Ein hôl troed carbon – un o idiomau jargon mwyaf cyffredin ymgyrchu dros yr amgylchedd. Beth yw ei ystyr? Pam ei fod yn bwysig? Ac os yw'n niweidiol, oes ffordd i ni gyd leihau'n holion traed? Bydd Ifor yn edrych ar yr holl elfennau sy'n rhan o'r drafodaeth werdd o ran ein defnydd o ynni a sut y gallai effeithio ar y dyfodol.
Yr Ôl Troed Carbon
"Ma' gennym ni i gyd ôl troed carbon oherwydd y dewisiadau 'dan ni'n eu neud. Os dwi'n dewis bwyta tomato sy' 'di cael ei fflio i mewn o Affrica neu Sbaen, yn sgil y daith yna ma' 'na lot o garbon deuocsid wedi cael ei ollwng a ma' hynny'n rhan o fy ôl troed carbon i..."
Morgan Parry, WWF Cymru
Mae 'blanced' o nwyon wedi ei lapio o amgylch y byd sy'n helpu i gadw'r blaned yn gynnes a chadw gwres yr haul i mewn. Mae carbon deuocsid yn rhan bwysig o'r broses yma – mae bywyd ar y ddaear yn ddibynnol arno.
Ond mae'n ffordd ni o fyw yn cynhyrchu mwy o lawer o garbon deuocsid na sydd ei angen i gynnal bywyd - tunelli ohono bob dydd.
Mae llawer ohono'n cael ei greu wrth losgi tanwydd ffosil (e.e. glo, olew a nwy) ar gyfer bywyd bob dydd. Mae hyn trwy ddefnyddio trydan, cynhyrchu a phrynu nwyddau a bwyd, a gyrru ceir.
Mae'r carbon deuocsid ychwanegol yma'n dwysáu effaith cynhesu’r 'blanced' o nwyon o gwmpas y ddaear. Mae hyn yn arwain at or-gynhesu a chynnydd yn nhymheredd y blaned.
Gallai fod effeithiau hyn yn drychinebus. Buasai lefelau'r môr yn codi ac yn boddi gwledydd isel a mannau arfordirol. Gallai'r newid mewn patrymau tywydd arwain at sychder mawr a newyn. Mae rhywfaint o dystiolaeth fod patrymau fel hyn yn datblygu eisoes.
Carbon Niwtral?
"Ma' 'na lot o bobl efo syniad dy fod ti'n cael creu carbon ac wedyn os wyt ti'n plannu coed ma' pob dim am fod yn iawn. Ond ma' gen i newyddion drwg – 'dio'm cweit mor hawdd â hynny."
Lea Hughes, Coed Cadw
Egwyddor gwrthbwyso carbon ydi bod eich bod chi'n talu rhywun i arbed yr un faint o garbon ag sy'n cael ei gynhyrchu gennych.
Mae prosiectau gwrthbwyso'n cynnwys: plannu coed, gan fod coed a phlanhigion gwyrdd yn amsugno carbon deuocsid yn naturiol; a buddsoddi mewn technoleg tanwydd effeithlon neu brosiectau ynni adnewyddadwy.
Ond nid yw gwrthbwyso carbon yn gwrthdroi'r effeithiau sydd wedi eu hachosi gan y carbon deuocsid sydd wedi ei gynhyrchu'n barod.
Mae'n rhaid i ni leihau faint o garbon sy'n cael ei gynhyrchu yn y lle cyntaf. Am fwy o wybodaeth am ffyrdd i wneud hyn ar lefel bersonol, ewch at www.energysavingwales.org.uk. Ar lefel ehangach, gallwch chi gysylltu â'ch Aelod Cynulliad neu Aelod Seneddol i ofyn sut maen nhw'n gweithredu ar eich rhan ar lefel llywodraethol.
« llai