Neidio at y cynnwys

S4C

Canllawiau

Rhaglenni/Comisiynu

Canllawiau Cydymffurfiaeth S4C

Telerau Masnach a Chôd Ymarfer

Technegol

Cyfleu

Polisiau a Chanllawiau

Canllawiau Rhyngweithio

  • Cyflwyniad i'r Canllawiau

  • Cyflwyniad i'r Canllawiau
  • Rhaglenni Cystadleuaeth

  • 1. Rhaglen sy'n gystadleuaeth (e.e. Cwis)

    Fe ddylai elfennau unrhyw raglen sydd â fformat cystadleuaeth gael ei drafod gyda'r Golygydd Cynnwys perthnasol. Yn ychwanegol dylai fod strwythur pendant a rheolau wedi'i ystyried ar gyfer yr elfen gystadleuol wedi'i cyhoeddi o flaen llaw ac mewn lle amlwg i sicrhau fod y gystadleuaeth yn cael eu cynnal yn deg gyda threfniadau yn bodoli i ymateb pe byddai anghydfod yn codi. Dylid nodi'r trefniadau ar gyfer hyn yn glir yn y Briff Golygyddol a Busnes.
  • 1.1 Rheolau
  • 1.2 Cymalau Diogelu Data
  • Cystadleuaeth i ennill gwobrau

  • 2. Cystadleuaeth i ennill gwobr o fewn rhaglen , neu mewn gweithgaredd sy'n gysylltiedig â rhaglen.

    Mae angen derbyn caniatâd ysgrifenedig gan S4C cyn medru rhedeg cystadleuaeth i ennill gwobr mewn rhaglen. Wedi derbyn caniatâd i redeg cystadleuaeth i ennill gwobr, y cam nesaf yw llenwi ffurflen cystadlu, rheolau cyflawn, ac os bydd angen , sicrhau cytundeb ysgrifenedig gyda phob prosesydd data gan ymgorffori'r cymalau amddiffyn data i sicrhau trefniadau fod y gystadleuaeth ar gyfer ennill gwobr yn rhedeg yn llyfn.

    Dylai rhestr o reolau cyfreithlon addas fod ar gael yn hawdd i bob ymgeisydd posib i'r gystadleuaeth. Mae awgrym o strwythur y rheolau ar gael yn y linc 2.2 isod. Noder bod y rheolau yma wedi eu creu mewn 2 ran. Rhan 1 yn datgan y rheolau hynny y mae'n rhaid eu cyfathrebu i'r gwyliwr/ymgeisydd cyn iddo/iddi ymgeisio yn y gystadleuaeth a Rhan 2 yn rheolau llawnach y gellid bod ar gael i'r cyhoedd mewn man addas.

    Gall y rheolau a nodir yn Rhan 1 gael eu cyfleu naill ai fel testun ar y sgrin neu drwy negeseuon yn sgript y cyflwynwyr. Dylai unrhyw destun ar y sgrin fod mewn print digon clir ac ar y sgrin am ddigon o amser er mwyn galluogi'r gwyliwr i ddarllen y wybodaeth berthnasol i gyd cyn dewis a yw'n dymuno cystadlu ai peidio.

    Dylai unrhyw reolau llawn fod ar gael ar wefan berthnasol a drwy gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C. Rhaid i drefnydd y gystadleuaeth sicrhau bod copi o'r rheolau terfynol yn cael eu danfon at sylw Gwifren Gwylwyr S4C ar gyfer hyn cyn unrhyw ddarllediad o'r rhaglen benodol.

    Dylid cymryd cyngor cyfreithiol annibynnol ar y geiriad yn ymwneud â Diogelu Data yn y daflen Diogelu Data 2.3
  • 2.1 Ffurflen Cystadleuaeth
  • 2.2 Rheolau
  • 2.3 Cymalau Diogelu Data
  • Pleidleisio

  • 3. Pleidleisio

    Dylid fod unrhyw elfen pleidleisio mewn rhaglen wedi'i awdurdodi yn ysgrifenedig gan S4C ar ôl derbyn y wybodaeth berthnasol yn y Briff Golygyddol a Busnes. Os yw'r cais yn cael ei gymeradwyo'r cam nesaf yw llenwi ffurflen pleidleisio, rheolau cyflawn, ac os bydd angen, gwneud trefniant cytundebol ysgrifenedig gyda phob prosesydd data gan ymgorffori'r cymalau diogelu data priodol i sicrhau trefniadau fod y gystadleuaeth yn rhedeg yn llyfn.

    Lle gofynnir i wylwyr bleidleisio fel rhan o unrhyw raglen dylid tynnu sylw gwylwyr at y rheolau sy'n gysylltiedig â phleidleisio ar yr un pryd yr hysbysir y bleidlais. h.y. os hysbysir y bleidlais fel rhan o raglen yna dylid rhoi nodyn ar y sgrin neu dylai'r cyflwynwyr gyfeirio at leoliad y rheolau arbennig hyn ar safle we berthnasol ac wrth gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C.

    Dylai rhestr o reolau cyfreithlon addas fod ar gael yn hawdd i'r cyhoedd, ac mae awgrym o strwythur y rheolau ar gael yn 3.2. Rhaid i drefnydd y gystadleuaeth sicrhau bod copi o'r rheolau terfynol yn cael eu danfon at sylw Gwifren Gwylwyr S4C ar gyfer hyn cyn unrhyw ddarllediad o'r rhaglen benodol.
  • 3.1 Ffurflen pleidleisio
  • 3.2 Rheolau
  • 3.3 Cymalau Diogelu Data
  • Anfon Cynnwys

  • 4. Cyfraniadau gwylwyr i'w ddefnyddio mewn rhaglen neu wefan.

    Gall cyfraniadau gwylwyr i'w defnyddio mewn rhaglen fod yn sgwrs ffon, tecst, e-bost, llun neu amrywiaeth o bethau ychwanegol.

    Os ow cyfraniadau'r gwylwyr i'w defnyddio mewn rhaglen , neu wefan , dylai'r cynhyrchydd gwblhau ffurflen cyfraniad gwylwyr, rhestr o reolau, ac os yn angenrheidiol, trefnu cytundeb ysgrifenedig gyda phob prosesydd data gan ymgorffori'r cymalau diogelu data priodol.

    Lle gofynnir i wylwyr ddanfon cyfraniadau arbennig i'w gynnwys mewn rhaglen neu wefan dylid tynnu sylw gwylwyr at yr amodau sy'n gysylltiedig â danfon y fath gyfraniadau ar yr un pryd y gofynnir am y cyfraniadau gan y cynhyrchydd . h.y. os gofynnir am y cyfraniadau yn ystod y rhaglen yna dylid rhoi nodyn ar y sgrin neu dylai'r cyflwynwyr gyfeirio at leoliad yr amodau arbennig hyn ar safle we berthnasol ac wrth gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C.

    Rhaid rhoi copi o'r amodau perthnasol i Wifren Gwylwyr S4C cyn i'r rhaglen berthnasol gael ei darlledu.
  • 4.1 Ffurflen cyfraniadau gwylwyr
  • 4.2 Amodau ar gyfer cyfraniadau gwylwyr
  • 4.3 Cymalau Diogelu Data
  • Lawrlwytho deunydd

  • 5. Lawrlwytho deunydd

    Ar wahân i wasanaethau arferol S4C sydd ar gael am ddim fel gwylio Clic neu bodledu, os oes unrhyw weithgaredd ychwanegol a fyddai'n golygu unrhyw gost ychwanegol i'r cyhoedd, dylid cael caniatâd y Golygydd Cynnwys cyn symud ymlaen i wneud trefniadau addas.

    Lawrlwytho
    Os ydych am alluogi gwylwyr i lawrlwytho deunydd drwy ddefnyddio technoleg ar lein, ffon symudol neu unrhyw dechnoleg arall yna rhaid ichi ystyried a sicrhau'r pwyntiau canlynol:

    • Bod gennych yr hawliau perthnasol i gyd er mwyn gwneud deunydd ar gael i aelodau o'r cyhoedd yn y modd yma (e.e. hawlfraint, hawliau perfformwyr, cyhoeddwyr ac ati mewn unrhyw gerddoriaeth neu luniau)

    • Eich bod yn hysbysu'r gwylwyr yn glir o bob cost a fydd yn daladwy a bod dim costau cyfrinachol yn daladwy gan y gwylwyr.

    • Bod y dechnoleg a ddefnyddir yn ddiogel ac na fydd yr hyn a gaiff ei lawrlwytho yn effeithio yn wael ar gyfrifiadur, ffon neu unrhyw beth arall sydd yn berchen i'r gwylwyr.

    • Eich bod yn hysbysu'r gwylwyr mewn modd priodol o'r amodau a'r telerau perthnasol ar gyfer lawrlwytho (e.e. y dechnoleg a/neu'r caledwedd sydd yn angenrheidiol er mwyn mwynhau'r deunydd i'w lawrlwytho, unrhyw gyfyngiadau ar ddefnydd y gwylwyr o'r deunydd a lawrlwythwyd, unrhyw wybodaeth am ddifa'r deunydd a lawrlwythwyd (h.y. ydy'r deunydd ar gael i'r gwylwyr am byth neu am gyfnod byr ar ôl ei lawrlwytho?)
  • 5.1 Ffurflen lawrlwytho

Geirfa

Archif

Rhaglenni/Comisiynu

Telerau Masnach a Chôd Ymarfer

Technegol

Polisiau a Chanllawiau

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales