiaf o’r iaith yn pigo ambell air allan, ac yn deall y cwestiwn/brawddeg yn y pen draw, hyd yn oed os bu’n rhaid dibynnu ar ystum ambell waith.

 

Endaf Owens

Ar ôl trafod mewn grwp roedd rhai ohonynt am gael ein ffilmio yn mynd o amgylch tref Aberystwyth yn holi am y ffordd i rhywle yn y dref er enghraifft lle oedd cloc y dre. Dyna’r sialens gefais i, ar y dechrau roedd hi’n anodd cael bobl i stopio i siarad o flaen y camera ac i ddeall be oeddwn i yn trio gofyn iddyn nhw. A dyna be oedd yn sioc i mi wrth siarad i bobl ar strydoedd Aberystwyth, faint ohonyn nhw oedd ddim yn siarad na deall cymraeg.

 

Rhodri Francis

Fe es i i Siop John Evans, siop ddillad i ddynion yng nghanol y dref yn Aberystwyth. Prynnu hances wên a sannau glas oedd y dasg! Wrth gerdded mewn i’r siop, gofynnais am hances gwyn a sannau glas yn Gymraeg, ac fe ddywedodd ( yn Gymraeg!!) nad yw yn siarad yn Gymraeg! Parhais i siarad yn Gymraeg,ac mi ymatebodd yn Gymraeg, er gwaetha dweud ar y dechrau nad yw yn siarad yn Gymraeg. Nid oedd ganddo hances gwyn, felly fe ofynnais am hances ddu. Ar ôl dewis yr hances ar sannau, aethom lan at y cownter, talu, ac yna gadael.

 

Aled Hopkin

Roeddwn yn nerfys iawn ar y dechrau ond roedd y paratoi a’r trafod wedi rhoi mwy o hyder i mi. Roedd y criw i gyd yn gyfeillgar ac yn barod i ateb unrhyw gwestiwn oedd gennaf. Ges i hwyl wrth gwblhau y sialens ges i gan Ifor, ac roedd y profiad wedi rhoi mwy o hyder i mi i siarad Cymraeg i bobl nag wyf yn adnabod.

 

Adam Frewen

Yn sicr, mae'r profiad yma wedi fy anog i ddyfal barhau i siarad cymraeg yn enwedig efo pobl nad wyf yn eu hadnabod. Gwnaeth y tim fy mharatoi yn dda cyn i mi fentro i'r strydoedd ac er i mi fod yn nerfus i ddechrau, gwnes fagu hyder erbyn y diwedd.

 

Elizabeth Evans

Fy nhasg i o’dd prynu pensil goch, pad o bapur A5 a miniwr mewn siop deunyddiau arlunio. Ro’dd e’n syndod o rwydd a dweud y gwir. Rwy’ wedi body n mynd i’r siop na ers nifer fawr o flynyddoedd ac erio’d wedi cael arddeall ei fod e’n deall cymaint o Gymraeg ag o’dd e’n gallu. Hwyrach bod na nifer fawr o lefydd eraill yn Aberystwyth yr un fath.

 

RHODRI FRANCIS

31 year old fitness fanatic Rhodri originally hails from Pontypridd, but is currently living in Aberystwyth and working as a Language Officer for Ceredigion. His spare time is spent following Swansea Football Club.