Neidio at y cynnwys

S4C

Ifor ap Glyn

Ffeithiau diddorol

Ifor ap Glyn ydy Bardd Plant Cymru 2008-9. Bydd yn ymweld â phlant mewn ysgolion ac yn cynnal gweithdai barddoniaeth e-bost.

Mae Ifor yn gweithio fel cyflwynydd a chynhyrchydd teledu.

Yn 2005, cyflwynodd Ifor gyfres i S4C o'r enw Popeth yn Gymraeg, pan deithiodd o gwmpas Cymru'n ceisio defnyddio dim ond y Gymraeg.

Yn Popeth yn Wyrdd, mae'n troi ei sylw at yr amgylchedd – faint o'r trafod sy'n heip ac faint sy'n jargon diystyr? Sut allwn ni wneud ein rhan i helpu? A pham fod Ifor mewn gwisg mynach? Rhaid gwylio i weld...

Cafodd Ifor ei eni a'i fagu yn Llundain, ac mae e'n cofio teithio i'r Ysgol Sul ar y Tube. Roedd e mor hoff o fap y system drenau enwog nes y galwodd 'Cerddi Map yr Underground' ar un o'i gyfrolau o farddoniaeth.

Mae Ifor yn byw yng Nghaernarfon gyda'i deulu – mae ganddo 4 o blant, ac mae gweld y byd trwy eu llygaid nhw yn ysbrydoli nifer o'i gerddi.

Enillodd Ifor Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1999.