Neidio at y cynnwys

S4C

Tendrau

Archif 2011

Gwahoddiad i Dendr - Cytundeb Fframwaith Dybio

21-Tach-2011

Gwahoddiad i Dendr - Cytundeb Fframwaith Dybio

Dyddiad Cyhoeddi: 21 Tachwedd 2011

Dyddiad ac amser cau ar gyfer derbyn ceisiadau
12.00 canol dydd, Dydd Gwener, 19 Rhagfyr 2011

Gwahoddiad i Dendro: Tendr Cytundeb fframwaith dybio

Cytundeb Fframwaith ar gyfer darparu Gwasanaethau Dybio

Gwahoddiad i Dendr - Gwasanaeth Dysgwyr Cymraeg

Dyddiad Cyhoeddi: 17 Hydref

Dyddiad ac amser cau ar gyfer derbyn ceisiadau 12.00 canol dydd Dydd Llun 14 Tachwedd 2011

Cyfres Rhaglenni

52 x 60 munud y flwyddyn (48' +/- 30), 3 toriad hysbysebu a Gwefan/deunydd aml blatfform

Sesiynau Briffio Cynhelir sesiynau Briffio ar y dyddiadau canlynol.

  • • S4C Caerdydd Llun 24 Hydref
  • • S4C Caernarfon Mawrth 25 Hydref

Os hoffech fynychu cyfarfod briffio (hyd at 45 munud) yna cysylltwch â Gwerfyl Griffiths ar 02920 741 467 neu e bostiwch tendr@s4c.co.uk cyn 12.00 Gwener 21 Hydref 2011.

Lawrlwythwch Gwahoddiad i Dendr - Gwasanaeth Dysgwyr Cymraeg

Mae'r linc yn y ddogfen dendr i Weledigaeth 2012 yn cyfeirio at gyflwyniad Powerpoint yn unig. Mae Gweledigaeth 2012 yn ei chyfanrwydd i'w canfod yma. Mae'r manylion llawn am Weledigaeth 2012 yn y dogfennau hyn.

Cwestiynau ac atebion yn dilyn sesiynau briffio tendr dysgwyr 24/10/2011 a 25/10/2011

Cytundeb Comisiynu

Cwestiynau ac atebion ychwanegol

Gwahoddiad am geisiadau i ddarparu Gwasanaeth Cefnogi Cynhyrchu ar gyfer Cynnwys S4C

Gwahoddiad am geisiadau i ddarparu Gwasanaeth Cefnogi Cynhyrchu ar gyfer Cynnwys S4C

Lawrlwythwch Gwahoddiad am geisiadau i ddarparu Gwasanaeth Cefnogi Cynhyrchu ar gyfer Cynnwys S4C

Lawrlwythwch Cytundeb i Ddarparu Gwasanaeth Cefnogi Cynhyrchu Ar Gyfer Cynnwys S4C

Amserlen Tendr S4C

Amserlen Tendr S4C

3 Gorffennaf 2011

Mae'r manylion am amserlen gyhoeddi cytundebau sydd i'w tendro gan S4C yn 2011/2012 wedi eu nodi yn y ddogfen amgaeedig. Gall yr amserlen amrywio os yw gofynion S4C yn newid. Yn ogystal gall S4C cyhoeddi tendrau ychwanegol os sicrheir hawliau yn ganolog neu os oes gofynion comisiynu penodol.

Amserlen Tendr S4C

Tendr Gwasanaeth Prynhawn, Cylchgrawn Nosweithiol a Rhaglen Nos Sul

12-Medi-2011

Cwestiynau ynglŷn â'r Tendr Gwasanaeth Pnawn, Cylchgrawn Nosweithiol a Rhaglen Nos Sul

Tendr Sioe Nos Wener

12-Medi-2011

Nodyn i'ch atgoffa fod y cyfnod i holi cwestiynau am y tendr yma yn dod i ben dydd Gwener 16 Medi 2011.

Yn sgîl y broses briffio dyma eich atgoffa o rai o'r egwyddorion:

• Mi fydd S4C yn ariannu pob Peilot yn ystod y broses tendr.
• Unwaith fydd y comisiwn wedi ei gynnig i'r ymgeisydd llwyddiannus mi fydd cost unrhyw beilot yn dod o gyfanswm y gyllideb ar gyfer y Sioe Nos Wener.
• Dewis y cwmni fydd cynnig rhaglenni byw neu raglenni wedi eu recordio; neu gymysgedd o'r ddau.
• Mae sail yr Uchafswm pris yng nghyd-destun gweddill yr amserlen a'r cyllid sydd ar gael ar gyfer y slotiau penodol yma.

Gwahoddiad i ymgeisio am dendr ar gyfer Gwasanaeth Prynhawn, Cylchgrawn Nosweithiol a Rhaglen Nos Sul

29 Gorffennaf 2011

Dyddiad cau 12:00 canol dydd, Dydd Mercher 14 Medi 2011

Gwahoddiad i ymgeisio am dendr ar gyfer Gwasanaeth Prynhawn, Cylchgrawn Nosweithiol a Rhaglen Nos Sul

Arweiniad archif ar gyfer Tendr Gwasanaeth Prynhawn, Cylchgrawn Nosweithiol a Rhaglen Nos Sul

Crynodeb Ymchwil Cynulleidfa

Aseiniad Llawn Cytundeb Drafft

Drafft Trwydded

Cwestiwn 1:

Ydych chi'n ystyried y comisiwn fel un sy'n cwmpasu'r tair cyfres, neu a oes posib cynnig am gyfres Nos Sul yn unig

Ateb 1:

Bwriad S4C fydd cynnig un cytundeb am y comisiwn i ddarparu'r tair cyfres - felly, nid yw'n bosib cynnig am un elfen unigol.

Cwestiwn 2:

Oes modd cael copi o unrhyw gyngor cyfreithiol sydd gan S4C er mwyn helpu ni i ddod i gasgliad a yw TUPE yn weithredol?

Ateb 2:

Mae trafodaethau a chyngor cyfreithiol S4C, fel sawl sefydliad a chwmni arall, yn gyfrinachol felly nid ydym mewn sefyllfa i rannu'r wybodaeth yma. Dylai unrhyw gwmni sy'n ymgeisio geisio ei gyngor ei hun er mwyn sicrhau bod y cyngor yn addas i'w amgylchiadau penodol.

Cwestiynnau o'r Sesiynau Briffio

Gwahoddiad i ymgeisio am dendr ar gyfer Sioe Nos Wener

29 Gorffennaf 2011

Dyddiad cau 12:00 canol dydd, Dydd Mawrth 20 Medi 2011

Gwahoddiad i ymgeisio am dendr ar gyfer Sioe Nos Wener

Cyhoeddi cytundebau ar gyfer darpariaeth S4C o gystadlaethau rygbi rhyngwladol

17 Mai 2011

Mae'n bleser gan S4C gyhoeddi canlyniadau'r tendrau ar gyfer y gwaith o ddarparu cynnwys y Sianel o gystadlaethau rygbi Cwpan y Byd 2011 a Phencampwriaeth Ieuenctid y Byd 2011. Fe ddaw'r cyhoeddiad yn dilyn proses dendr agored a chystadleuol.

Slam Media fydd yn gyfrifol am ein darpariaeth o Bencampwriaeth Ieuenctid y Byd a phartneriaeth rhwng cwmnïau Sunset+Vine Cymru a Sports Media Services fydd yn gyfrifol am ein cynnwys o Gwpan Rygbi'r Byd.

Bydd S4C yn cynnig darpariaeth gynhwysfawr o'r ddwy gystadleuaeth gan ddechrau gyda Cymru v Ariannin ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd ar ddydd Gwener 10 Mehefin am 16.55.

Gwahoddiad i Fynegi Diddordeb - Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd yr IRB 2011

Dyddiad Cyhoeddi : 4 Mai 2011

Gwahoddiad i Fynegi Diddordeb (PDF)

Gwahoddiad i Fynegi Diddordeb - Cwpan Rygbi'r Byd 2011

Dyddiad Cyhoeddi : 6 Ebrill 2011

Gwahoddiad i Fynegi Diddordeb (PDF)

Gwahoddiad i Fynegi Diddordeb
Rhan 3 - Gwaith Addasu Bloc Technegol S4C

S4C yw'r darlledwr gwasanaeth cyhoeddus sy'n darparu rhaglenni yn yr iaith Gymraeg yng Nghymru ac ar draws y D.U. Darlledir y rhaglenni o'n pencadlys yn Llanisien, Caerdydd.

Rydym yn bwriadu gwneud addasiadau i'n bloc technegol yn Llanisien. Mae Rhannau 1 a 2 o'r gwaith eisoes wedi eu cwblhau, ac nawr fe hoffem wahodd tendrau ar gyfer Rhan 3 sy'n cynnwys y gwaith paralel o addasu'r adeilad a diweddaru offer mecanyddol a thrydanol. Mae'r gwaith adeiladu yn cynnwys elfennau mewnol (waliau, lloriau, nenfydau) a'r gwaith mecanyddol a thrydanol yn cynnwys addasiadau i systemau presennol ynghyd a gosod systemau oeri a goleuo newydd.

Bydd tendrau ar wahân yn cael eu gwahodd ar gyfer y ddau fath o waith. Gall ymgeiswyr gynnig am un neu'r ddau gytundeb.

Amcangyfrifir y bydd gwerth y gwaith adeiladu oddeutu £120k, gyda'r gwaith HVAC a thrydanol oddeutu £180k.

Rhaid i gwmnïau sydd am ymgeisio gwblhau holiadur cyn-gymhwyso ar gyfer un (neu'r ddau) gytundeb erbyn 5pm ar y 15fed Hydref 2010. Bydd cyfarwyddiadau ar gyfer ymgeisio a manylion o'r methodoleg gwerthuso ar gael o fewn yr holiaduron. Rhaid i unrhyw geisiadau am fwy o wybodaeth neu arweiniad pellach ar sut i lenwi'r holiaduron gael eu cyflwyno erbyn 5pm ar y 11eg o Hydref 2010.

Fe estynnir gwahoddiad i dendro i'r ymgeiswyr hynny fydd yn cyrraedd y rhestr fer. Rydym yn rhagweld y byddwn yn gwahodd oddeutu 5 cwmni i'r rhestr fer ar gyfer pob cytundeb. Bydd y cytundeb(au) yn cael eu dyfarnu ar sail yr ymateb i dendr a fernir y mwyaf manteisiol yn economaidd trwy ddefnyddio'r meini prawf a osodwyd yn y gwahoddiad i dendro.

Llawrlwytho'r holiadur

Cwestiwn

Nid oes gennym achrediad ISo9000 neu gyfwerth. Mae gennym achrediadau gyda:

  • CHAS
  • SAFECONTRACTOR
  • CONSTRUCTIOLINE

Fedrwch chi gadarnhau os yw hyn yn dderbyniol neu beidio? h.y. a fyddwn yn cael ein gwrthod?

Ateb

Ni fyddwch yn cael eich gwrthod am beidio cael achrediad ISO 9000. Fe ddyfernir fod y cyfeiriad at hyn yn yr HCG yn ddymunol ond nid yn angenrheidiol. Bydd system rheoli safonau sy'n darparu modd addas o sicrhau safon gwasanaeth derbyniol a chyson yn foddhaol. Disgrifiwch eich system mewn manylder rhesymol, wedi ei gyfyngu i ddim mwy nag un ochr A4.

Cyhoeddi cytundebau ar gyfer Darpariaeth S4C o Gwpan Heineken a Chwpan LV

29 Medi 2010

Mae S4C wedi cyhoeddi bod dau gwmni wedi cael cynnig cytundebau i gynhyrchu cynnwys ar gyfer darpariaeth S4C o Gwpan Rygbi Heineken a Chwpan Rygbi LV.

Mae Sunset and Vine Cymru/SMS wedi cael cynnig cytundeb i gynhyrchu darpariaeth S4C o Gwpan Heineken a Slam Media wedi cael cynnig i gynhyrchu'r ddarpariaeth o Gwpan LV. Fe ddaw'r cyhoeddiad yn dilyn proses dendr agored a chystadleuol.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales