Cysylltiadau

Cyfarwyddiaeth Materion Busnes

Mae'r Gyfarwyddiaeth Materion Busnes yn gyfrifol am agweddau busnes ac ariannol y broses o gomisiynu a chytundebu cynnwys i'w darlledu ar wasanaethau S4C. Mae'r gyfarwyddiaeth yn gweithio yn agos gyda'r unedau Comisiynu, Cynllunio, Cyfreithiol a Chyllid yn S4C.

Darperir gwasanaeth gweinyddol i'r broses gomisiynu, trafod ffîoedd trwydded ar gyfer y cynnwys, cyd lynnu'r manylion er mwyn paratoi cytundebau a monitro pob agwedd o’r gwaith gweinyddol yn ystod y broses o gynhyrchu a chyfleu'r cynnwys i S4C.

Yn ogystal, mae'r gyfarwyddiaeth yn casglu a phrosesu gwybodaeth ynglyn a defnydd cerddoriaeth yn y rhaglenni, y trels a'r promos a ddarlledir, ac yn gweinyddu amcangyfrifon a phrosesu taliadau ail-ddangos rhaglenni.

Os oes gennych gwestiwn ar gyfer, neu angen gwybodaeth pellach am, y gyfarwyddiaeth cysylltwch â:

  • Mair Williams
  • Tel: 029 2074 1479
  • cyl// hide from spam bots //lid-sc@s4c.co.uk

Cwestiynau Busnes

Yswiriant

Yswiriant ar gyfer Cynyrchiadau

Ni fydd cynllun hunan yswirio S4C yn weithredol ar ôl 31 Rhagfyr 2006.  Bydd angen i chi drefnu yswiriant eich hunain ar gyfer unrhyw gynhyrchiad sy'n cael ei gyfleu o ddechrau 2007 ymlaen ac fe ddylech gysylltu gyda brocer neu gwmni yswiriant i drafod eich anghenion a threfnu yswiriant addas a digonol ar gyfer eich cynyrchiadau.
Mae atebion i rai o'r cwestiynau ynglŷn â'r trefniadau newydd i'w cael yma

Pwy sydd yn gyfrifol am Iechyd a Diogelwch y cynhyrchiad?

Y Cynhyrchydd. Ni all unrhyw yswiriant gymryd lle asesiad risg cywir ac ymateb i unrhyw risgiau sy’n cael eu hadnabod yn y modd mwyaf effeithiol.

Taliadau a Bancio

Pryd fyddaf yn derbyn fy nhaliad cyntaf?

Bydd y taliad cyntaf yn cael ei wneud pan fyddwn yn derbyn anfoneb yn cyfateb gyda’r llif arian sydd wedi ei gytuno. Mae S4C yn gwneud rhan fwyaf o’r taliadau drwy BACS.

Beth sydd angen ar y Gyfarwyddiaeth Materion Busnes cyn y medraf gael arian ar gyfer cynhyrchiad newydd?

  1. Llythyr Banc.
  2. Llythyr cymell neu gytundeb safonol TAC gan bob cyfarwyddwr a chynhyrchydd.
  3. Cadarnhad fod y person cymwys yn meddu ar gymhwyster Iechyd a Diogelwch NVQ3 X3.
  4. Cytundeb comisiynu neu lythyr blaendal safonol S4C wedi ei arwyddo.
  5. Anfoneb.

Ar ba ffurf ddylai’r anfoneb fod?

Dylai anfoneb gael ei chyfeirio at S4C gyda theitl y rhaglen, rhif y cytundeb, dyddiad llif arian perthnasol, manylion cyfrif banc a rhif cofrestru TAW ( os yn berthnasol) wedi eu nodi arni. Dylai’r anfoneb fod ar bapur pennawd y cwmni, a dylid ei hanfon at sylw’r Rheolwr Uned.

Beth yw taliad BACS?

Ystyr BACS yw ‘Bank Automated Clearing System’. Mae hyn yn golygu ein bod yn talu’r arian yn electronig i mewn i’ch cyfrif banc. Mae taliadau yn cael eu gwneud bob Dydd Llun a Mercher – mae taliad BACS o’r DU yn cymryd 2 ddiwrnod gwaith i glirio.

Oes angen i mi drefnu cyfrif ymddiriedolaeth yn y banc?

Gofynnir am gyfrifon ymddiriedolaeth yn ôl disgresiwn S4C. Mae gan S4C ffurflenni safonol i gynorthwyo cynhyrchwyr i drefnu cyfrif ymddiriedolaeth. Gellir cael copïau o’r ffurflenni hyn ar y safle cynhyrchu yn yr adran Ffurflenni a Chanllawiau.

Oes gen i fformat llif arian safonol?

Mae templed llif arian i’w ganfod fel rhan o’r gyllideb 36 atodlen a ddefnyddir gan S4C. Mae fersiwn electroneg o’r gyllideb i’w chanfod ar y safle cynhyrchu yn yr adran Ffurlenni a Chanllawiau.

Pryd fyddaf yn cael y taliad olaf?

Bydd y taliad olaf yn cael ei wneud ar ôl i’r rhaglenni cael eu cyfleu a’u derbyn ac ar ôl i’r gwaith papur gael ei gymeradwyo.

Hawliau/Cliriadau a cherddoriaeth

Pwy sydd yn gyfrifol am glirio deunydd trydydd parti (cerddoriaeth / archif/ lluniau llonydd ayyb)?

Y cwmni cynhyrchu. Bydd y gwaith papur a anfonir i S4C ar ddiwedd y cynhyrchiad yn cadarnhau pa hawliau sydd wedi eu clirio.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng rhaglen ‘gliriedig’ ac un ‘gliriadwy’?

Os gofynnir am raglen gliriedig yna golyga hyn fod angen cytuno ar glirio’r hawliau a thalu amdanynt o fewn y pris cytundeb a gytunwyd.

Os gofynnir am raglen gliriadwy yna bydd disgwyl i’r cynhyrchydd drefnu bod modd cael yr hawliau yn y dyfodol (a chytuno hyn gyda’r deiliad hawliau) ond nid oes angen talu am yr hawliau hyn o fewn pris y cytundeb.

Sut y byddaf yn gwybod pa gliriadau sydd eu hangen?

Mae'r Cytundeb Comisiynu yn rhoi manylion y cliriadau sydd eu hangen. Dylai’r atodlen adlewyrchu’r hawliau a’r gost a gytunwyd wrth drafod y gyllideb gyda’r Rheolwr Uned.

Gellir cael gwybodaeth am anghenion safonol S4C fel arfer trwy edrych ar y safle cynhyrchu neu fel rhan o ddogfen dendr neu drwy siarad gyda’r Rheolwr Uned.

A oes gan S4C drwydded flanced gyda MCPS?

Mae gan S4C drwydded flanced ar gyfer y canlynol:

  • Yr hawl i recordio gweithiau cerddorol sy’n rhan o repertoire MCPS a cherddoriaeth llyfrgell fel rhan o drêls/ defnydd cyflwyno a linciau a gynhyrchir gan (neu ar gyfer) S4C i’w darlledu ar wasanaeth S4C.
  • Yr hawl i ddarlledu cerddoriaeth llyfrgell ar wasanaeth S4C.

Nid yw’r drwydded flanced yn rhoi’r hawl i ddefnyddio’r gerddoriaeth mewn rhaglenni a gomisiynir ar gyfer S4C. Dylai cynhyrchwyr sicrhau fod darpariaeth ariannol ddigonol yng nghyllideb y rhaglen a sicrhau’r drwydded angenrheidiol trwy gysylltu â John Hywel Morris yn MCPS Licensing - Ffôn 020 7309 4553.

A oes gan S4C trwydded flanced gyda PPL?

(a) Yr hawliau a ganiateir

Mae’r drwydded yn rhoi’r hawl i S4C (a’r Cyflenwyr a gomisiynir yn uniongyrchol gan S4C i gynhyrchu rhaglenni y mae gan S4C reolaeth olygyddol llwyr drostynt)

  1. 1. i ddarlledu ar S4CAnalog, S4C Digidol, a S4C2 unrhyw ddisg fasnachol neu unrhyw ran o ddisg fasnachol y mae PPL naill ai’n berchen neu yn rheoli’r hawlfraint ynddi. Y mae PPL yn berchen neu’n rheoli’r hawlfraint ym mhob recordiad sain sy’n berchen i’w haelodau. Rhaid cadarnhau bod perchennog yr hawlfraint yn aelod cyfredol o PPL os bwriedir defnyddio unrhyw gerddoriaeth sy’n rhan o repertoire PPL.
  2. i ddybio recordiadau sain o repertoire PPL i raglenni teledu ac eitemau cyflwyno ar gyfer eu defnyddio ar S4C Analog, S4C Digidol neu S4C2 yn unig.

Mae’n ddyletswydd ar S4C i ddarparu manylion i PPL o’r defnydd sydd wedi ei wneud o recordiadau sain yn repertoire PPL. Mae’r manylion hyn yn cael eu cyfleu trwy gyfrwng y daflen gerddoriaeth.

(b) Cyfyngiadau

Dylech fod yn ymwybodol o’r canlynol:

  1. 1. Rhaid i gyflenwyr sydd wedi eu comisiynu gan S4C gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan PPL cyn copïo unrhyw recordiad sain nad yw wedi ei drwyddedu neu ei ddefnydd wedi ei ganiatáu o dan dermau’r drwydded.
  2. 2. Ni all cyflenwyr, gymysgu, ail gymysgu, golygu neu newid mewn unrhyw fodd y sain sydd ar y recordiad sain fel bod y sain a ddarlledir ar Wasanaeth S4C yn wahanol i’r hyn sydd ar y recordiad sain gwreiddiol.
  3. 3. Ni all S4C ddefnyddio unrhyw recordiad sain ar y rhyngrwyd neu mewnrwyd neu unrhyw wasanaeth rhaglenni cebl.
  4. 4. Ni all S4C na’i chyflenwyr amharu ar na dinistrio unrhyw god sydd yn rhan o’r recordiad sain sydd wedi ei gynnwys er mwyn atal neu adnabod unrhyw gopi anghyfreithlon.
  5. 5. Rhaid i S4C a’i gyflenwyr fod yn ofalus wrth ddewis a defnyddio recordiadau sain fel nad ydynt yn fwriadol ddifrïo’r gwaith gwreiddiol neu unrhyw berfformiad a recordiwyd fel rhan ohono.

Rhaid i S4C a’i chyflenwyr gael caniatâd PPL os defnyddir unrhyw recordiad ar gyfer y canlynol:-

  1. fel rhan o unrhyw sain adnabyddiaeth ar gyfer S4C Analog, S4C Digidol a S4C2.
  2. fel arwyddgan neu ddarnau hyrwyddo nad ydynt yn gysylltiedig â darlledu gwasanaeth S4C.
  3. fel nod masnach neu frand sy’n ffordd o adnabod tarddiad y darllediad, rhan o’r darllediad neu fel arall.

Mae gan PPL yr hawl i wahardd dybio unrhyw recordiad sain drwy roi rhybudd rhesymol i S4C.

Mae trwydded flanced S4C gyda PPL (Phonograohic Performance Limited) wedi dod i ben ond, tra’n aros i PPL gynnig telerau er mwyn adnewyddu’r drwydded, mae S4C yn parhau i weithredu yn unol â thermau’r hen drwydded (‘y Drwydded’)

Ffurflenni Rhaglenni Gorffenedig (PACs)

Beth yw Ffurflenni Rhaglenni Gorffenedig a pham maent yn bwysig?

Mae 3 rhan i’r Ffurflenni Rhaglenni Gorffenedig (a adnabyddir hefyd fel PAC neu ‘Programme as Completed Form’):

  • PAC(a) sef ffurflen sy'n cadarnhau y data darlledu angenrheidiol. Dylid anfon hon i S4C yr un pryd a'r tp.
  • PAC(b) rhestr o’r cyfranwyr i’r rhaglen
  • PAC(c) dylid cwblhau’r ffurflen hon pan anfonir ‘rushes’ i S4C.

Mae’r ffurflen PAC(b) yn cadarnhau pa gyfranwyr sydd wedi ymddangos a pha ddeunydd trydydd parti sydd wedi ei ddefnyddio ym mhob rhaglen. Mae’r ffurflen hon yn bwysig gan mai dyma’r unig gofnod llawn ar gyfer y cynhyrchiad. Mae’n brawf fod pob parti wedi eu cytundebu a bod pob hawl trydydd parti wedi eu clirio neu yn gliriadwy. Mae angen yr wybodaeth ar gyfer darllediadau pellach o’r rhaglenni. Mae’n rheidrwydd ar S4C i adrodd gwahanol elfennau o’r wybodaeth i gymdeithasau casglu amrywiol.

Caiff y ffurflen ei hanfon i’r Uned Hawliau yn S4C ynghyd â’r gwahanol gytundebau. Mae’r ffurflenni ar gael mewn ffurf electronig yn unig a dylid eu hanfon i’r cyfeiriad e bost a nodir. Dylid anfon y cytundebau ac unrhyw ddogfennau ategol ar wahân yn y post i’r Uned Hawliau yn S4C.

Sut mae cael gafael ar y Ffurflenni Rhaglenni Gorffenedig (PAC)?

Mae’r ffurflenni ar gael mewn ffurf electronig, a gellir eu hanfon naill trwy e-bost neu ar ddisg. Gellir canfod y ffeil templed yn yr adran Ffurflenni a Chanllawiau ar safle gwe’r cynhyrchwyr. Mae S4C wedi bod yn datblygu cyfleustra ar lein ar gyfer cyflwyno gwybodaeth rhaglen. Bydd hwn ar gael mewn rhannau o bryd i’w gilydd yn ystod y flwyddyn nesa.

Beth sydd angen ei gyfleu?

 Dylai’r cynhyrchwyr gyfleu unrhyw ddogfennau neu gytundebau yn ymwneud â hawliau gwaelodol gyda’r PAC ( hyd yn oed os nad oedd taliad yn ofynnol). Dylid sicrhau’r canlynol felly yn ystod adeg cynhyrchu’r rhaglen:

  • Cytundeb neu ffurflen rhyddhau ar gyfer pob cyfrannwr (yn cynnwys perfformwyr ac awduron.)
  • Trwydded ar gyfer pob darn o gerddoriaeth a chytundeb cyfansoddwr os yw’r gerddoriaeth yn gerddoriaeth wreiddiol.
  • Trwydded gyda manylion cliriadau trydydd parti ar gyfer pob darn o archif neu ddeunydd llyfrgell ac ar gyfer pob llun llonydd.
  • Ffurflen ryddhau os ffilmiwyd ar gyfer unrhyw leoliad.
  • Cytundeb ar gyfer aelodau allweddol y criw – oni bai eu bod yn aelodau staff y cwmni.
  • Sgript(iau), llythyr gan unrhyw dai adnoddau a llythyr cymell.
  • Unrhyw ddogfennau ar gyfer cliriadau a oedd yn benodol i’r cynhyrchiad e.e cytundebau opsiwn

Beth yw dogfennau hawliau gwaelodol?

Y rhain yw’r copïau caled o bob cytundeb a thrwydded trydydd parti. Dylid eu cyfleu ar bapur ar wahân i’r PAC a anfonir yn electronig.

 

Beth yw'r canllawiau ar gyfer defnyddio clipiau o archif BBC Cymru?

Cliciwch fan hyn ar gyfer canllawiau i ddefnyddio clipiau o archif BBC Cymru.