Neidio at y cynnwys

S4C

Tendrau

Archif 2010

Gwahoddiad i Dendr ar gyfer Gwasanaethau Tywydd S4C

28 Mai 2010

Gwahoddiad i Dendr ar gyfer cynhyrchu Gwasanaethau Tywydd S4C o fis Tachwedd 2010 hyd at ddiwedd Hydref 2013.

Dyddiad cau ar gyfer datgan diddordeb 16 Mehefin 2010

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd dydd Mawrth 6 Gorffennaf 2010.

Gwahoddiad i Dendr ar gyfer Gwasanaethau Tywydd S4C

Gwahoddiad i Dendr Darpariaeth Gŵyl Cerdd Dant Cymru 2010 - 2012

Dyddiad Cyhoeddi: Dydd Gwener 7 Mai 2010

Dyddiad ac amser cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 12.00 canol Dydd Mercher 9 Mehefin 2010

Gwahoddiad i Dendr Darpariaeth Gŵyl Cerdd Dant Cymru 2010 - 2012

Cytundeb Comisiynu Drafft - Darpariaeth Gŵyl Cerdd Dant Cymru 2010 - 2012

Gwahoddiad i Dendr Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd yr IRB

Dyddiad Cyhoeddi: Dydd Iau 13 Mai 2010

Yn dilyn y cyhoeddiad, dyma'r Gwahoddiad i Dendr ar gyfer Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd yr IRB a'r Cytundeb Comisiynu Drafft.

** NODER AMSERLEN DYNN Y CYNHYRCHIAD YMA**

Gwahoddiad i Dendr Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd yr IRB

Cytundeb Comisiynu Drafft - Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd yr IRB

Gwahoddiad i Dendr - Taith Tim Rygbi Cymru i Seland Newydd

Yn dilyn y cyhoeddiad, dyma'r Gwahoddiad i Dendr ar gyfer Taith Tim Rygbi Cymru i Seland Newydd, a'r Cytundeb Comisiynu Drafft.

Diweddariad 24 Mawrth 2010

Yn dilyn y nodyn blaenorol ein bod ar ddeall fod yna amheuaeth am gêm Maori XV v Cymru, mae S4C wedi cytuno gyda Sky Sports pe bai'r gêm hon yn cael ei dileu, yna byddem yn derbyn yr hawl i gynhyrchu uchafbwyntiau o gêm Seland Newydd v Iwerddon yn ei lle.

Mae'r gêm hon yn cael ei chwarae ddydd Sadwrn 12 Mehefin yn New Plymouth. Dylid ystyried y wybodaeth ychwanegol yma wrth gyfleu eich cais.

Diweddariad 22 Mawrth 2010

Mae S4C yn ymwybodol fod yna amheuaeth dros gêm Maori XV a Chymru. Nid yw'n fwriad gennym i addasu'r tendr a dylech gyflwyno'ch cais ar sail yr hyn a nodir yn y ddogfen dendr.

Gwahodddiad i dendr Seland Newydd 2010 (PDF)
New Zealand Tour 2010 Cytundeb Comisiynu Drafft (PDF)

Criced ar S4C 2010-2011

Yn dilyn y rhagrybudd dyma'r Gwahoddiad i Dendr newydd ar gyfer darpariaeth Criced 2010-2011

Criced ar S4C 2010-2011 (PDF)

Tendr i gynnig cyfresi ar gyfer y gwasanaeth i blant hŷn a phobl ifanc (13+) ar S4C

28 Ionawr 2010

  • Tendr i gynnig cyfresi ar gyfer y gwasanaeth i blant hŷn a phobl ifanc (13+) ar S4C (PDF)
  • Cwestiwn ac ateb ar dendr plant a phobl ifanc 13+

  • Cwestiwn
    Allwch chi egluro a oes angen enghraifft o drefn rhaglen ar gyfer un bennod os ydym wedi cynnwys manylion y fformat. Neu, er enghraifft, ydy amlinelliad o'r strwythur yn ddigonol ar gyfer syniadau mwy dogfennol?

    Ateb
    Gallwn dderbyn naill ai manylion y fformat neu drefn rhaglen ond dylent roi digon o wybodaeth i roi darlun manwl o'r rhaglen neu'r gyfres arfaethedig. Mae amlinelliad o'r strwythur yn dderbyniol ar gyfer unrhyw syniadau dogfennol.

  • Cwestiwn
    Ydy hi'n iawn i ragdybio, gan fod y gwasanaeth wedi ei anelu at 13+ hyd 18 oed, fod yr holl gynnwys i fod yn ddeunydd y gellir ei ddarlledu cyn y trothwy? Os ydy'r ateb yn Nac ydyw, beth wedyn sydd i rwystro gwyliwr 14 oed i ddefnyddio system recordio i recordio deunydd wedi'r trothwy?

    Ateb
    Mae S4C yn dilyn cod darlledu a nodiadau arweiniol Ofcom wrth amserlenni rhaglenni. Mae'r Cod yn nodi'r rheolau sy'n berthnasol i blant o dan bymtheg oed a'r rhai hynny o dan ddeunaw.

    Gweler Cod Darlledu Ofcom a'r nodiadau arweiniol am fwy o fanylion (ar gael yn Ssaesneg yn unig).

    http://www.ofcom.org.uk/tv/ifi/codes/bcode/

    Mi fydd amser darlledu'r rhaglenni hefyd yn dibynnu ar natur a chynnwys y syniadau a gyflwynir. Mae'r ddogfen dendr yn gofyn i gwmnïau ddarparu gwybodaeth am y gynulleidfa darged fel rhan o'r cais. Gweler pwynt 4.4 o'r ddogfen dendr: 'Dylech nodi yn benodol union oedran darged ar gyfer pob syniad unigol. Dylech yn ogystal ymhelaethu ar addasrwydd y cynnwys i'r gynulleidfa darged a'i gofynion'.

    O ran rhwystro recordio deunydd a ddarlledir wedi'r trothwy, nid yw S4C yn medru atal hyn (mae hyn yr un mor berthnasol i ddarlledwyr eraill fel y BBC, ITV a Channel 4). Byddai angen i riant neu ofalwr y plentyn/person ifanc sicrhau fod PIN neu ddyfais arall gyffelyb mewn lle.

Gwahoddiad i dendr i gynhyrchu dolenni cyflwyno a chynnwys ar gyfer Cyw

22 Ionawr 2010

  • Newid dyddiad

  • Os bydd penderfyniad i symud i ail gyfweliad fel rhan o'r broses dendr i gynhyrchu dolenni cyflwyno a chynnwys ar gyfer CYW mi fydd y cyfweliad yn awr yn cael ei gynnal ar ddydd Mawrth 9 Mawrth 2010 (yn hytrach na dydd Iau 11 Mawrth fel a nodir yn y ddogfen dendr).
  • Gwahoddiad i dendr i gynhyrchu dolenni cyflwyno a chynnwys ar gyfer Cyw (PDF)
  • Cytundeb Cyw (Drafft) (PDF)
  • Cytundeb Cyw - Dyma'r cytundeb drafft ar gyfer Cyw. Gan ei fod yn cael ei gyhoeddi yn hwyrach nag a nodwyd yn y ddogfen dendr bydd cwmniau yn medru cyflwyno sylwadau ar y cytundeb hyd at 12:00 canol dydd, ddydd Mawrth 23 Chwefror. Dyliad anfon y sylwadau i tendr@s4c.co.uk.
  • Cwestiwn ac ateb Tendr Dolenni Cyw

  • Cwestiwn 1
    A fydd y cyfnod/patrwm darlledu dros y flwyddyn yn parhau yr un peth a'r patrwm presennol?
  • Ateb 1
    Bydd y patrwm darlledu yn parhau gyda'r egwyddor o flociau. Mae manylion am natur y gwahanol flociau wedi ei nodi ym mhwynt 2.2 y ddogfen dendr.
  • Cwestiwn 2
    Adran 4.4
    A fyddai'n bosib cael manylion technegol y system gwylio rhaglenni y mae S4C yn ei ddefnyddio e.e. pa fath o system, bandwidth a.y.y.b.?
  • Ateb 2
    Mi fydd S4C yn caniatáu hyd at 4 sesiwn gwylio ar yr un adeg (hynny yw gwylio rhaglenni ar bedwar cyfrifiadur gwahanol o fewn cwmni) drwy gysylltiad ar y we. Bydd effeithiolrwydd y system yn ddibynnol ar ba mor effeithiol yw'r cyswllt sydd gan y cwmni ei hun i'r we. Mae system S4C yn cynnig dau opsiwn gwahanol wrth wylio. Mae'r opsiwn sy'n cynnig hyblygrwydd o ran medru symud nôl a blaen drwy'r rhaglen yn golygu bod angen mwy o 'bandwidth'. Mae'r opsiwn symlach yn golygu gwylio'r rhaglen heb fedru symud nôl ac ymlaen. Gellir cymharu'r opsiwn symlach hon i wylio rhaglen ar Clic ar wefan S4C. Os yw'r cyswllt i'r we a system gyfrifiadur cwmni yn caniatau gwylio rhaglenni ar Clic ar 4 cyfrifiadur gwahanol ar yr un adeg mi fydd hyn yn rhoi syniad i gwmni a yw'r ddarpariaeth gwe yn cynnig yr isafswm sydd ei angen. Rhaid cofio hefyd fod cysylltiad drwy'r we yn medru amrywio yn dibynnu ar yr amser o'r dydd ac yn y blaen a chyfrifoldeb y cwmni fydd sicrhau bod ganddynt adnoddau digonol i wylio rhaglenni dros y we.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales