Neidio at y cynnwys

S4C

Tendrau

Archif 2009

Gwahoddiad i Dendr Darpariaeth yr Urdd 2010 i 2012

26 Tachwedd 2009

Fe fydd enghraifft o'r cytundeb comisiynu yn cael ei ddarparu erbyn 10/12/09.

Gwahoddiad am geisiadau i ddarparu 'Gwasanaeth Cefnogi Polisiau a Chyflogaeth i Gynhyrchwyr Annibynnol'

13 Tachwedd 2009

Cwestiwn ac Ymateb

Cwestiwn 1:
Mae'r Gwahoddiad i Dendr (paragraff 1.6.3) yn nodi'r angen i gyflwyno 'Tystiolaeth ysgrifenedig o gefnogaeth i'r ymgeisydd er mwyn galluogi iddo fod yn gynrychioladol o'r holl gwmnïau cynhyrchu'.

a) A oes angen cyflwyno cefnogaeth i'n cais ni gan bob un o'r cwmnïau cynhyrchu?

b) A oes angen i'r dystiolaeth ysgrifenedig ddweud bod y cwmni yn hapus ein bod ni yn cynrychioli'r cwmni hwnnw?

Ymateb 1:
a) Mae S4C wedi nodi yn glir ym mharagraff 1.3 bod disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus 'ddarparu gwasanaeth sydd yn gynrychioladol o'r holl gwmnïau cynhyrchu'. Mae'r meini prawf er mwyn gwobrwyo'r cytundeb hefyd yn cyfeirio at allu'r gwasanaeth arfaethedig i fod yn 'Wasanaeth cynrychioladol ar gyfer y cwmnïau cynhyrchu a gomisiynir gan S4C'. Anogir ymgeiswyr i geisio sicrhau cefnogaeth yr holl gwmniau cynhyrchu.

b) Mae angen i gwmnïau cynhyrchu gadarnhau eu cefnogaeth i'r ymgeisydd, a nodi eu bodlonrwydd am allu'r ymgeisydd i gyfarfod â'u gofynion nhw ac S4C am wasanaeth o'r fath.

Cwestiwn 2:
Noder fod cyfanswm o 47 cwmni wedi eu rhestru fel aelodau TAC ar hyn o bryd. Oes modd i chi ddarparu amcangyrfif o'r nifer o gwmniau cynhyrchu annibynnol sydd yn gysylltiedig a'r gwasanaeth a chyfanswm nifer y rhai a gyflogir? Oes modd i chi roi amcangyrfif i ni o'r nifer o gontractwyr/cyfranwyr a gyflogir gan y cwmniau cynhyrchu annibynol?

Ymateb 2:
Comisiynir oddeutu 34 o gwmnïau cynhyrchu yn flynyddol gan S4C. Mae rhai yn gwmnïau grŵp. Mae union nifer y cwmnïau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond mae'r cyfanswm wedi bod yn weddol gyson ers 2002. Mae'r cwmnïau sydd yn darparu cynnwys i S4C yn gallu bod yn aelodau o TAC a/neu PACT.

Mae data a manylion ychwanegol mewn perthynas â'r sector - y sector greadigol yng Nghymru a'r cwmniau sydd yn cyflenwi i S4C - ar gael ar y linc isod. http://www.s4c.co.uk/abouts4c/annualreport/acrobats/adroddiad-blynyddol-s4c-annual-report-2008.pdf http://www.s4c.co.uk/abouts4c/corporate/pdf/adroddiad_economaidd_s4c_2007.pdf http://www.skillset.org/uk/cymru/industry_sectors/article_6852_2.asp

Cwestiwn 3:
Dyw'r tender ddim yn cyfeirio at faterion cynhennus. Oes modd cadarnhau os gwelwch yn dda os yw'r gwasanaeth i gynnwys cynrychiolaeth cyfreithiol?

Ymateb 3:
Bwriad y gwasanaeth yw darparu fframwaith rhagweithiol sydd yn cefnogi a chynghori'r sector yn eu gweithgareddau - gan gynnwys sefydlu a chefnogi trefniadau datrys anghydfodau. Fodd bynnag nid yw'n fwriad cynnwys unrhyw gostau cyfreithiol mewn cysylltiad â threfniadau o'r fath yn y cytundeb. Byddai'r fath gostau yn fater i'r cwmnïau cynhyrchu yn unigol.

Cwestiwn 4:
Os yw'r tendr yn cael ei wobrwyo i ymgeisydd newydd, yna a fydd gan y gwasanaeth newydd unrhyw hawl i ddefnyddio deunydd a ddarperir ar hyn o bryd gan TAC dan eu cytundeb presennol? Os felly, pa drefniadau sydd yn berthnasol er mwyn caniatau i'r contractiwr newydd dderbyn yr holl wybodaeth.

Ymateb 4:
Mae'r cytundebau gyda'r undebau talent wedi eu trafod yn ddiweddar i ystyried effaith darfyddiad y gwasanaeth analog yng Nghymru. Bydd y trefniadau hawliau newydd yn cael eu hadlewyrchu yn y cytundebau hyn.

Os yw'r cytundeb yn cael ei wobrwyo i ymgeisydd newydd yna bydd angen cadarnhau'r trefniadau i sicrhau gweinyddiad di-dor y cytundebau gyda'r undebau. Byddwn hefyd yn ystyried yr angen am gyfnod trawsnewid, i hwyluso trosglwyddiad y trefniadau a'r cyfrifoldebau.

Cwestiwn 5:
Allwch chi gadarnhau os gwelwch yn dda, fod modd i gwmnïau cynhyrchu gynnig eu cefnogaeth i fwy nag un ymgeisydd?

Ymateb 5:
Rydym eisoes wedi nodi y dylai ymgeiswyr geisio sicrhau cefnogaeth yr holl gwmnïau cynhyrchu. Nid ydym yn rhagdybio y bydd y gefnogaeth honno yn ecsgliwsif i un ymgeisydd. Fodd bynnag, rydym yn rhagdybio y bydd cwmnïau yn cynnig eu cefnogaeth dim ond mewn sefyllfa lle mae nhw'n fodlon o allu'r ymgeisydd i gyfarfod â'u gofynion nhw ac S4C am wasanaeth o'r fath.

Cwestiwn 6:
At bwrpasau diwydrwydd, os modd i chi roi manylion am bersonél y darparwr gwasanaeth presennol, gan gynnwys niferoedd staff, dyddiadau cyflogaeth, nifer y blynyddoedd o gyflogaeth barhaol, cyflogau a buddiannau eraill, cyfnodau rhybudd ac unrhyw delerau perthnasol arall.

Ymateb 6:
Mae'r cytundeb presennol yn dirwyn i ben ar y 31/12/2009. Mae sgôp y gwasanaeth sydd i'w ddarparu dan y tendr hwn yn wahanol, ac mae gwerth y cytundeb yn sylweddol is.

Fel sydd wedi ei nodi yn rhan 3.9 o'r gwahoddiad i dendr, mae'r cwestiwn a yw TUPE yn weithredol ai peidio yn fater cyfreithiol, a bydd rhaid i ymgeiswyr ystyried a cheisio eu cyngor eu hunan. Er gwybodaeth yn unig, deallwn fod tri aelod o staff llawn amser yn gyflogedig gan y sefydliad.

Dylai'r holl ymgeiswyr nodi'r holl ragdybiaethau mewn cysylltiad â chostau trosglwyddo unrhyw staff, fel bod S4C yn glir am sail y cynnig. Cedwir yr hawl i gysylltu gydag unrhyw ymgeisydd gyda chwestiynau yn sgil y wybodaeth/nodiadau a ddarperir.

Gwahoddiad i Dendr: Criced ar S4C 2010-2011

11 Tachwedd 2009
Gwahoddiad i Dendr: Criced ar S4C 2010-2011

Tendr Datblygu Ffuglen

10 Mehefin 2009
Gwahoddiad i Ymgeisio am Gytundeb Datblygu Ffuglen ar gyfer S4C

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn:
A fyddwch yn ystyried syniadau am raglenni sgetsus fel rhan o'r tendr hwn?

Ateb:
Nid ydym yn gwahodd syniadau rhaglenni sgetsus ar gyfer y tendr hwn.

Cwestiwn:
A oes gan S4C nifer o syniadau neu gyfnod penodol mewn golwg ar gyfer y Tendr Datblygu Ffuglen?

Ateb:
Bydd cyfnod datblygu unrhyw syniadau i'w drafod gydag enillydd/wyr y tendr, ac yn ddibynnol ar nifer a hyd y sgriptiau, argaeledd y dalent ynghlwm â'r syniad sydd yn cael ei ddatblygu.

Cwestiwn:
Ydi S4C yn cynnig adnoddau eraill (e.e. ymchwil cynulleidfa neu amser swyddogion S4C) tu hwnt i'r gyllideb sydd ar gael.

Ateb:
Bydd y tîm comisiynu ynghlwm â'r gwaith o ddiffinio a chefnogi datblygiad y syniadau. Bydd unrhyw geisiadau am ymchwil yn cael eu hystyried yn ôl anghenion S4C a'r syniad sydd yn cael ei ddatblygu.

Cwestiwn:
A fydd y syniadau i'w datblygu yn gorfod dilyn camau Proses Gomisiynu S4C (h.y. yn cael eu cynnig drwy'r system electronig)?

Ateb:
Bydd y syniadau a ddatblygir dan y cytundeb hwn yn cael eu comisiynu yn unol â Phroses Gomisiynu S4C - gweler y manylion ar Safle Cynhyrchu S4C.

Tendr Digwyddiadau o Faes y Sioe Frenhinol

27 Hydref 2009
Mae cwmni Boomerang Plus wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y tendr i gynhyrchu digwyddiadau o Faes y Sioe Frenhinol. Mae'r cytundeb yn un pedair blynedd o hyd ac mae'n cynnwys darllediadau o'r Sioe Frenhinol, y Ffair Aeaf a'r Ŵyl Tyddyn a Gardd.

1 Medi 2009
Gwahoddiad i dendr Digwyddiadau o Faes y Sioe Frenhinol

Tendr Gwasanaeth Diwylliant

10 Gorffennaf 2009
Gwahoddiad i dendr am gytundeb i gynhyrchu Gwasanaeth Diwylliant ar gyfer S4C

Tendr Datblygu Cyfresi Hanes

10 Mehefin 2009
Gwahoddiad i Ymgeisio am Gytundeb Datblygu Cyfresi Hanes ar gyfer S4C

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn:
Oes modd cadarnhau dyddiad a diwrnod yr wythnos dyddiad cau Tendr Datblygu Cyfresi Hanes?

Ateb:
Er eglurhad, dydd Mawrth ydy dyddiad cau'r Tendr Datblygu Cyfresi Hanes, nid dydd Iau. Gydag ymddiheuriadau, hoffem gadarnhau mai dydd Mawrth 14 Gorffennaf ydy'r dyddiad cywir.

Cwestiwn:
Oes modd cadarnhau mai'r bwriad yw datblygu tri syniad ffeithiol hanes, a beth yw cyfnod y cytundeb datblygu?

Ateb:
Y bwriad yw datblygu hyd at dri syniad. Nid yw hyn o reidrwydd yn cyfateb i dri chomisiwn. Byddwn yn cytuno ar gyfnod ag amserlen ddatblygu benodol i'r cytundeb.

Cwestiwn:
A oes gan S4C nifer syniadau neu gyfnod penodol mewn golwg ar gyfer y Tendr Datblygu Ffuglen?

Ateb:
Bydd cyfnod datblygu unrhyw syniadau i'w drafod gydag enillydd/wyr y tendr, ac yn ddibynnol ar nifer a hyd y sgriptiau, argaeledd y dalent ynghlwm â'r syniad a gofynion amserlen ddarlledu S4C.

Cwestiwn:
Ydi S4C yn cynnig adnoddau eraill (e.e. ymchwil cynulleidfa neu amser swyddogion S4C) tu hwnt i'r gyllideb sydd ar gael.

Ateb:
Bydd y tîm comisiynu ynghlwm â'r gwaith o ddiffinio a chefnogi datblygiad y syniadau. Bydd unrhyw geisiadau am ymchwil yn cael eu hystyried yn ôl anghenion S4C a'r syniad sydd yn cael ei ddatblygu.

Cwestiwn:
A fydd y syniadau i'w datblygu yn gorfod dilyn camau Proses Gomisiynu S4C (h.y. yn cael eu cynnig drwy'r system electronig)?

Ateb:
Bydd y syniadau a ddatblygir dan y cytundeb hwn yn cael eu comisiynu yn unol â Phroses Gomisiynu S4C - gweler y manylion ar Safle Cynhyrchu S4C.

Tendr am gytundeb i gynhyrchu cynnwys a dolenni cyflwyno plant hŷn

21-Ebr-2009

Manylion a Ffurflen Gais ar gyfer eich cynnwys ar y rhestr fer i dendro am y cytundeb i gynhyrchu cynnwys a dolenni cyflwyno plant hŷn.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 22 Mai 2009. Dylai unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r ffurflen gael ei derbyn cyn dydd Gwener 15 Mai 2009.

Manylion (PDF)

Ffurflen gais (PDF)

Ffurflen gais (Word)

Cwestiwn 1

A fyddai'n bosib i chi gadarnhau union gyfnod y cytundeb a pha bryd y bydd disgwyl i'r gwasanaeth ddechrau? Mae'r ddogfen manylion yn nodi 2010 - 2012. A yw'r tair blynedd hyn yn flynyddoedd calender Ionawr - Rhagfyr?

Ateb 1

Rydym yn rhagweld y bydd y gwasanaeth yn cychwyn ym mis Ebrill 2010. Mi fydd y cytundeb felly am dair blynedd o'r dyddiad hwnnw.

Cwestiwn 2

Ydi rhaglenni sy'n targedu plant 12-15 oed ar hyn o bryd o fewn y tendr yma?

Ateb 2

Mae'r tendr yn nodi'r canlynol:- 'Y bwriad yw i'r gwasanaeth apelio at blant yn yr ystod oedran 7 oed i ddechrau eu harddegau. Mi fydd S4C yn parhau i amserlennu cynnwys y gwasanaeth ac fe fydd S4C hefyd yn parhau i gomisiynu nifer cyfyngedig o raglenni gwreiddiol ar gyfer yr oedran yma y tu allan i'r cytundeb hwn.

Mi fydd unrhyw raglenni y tu allan i'r tendr yn cael eu hystyried yn y ffordd arferol gan gyfeirio at y strategaeth cynnwys ac ystyried eu haddasrwydd i'r amserlen ayyb.

Cwestiwn 3

Mae Cymal 7.5 y ddogfen dendr yn cyfeirio at y posibilrwydd y bydd oblygiadau TUPE yn codi o ganlyniad i ennill y tendr. Oes yna achos penodol mewn golwg ble gall hyn godi?

Ateb 3

Fel ag sydd wedi ei nodi yn y ddogfen 'Cefndir a Nodiadau', nid yw S4C yn rhagweld y bydd unrhyw rai o gyflogai S4C ei hunan yn destun unrhyw drosglwyddiad TUPE.

Mae'r cwestiwn a yw TUPE yn weithredol ai peidio yn fater cyfreithiol a bydd rhaid i'r ymgeisydd ei ystyried a cheisio ei gyngor ei hunan ar y cwestiwn. Gan nad yw S4C yn rhan o unrhyw Drosglwyddiad TUPE, bydd hyn yn fater i'w ddatrys rhwng y darparwr blaenorol a'r ymgeisydd llwyddiannus.

Cwestiwn 4

Beth fydd y berthynas rhwng enillwyr y tendr yma a'r gwasanaeth Manylder Uwch plant arfaethedig - yn benodol oes yna oblygiadau o ran defnydd o'r rhaglenni ar y gwasanaeth newydd?

Ateb 4

Mae sgôp ac ystod y cytundeb sydd yn cael ei dendro wedi ei nodi yn adran 1 y ddogfen 'Cefndir a Nodiadau'.

Rhagdybir y bydd egwyddorion y Cod Ymarfer a'r Telerau Masnach yn weithredol i unrhyw raglenni a gomisiynir (h.y. y cynnwys fydd yn bodoli yn annibynnol o'r dolenni/gwasanaeth) dan y cytundeb hwn. Mae'r rhain yn caniatáu i S4C ddarlledu'r cynnwys ar ein holl wasanaethau. Mi fydd yr hawlfraint yn y dolenni a brand y gwasanaeth yn cael eu haseinio i S4C.

Cwestiwn 5

Mae'r ddogfen dendr yn nodi taw gwerth y tendr yw £4miliwn am 156 awr o raglenni gwreiddiol sydd yn gyfartaledd o tua £25,641 yr awr. Mae Adroddiad Blynyddol S4C yn nodi fod S4C wedi comisiynu 198 awr o raglenni plant gwreiddiol yn 2007 ar gost gyfartalog o £53,141.

Ateb 5

Mae'r broses dendr am gytundeb fydd yn cynnwys rhaglenni adolenni cyflwyno, gyda gwerth ac oriau uwch nag unrhyw gytundeb sengl arall sydd wedi ei dendro gan S4C. O'r herwydd mae natur, swmp a sail y cytundeb yn wahanol iawn i'r hyn oedd yn sail i gomisiynau 2007. Mae'r ffactorau yma wedi eu hystyried wrth bennu gwerth i'r cytundeb, ac nid yw'n briodol i'w gymharu gyda chost yr awr rhaglenni plant yn 2007.

Bydd y broses o asesu'r cynigion yn cynnwys ystyriaeth o'r fframwaith er mwyn adnabod cyfleoedd i bartneriaethu/cyd-gynhyrchu. Bydd hyn yn cynnwys asesiad o'r manteision er mwyn estyn gwerth y buddsoddiad a macsimeiddio gwerthoedd cynhyrchu i S4C.

Cwestiwn 6

Faint o arian/oriau sydd yn weddill ar gyfer comisiynau unigol?

Ateb 6

Mae comisiynau ym maes plant yn cael eu harwain gan y Strategaeth Cynnwys (2009/13) a'r Polisi Datganiad Rhaglenni. Rydym eisoes wedi cadarnhau y bydd S4C yn parhau i gomisiynu nifer cyfyngedig o raglenni ar gyfer yr oedran yma, tu allan i'r cytundeb. Bydd nifer yr oriau yn ddibynnol ar union delerau'r cytundeb sydd yn cael ei dendro, a gofynion penodol y gwasanaeth ar gyfer plant hyn.

Cwestiwn 7

A fydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus ddod ag arian a/neu bartneriaethau cyd-gynhyrchu i'r bwrdd?

Ateb 7

Mater i'r ymgeiswyr yw penderfynu a ydynt am gynnwys unrhyw bartneriaethau fel rhan o'u cais. Mae'r ffurflen yn rhoi cyfle i ymhelaethu ar hyn yn Adran A (os mai consortiwm sy'n gwneud cais) a hefyd yn adran Ll 'Cydweithio gyda phartneriaethau/cyd gynhyrchwyr'. Mae hyn hefyd yn cael ei gynnwys fel elfen yn y criteria asesu.

Gwasanaeth Plant - Rhybudd o fwriad i dendr

15-Ebr-2009

Rhybudd o fwriad i dendr (PDF)

Gwahoddiad i Dendr - Dechrau Canu, Dechrau Canmol

Cyhoeddwyd Dydd Gwener 27 Chwefror 2009.
Amser cau ar gyfer derbyn y ceisiadau: 12:00 canol dydd Mawrth 31 Mawrth 2009.

Tendr 'Cymru 2009'

Er mwyn cryfhau'r amserlen mewn blwyddyn arwyddocaol ac allweddol i'r sianel mae S4C yn gofyn am syniadau i greu cyfres adloniant ffeithiol.

Cwestiwn 1

Mae'r tendr yn nodi y bydd y gyfres i'w darlledu mewn dau floc gan ddechrau ym mis Mehefin 09. Beth fydd y cyfnod rhwng darlledu'r ddau floc?

Ateb 1

Rhagwelir isafswm o 6 wythnos.

Cwestiwn 2

Pwynt 2.2 Atodiad C
Awgrymwch darged miloedd penodol o ran niferoedd gwylio.
Sawl darllediad mae S4C yn rhagweld o fewn un wythnos?
Dylai'r ffigwr fod ar gyfer pob pennod yn hytrach na chyfres?

Ateb 2

Yr hyn yr ydym ei angen yw eich amcan o'r nifer gwylwyr y bydd eich cyfres yn ei ddenu. Mater i S4c fydd penderfynu ar y nifer o ddarllediadau ond ar gyfer y cynnig cymerwch y gall y rhaglen gael ei darlledu hyd at dair gwaith. Nodwch eich rhagdybiaeth yn eich cynnig.

Tendr Digwyddiadau 2009/10

Mae S4C yn bwriadu ehangu ar y dewis i'r gwylwyr yn 2009 gan ddarlledu o ddigwyddiadau lleol. Y nod fydd adlewyrchu amrywiaeth o Wyliau, Sioeau a Phencampwriaethau trwy Gymru.

Tendr fersiynu Arian mewn Argyfwng

Rydym yn gwahodd ceisiadau am dendr ar gyfer fersiynu cyfres ryngwladol ar yr argyfwng ariannol byd-eang. Y bwriad yw cynhyrchu a darlledu'r tair rhaglen awr o hyd yn 2009.

Cwestiwn 1

Lle a phryd ydych chi'n disgwyl i'r rhaglenni gael eu saethu?

Ateb 1

Mae'r driniaeth o'r gyfres sydd ar gael i gwmnïau sy'n dangos diddordeb yn rhoi syniad da o'r math o leoliadau rhyngwladol a fwriedir. Byddai unrhyw leoliadau ychwanegol ar gyfer y fersiwn Gymraeg yn dibynnu ar y driniaeth mae'r cwmni yn ei chynnig fel rhan o'i gais tendr. Mae amlinelliad o'r prif ddyddiadau cynhyrchu yn cael ei anfon at gwmnïau sy'n dangos diddordeb mewn tendro, ynghyd â'r driniaeth ryngwladol.

Cwestiwn 2

Pryd mae S4C yn gobeithio bydd fersiwn Gymraeg y gyfres hon yn cael ei golygu a'i darlledu?

Ateb 2

Bydd y fersiwn Gymraeg yn cael ei olygu ym misoedd Awst i Hydref 2009. Nid oes dyddiad darlledu wedi ei gadarnhau eto ond bwriadwn ei darlledu yn 2009.

Cwestiwn 3

Yn ôl amserlen Electric Pictures, mae copïau drafft o'u sgriptiau i fod ar gael erbyn hyn. Oes modd cael copïau?

Ateb 3

Nid oes copïau o'r sgriptiau ar gael i S4C eto ond mae'r driniaeth ar gael i unrhyw ymgeiswyr sy'n gofyn amdano.

Cwestiwn 4

Pa adnoddau fydd ar gael i'r cwmni cynhyrchu o Gymru o fod yn rhan o'r cyd-gynhyrchiad? e.e. A fydd angen cyllidebu am ŵr camera/sain yn y lleoliadau rhyngwladol?

Ateb 4

Mae'r cwmni cynhyrchu Electric yn disgwyl saethu gefn wrth gefn, gan osod y cyflwynydd Cymraeg yn yr un lleoliadau â'r cyflwynydd rhyngwladol ond y driniaeth olygyddol fydd yn gyrru faint o hynny fydd yn digwydd a faint o ffilmio gwreiddiol fydd y cwmni llwyddiannus yn ei wneud. Gall gofynion fersiwn Gymraeg olygu saethu mewn lleoliadau ychwanegol ambell dro – ac weithiau hepgor y rhai rhyngwladol. Mater o drafodaeth rhwng y cwmni llwyddiannus ac Electric fydd yr union drefniant terfynol. Mae gan Electric brofiad o weithio gyda chyflwynydd Cymraeg a record o gydweithredu gyda chwmnïau fersiynu Cymraeg.

Cwestiwn 5

Beth fydd y drefn o ran ôl-gynhyrchu? Er enghraifft, a fydd copïau o'r holl dapiau camera ar gael i'r cwmni cynhyrchu o Gymru i gwblhau'r ôl olygu yng Nghymru?

Ateb 5

Mae cynhyrchydd Electric wedi cytuno i ddarparu copïau wed'u gwirolygu o'r brasdoriadau o 15 Awst ymlaen er mwyn hwyluso'r golygu Cymraeg. Bydd y copïau gwirolygu terfynol o'r fersiwn rhyngwladol ar gael fis Medi.

Tendr Cytundeb Fframwaith Dybio Rhaglenni Plant a Chyfresi Animeiddiedig 2009/10.

Gwahoddir ymgeiswyr i fod yn rhan o gytundeb fframwaith cyflenwi i ddybio cyfresi a rhaglenni animeiddiedig ym maes meithrin a phlant ar gyfer S4C

Cwestiwn 1

A fydd y tapiau fydd yn cyrraedd y cwmnïau llwyddiannus ar gyfer gwneud y gwaith ail-leisio wedi cael prawf Harding eisoes naill ai gan y cwmni gwreiddiol neu gan S4C yn ganolog neu a ddylai'r cwmnïau sy'n ymgeisio am y gwaith gynnwys y gost o brofi pob rhaglen yn eu cyllidebau?

Ateb 1

Bydd pob rhaglen eisoes wedi pasio prawf Harding, felly nid oes angen i'r cwmnïau sy'n ymgeisio am y gwaith gynnwys y gost o fewn y gyllideb.

Cwestiwn 2

A'i pris ar gyfer y 3 Slici a Slac sydd ar y DVD sydd angen ynte pris ar gyfer rhaglen unigol neu gyfres. Os mai pris ar gyfer cyfres sydd angen, sawl pennod?

Ateb 2

Mae'r ddogfen dendr yn gofyn i chi gyllidebu yn seiliedig ar y rhaglenni enghreifftiol. Noder mae tair pennod sydd i'w gwylio ond dylech gyllidebu ar gyfer dybio cyfres gyfan o 13 pennod x 10 munud.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales