Cysylltiadau
Tîm Marchnata, Adran Gyfathrebu
Mae dwy ochr i waith yr Adran Farchnata – hyrwyddo ar y sgrîn a hyrwyddo oddi ar y sgrîn.
Hyrwyddo ar y Sgrîn
Yr adain hon o'r Adran Farchnata sy'n gyfrifol am hyrwyddo rhaglenni S4C ar y sgrîn, yn bennaf trwy gynhyrchu promos ar gyfer rhaglenni. Maent hefyd yn gyfrifol am ddatblygu delwedd y sianel ar y sgrîn trwy gynhyrchu cyfres o 'idents'.
Hyrwyddo oddi ar y Sgrîn
Yr adain hon sydd yn gyfrifol am hyrwyddo gwaith S4C oddi ar y sgrîn gan gynllunio a gweithredu ymgyrchoedd mewn amryw o gyfryngau: trwy hysbysebion yn y wasg, ar bosteri allanol, ar radio lleol a thrwy gystadlaethau. Maent hefyd yn gyfrifol am drefnu lawnsiadau i'r wasg pan fydd cyfres newydd yn cychwyn, trefnu cyfarfodydd cyhoeddus S4C a sicrhau presenoldeb S4C mewn gweithgareddau cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae Gwasg S4C, Hughes a'i Fab, hefyd wedi ei lleoli yn yr Adran Farchnata a hwy sydd yn gyfrifol am gynhyrchu llyfrau, CD's a fideos i gyd-fynd â rhaglenni S4C.
Yr Adran Farchnata ac Adran y Wasg ar y cyd sydd yn gyfrifol am reoli delwedd S4C drwy sicrhau cysondeb yn yr holl waith hyrwyddo.
- Eleri Twynog Davies
- Rheolwraig
- marchnat// Hide this address from spam bots //a-sc@s4c.co.uk
