Cysylltiadau

Swyddfa'r Wasg, Adran Gyfathrebu

Mae gwaith Adran y Wasg S4C, yn fras, wedi’u rhannu yn dair rhan: hyrwyddo rhaglenni, hyrwyddo brand corfforaethol y sianel a hyrwyddo rôl S4C Rhyngwladol.

Rhaglenni

Yn wythnosol, mae’r Adran yn paratoi pecyn gwybodaeth rhaglenni sy’n cynnwys 4-5 erthygl am raglenni Cymraeg S4C, ynghyd ag amserlenni S4C ac S4C Digidol. Fe anfonir y pecyn at y wasg a’r cyfryngau ledled Cymru a thu hwnt. Mae’r Adran hefyd yn cysylltu’n uniongyrchol â gwahanol bapurau gan ‘werthu’ straeon newyddion am raglenni a sêr y sianel. Mae’r Adran hefyd yn gyfrifol am ddarparu deunydd ar gyfer y system EPG a pharatoi copi ar gyfer ‘Pick of the Day’ gwahanol bapurau. Mae’r Adran yn cydweithio’n agos â’r Adran Farchnata i baratoi hysbysebion a deunydd hyrwyddo arall.

Corfforaethol

Mae’r Adran yn gyfrifol am hyrwyddo straeon corfforaethol S4C e.e. digwyddiadau, gwobrau, nawdd, cystadleuthau ayb. Mae’r Adran hefyd yn gyfrifol am gyhoeddi penodiadau newydd a chynhyrchu’r Adroddiad Blynyddol. Mae gwaith Gwifren Gwylwyr S4C yn dod o dan ambarél yr Adran hefyd. Mae’r Wifren wedi ei lleoli ym Mhorthmadog ac mae’n ymdrin ag ymholiadau o’r cyhoedd yn ddyddiol.

S4C Rhyngwladol

Mae’r Adran yn gyfrifol am hybu rôl S4C Rhyngwladol i’r wasg trwy baratoi datganiadau am werthiant rhaglenni, cyd-gynyrchiadau newydd a nawdd rhaglenni.

  • Hannah Thomas
  • Manager
  • y-wa// Hide from spam bots //sg-sc@s4c.co.uk