Comisiynu

Cynllunir gwasanaeth rhaglenni S4C i ddarparu ystod eang o raglenni i wylwyr o bob oedran, diddordeb ac ym mhob rhan o Gymru.

Mae strategaeth cynnwys S4C yn ...

adeiladu ar gynllun Rhagoriaeth Greadigol S4C a lansiwyd yn 2004 ac yn cyflwyno gweledigaeth y Sianel fel darparwr cynnwys dyfeisgar a gwreiddiol sy'n rhoi gwerth i gynulleidfaoedd.

Mae'r strategaeth yn nodi bydd S4C yn cryfhau ac yn buddsoddi yn ei darllediadau o ddigwyddiadau Cymreig, yn comisiynu rhaglenni sy'n dathlu tirwedd Cymru, yn cynnig drama, adloniant a cherddoriaeth o safon uchel, yn cynnig cyfresi ffeithiol o bwys ac yn rhoi sylw proffeil uchel i chwaraeon - yn enwedig rygbi a phêl-droed.

Yn ogystal, erbyn 2012, bydd yr holl gynnwys a gomisiynir gan S4C yn cael ei gynhyrchu ar fformat Manylder Uwch (HD).

Rydym yn gweithredu proses barhaus o ddatblygu a chomisiynu. Trefn hyblyg a gweithredol yw hon, sy'n ein galluogi i ymateb i anghenion cynulleidfa a gofynion yr amserlen. Rhoddir ymateb sydyn i unrhyw syniad a gynigir er mwyn hwyluso eu trefniadaeth fusnes.

Rydym yn barod i dderbyn syniadau gan bob cynhyrchydd all gyfarfod â gofynion comisiynu S4C ac edrychwn ymlaen at ddeialog greadigol.

Anghenion Rhaglenni Ffenestr Gomisiynu 2

26-Hyd-2011

Ffenestr Gomisiynu 2

Dyddiadau

Ffenestr 2 i agor 12.00 canol dydd 28 Hydref 2011
Ffenestr 2 yn cau 12.00 canol dydd 30 Tachwedd 2011

Cyhoeddi rhestr fer 19 Rhagfyr 2011
Cyhoeddi Comisiynau 18 Ionawr 2012

Anghenion Rhaglenni Ffenestr Gomisiynu 2

Dylid nodi mai 2130-2230 yw'r slot ar gyfer nos Wener wythnos 24, 29, 30, 48, 49, 50 a 51.

Archif