Ffurflenni

Ffurflenni sy'n gysylltiedig a Chyfleu Rhaglenni

Os ydych yn defnyddio Apple Mac mae siawns na fyddwch yn gallu dadlwytho/agor rhai o'r ffurflenni hyn

Ffurflenni PAC

Mae ffurflenni pwrpasol (PAC, sy'n meddwl "Programme as Completed") yn darparu gwybodaeth hanfodol am bob rhaglen a gynhyrchir ar gyfer S4C, ac mae'n rhaid eu llewni ar gyfer pob cynhyrchiad.

Mae S4C ar hyn o bryd yn datblygu system newydd ar gyfer y ffurflenni 'PAC', a fydd yn gofyn i'r cwmnïau cynhyrchu rhoi'r wybodaeth am y rhaglenni i fewn ar-lein: cadwch olwg am ddatganiadau ar y wefan. Yn y cyfamser, dyma'r ffurflenni a fydd yn eich cynorthwyo i gyflawni'r gwaith angenrheidiol.

Canllawiau Defnyddiwr Ffurflenni PAC

I'ch cynorthwyo i lenwi'r ffurflenni PAC amrywiol

Eglurhad Cyflym i'r Ffuflen Cyfleu Rhaglen

Cyfarwyddiadau plaen am y ffordd orau i lenwi'r ffurflen PAC-a

CYFARWYDDIADAU CYFLYM I DDEFNYDDIO'R DOGFENNI ISOD:

Mae pob un o'r dogfennau hyn yn dod fel templedi ar gyfer Microsoft Word. Y syniad gorau yw i'w harbed fel templedi yn y ffolder 'Templates' ar eich disg caled, ac yna ddefnyddio'r rhein i greu dogfennau newydd.

Os ydych yn defnyddio Internet Explorer ar PC Windows, dylech:

  1. clicio gyda'r botwm dde dros enw'r ffurflen perthnasol
  2. dewis "save target as"
  3. arbed y ffeil yn y ffurf .dot yn y ffolder 'Templates' ar eich disg caled

Gallwch wedyn ddewis y templedi hyn i greu dogfennau newydd o fewn Microsoft Word, a fydd yn barod i chi roi manylion y rhaglenni i fewn iddynt. Gan fod y templedi yn cynnwys "macros", mae'n rhaid i chi glicio ar "enable macros" er mwyn gallu defnyddio'r gweithrediadau sydd ynddynt.

Ffurflen cyfleu rhaglen (PAC-a)

Dyma'r ffurflen sy'n gorfod cael ei lenwi pan yn cyfleu'r tâp i S4C. Mae'n cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol ar gyfer darlledu, ac hefyd y wybodaeth ar gyfer adrannau hysbysebu, marchnata, cyflwyno ac is-deitlo

  • Ffurflen Gyfraniadau (PAC-b1)
  • Ar gyfer gwybodaeth talu artistiaid a chytundebau Equity yn unig - i'w llenwi ar gyfer rhaglenni unigol neu ar ôl y bennod olaf yn y gyfres

Cliciwch yma am gopi o ddogfen Gofynion Cyfleu S4C