Yr hun dwi wedi sylweddoli o’r profiad yma yw fod llawer o bobl yn deall digon o Gymraeg i allu cyfathrebu, ond efallai ddim gyda’r hyder i’w ddefnyddio.
A ydy’r cyfrifiad yn adlewyrchu’r gwirionedd ynglyn â nifer siaradwyr Cymraeg? Dwi’n amau…
Profodd yr arbrawf ei hun… fod pawb sydd yn byw yng Nghymru yn deall ychydig eiriau, ac mewn gwirionedd mae’r ychydig eiriau hynny yn gallu mynd yn bell, a phwy â ŵyr drwy wthio eraill i wneud yr hyn wnaethom ni’r diwrnod hwnnw o ddydd i ddydd, efallai y gall fynd mor bell a’r ganrif nesa.
Mae’n amlwg bod nifer sylweddol yn deall yr iaith ond heb fod yn ddigon hyderus i’w defnyddio. Neges amlwg i ni yma.
Ar y dechrau roedd hi’n anodd cael pobl i stopio i siarad o flaen y camera ac i ddeall yr hyn oeddwn i yn trio gofyn iddyn nhw… Ond dysgais i, wrth ddyfalbarhau a siarad yn garedig i’r bobl yma mi roedd yn bosib iddyn nhw ddeall yr iaith Gymraeg a rhoi’r cyfeiriadau cywir i mi gyrraedd cloc y dre.
Roedd yn syndod i mi faint o Gymraeg roedd bobl yn medru deall a siarad hyd yn oed ar ôl dweud “dim ond yn siarad tipyn bach”. Roedd hyn yn bwynt pwysig i mi gan fy mod yn nabod lot o ddysgwyr a pobl sydd ddim yn ymarfer yr iaith yn gyson. Roedd hwn yn sbardun i mi ymdrechu i geisio annog hyder ac ymarfer Cymraeg gyda’r bobl hyn.
Yn sicr, rydw i am gofio o hyn ymlaen i ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg.
Yn sicr, mae’r profiad yma wedi fy annog i ddyfal barhau i siarad Cymraeg yn enwedig efo pobl nad wyf yn eu hadnabod.
Efallai… pe bawn ni’n ymarfer defnyddio’r Gymraeg yn ystod ein tasgau dyddiol, byddwn yn rhoi’r hwb sydd angen ar eraill i ymgeisio’r Gymraeg yn hytrach na’i wrthod.