Neidio at y cynnwys

S4C

Tendrau

Archif Tendrau past

Tendr is–deitlo ar gyfer rhaglenni hwyr a byw

Mae angen i S4C gyfleu isdeitlau ar gyfer rhaglenni yn hwyr yn hwylus ac yn effeithiol ac yn edrych am gwmni/au arbenigol sydd yn gallu cynnig gwasanaeth isdeitlo o safon ar gyfer y rhaglenni yma.

Canlyniad y tendr - 05-Rhag-2007

Yn dilyn proses dendro agored, rhennir y cytundeb sydd am gyfnod o dair blynedd (2008-2010) i ddarparu isdeitlau Byw a Hwyr rhwng Cwmni Tinopolis a Chwmni Testun. Bydd Tinopolis yn gyfrifol am ddarparu isdeitlau ar gyfer y rhaglenni byw a hwyr sy’n cael eu darparu ganddyn ‘nhw , a bydd Testun yn edrych ar ôl gweddill y ddarpariaeth.

Darllen y tendr cyfan (pdf)

Tendr cyfres ddogfen ffeithiol - 'wild russia'

Canlyniad y tendr - 26-Hyd-2007

Mae Teledu Telesgop wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y cytundeb i gynhyrchu’r gyfres ddogfen ffeithiol 'Wild Russia'.

Darllen y tendr cyfan (pdf)
Triniaeth wreiddiol gan Parthenon - Saesneg yn unig (pdf)

Tendr Cyprus v Cymru

Canlyniad y tendr - 03-Medi-2007

Mae Ffilmiau’r Nant wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y cytundeb i gynhyrchu gêm bêl-droed fyw ecsgliwsif Cyprus v Cymru, ynghyd â rhaglen uchafbwyntiau.

Darllenwch y tendr (pdf)

Tendr gwasanaethau cyflwyno'r tywydd i S4C

Canlyniad y tendr - 29-Awst-2007

Mae ITV Cymru wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y cytundeb i gynhyrchu gwasanaeth tywydd S4C. Bydd y cytundeb tair blynedd o hyd yn dod i rym ym mis Tachwedd eleni.

Cliciwch yma am fanylion y tendr (pdf)
Cliciwch yma am Atodlen B (pdf)

Tendr gŴyl cerdd dant cymru 2007–2009

Canlyniad y tendr - 02-Gorff-2007

Yn dilyn proses dendro, mae S4C wedi dewis cwmni cynhyrchu Avanti Cyf i gynhyrchu darllediadau o'r Wyl Cerdd Dant dros y tair blynedd nesa'.

Mae’r Ŵyl Gerdd Dant yn ddigwyddiad blynyddol sy’n un o’r uchelfannau yn ein hamserlen ddarlledu. Mae S4C wedi sicrhau’r hawliau i ddarlledu rhaglenni o Ŵyl Cerdd Dant Cymru am y cyfnod 2007 i 2009.

Cliciwch yma am fanylion y tendr (pdf)
Cliciwch yma am gytundeb drafft (pdf)

Tendr rygbi'r gynghrair

Canlyniad y tendr - 01-Meh-2007

Yn dilyn proses dendro, mae S4C wedi dewis cwmni cynhyrchu Nant Cyf i gynhyrchu’r gyfres rygbi’r cynghrair newydd Y Clwb Rygbi 13, yn amodol ar gytundeb.

Cliciwch yma am fanylion y tendr (pdf)

Tendr plant S4C

Canlyniad y tendr - 04-Ebr-2007

Mae Grŵp Boomerang wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y cytundeb i gynhyrchu dolenni cyflwyno gwasanaeth plant S4C.

Bydd y cytundeb newydd yn dod i rym ym mis Mehefin, gyda’r dolenni cyflwyno ar eu newydd wedd yn cael eu darlledu am y tro cyntaf ddiwedd Hydref.

Mae dylunio a chynnal gwefan newydd hefyd yn rhan o’r cytundeb dwy flynedd o hyd.

Cliciwch yma am fanylion y tendr
Nodiadau ychwanegol 01-Maw-2007
Cytundeb drafft 07-Maw-2007

Tendr cwpan rygbi'r byd 2007

Canlyniad y tendr - 15-Maw-2007

Yn dilyn proses dendr mae S4C wedi dewis cwmni cynhyrchu Sunset+Vine Cymru i gynhyrchu darpariaeth y Sianel o gystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd 2007, yn amodol ar gytundeb.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Ffrainc, Cymru a’r Alban yn ystod misoedd Medi a Hydref eleni. Bydd isafswm o 18 gêm fyw a rhaglenni uchafbwyntiau o’r gystadleuaeth yn cael eu darlledu ar S4C.

Cliciwch yma am fanylion y tendr

Gwasanaeth sbectel

Canlyniad y tendr -

Yn dilyn proses dendro agored, mae cwmni Testun wedi cael cynnig cytundeb gan S4C i ddarparu Gwasanaeth gwybodaeth rhaglenni teletestun Analog ‘Sbectel’ a thestun ‘Sbectel Digidol’ (Digital Text) ar gyfer y Sianel am y dair blynedd nesaf.

Mae’r gwasanaeth SBECTEL ar S4C yn cynnig arlwy dyddiol o erthyglau amrywiol ynghylch rhaglenni S4C yn ogystal ag amserlenni darlledu,manylion y tywydd,gwasanaethau atodol ac eitemau amrywiol eraill.

Mae Sbectel Digidol ar gael drwy’r botwm coch ar Sky ar hyn o bryd, ac mae hyn yn gyfle gwych i Testun i ymestyn y gwasanaeth yma i’w llawn botensial mewn cyfnod hefyd ble bydd y gwasanaeth ar gael ar Freeview hefyd yn ystod 2007.

Cliciwch yma am fanylion y tendr

Dybio rhaglenni a chyfresi animeiddiedig

Canlyniad y tendr i'w gyhoeddi.

Cliciwch yma am fanylion y tendr

Dybio rhaglenni a chyfresi animeiddiedig

Canlyniad y tendr i'w gyhoeddi.

Cliciwch yma am fanylion y tendr a chwestiynau ac atebion ynglyn â'r tendr

Isdeitlo

Canlyniad y tendr -

Mewn cystadleuaeth dendro agored, mae cwmni Acen wedi adennill yr hawl i ddarparu isdeitlau Cymraeg ar raglenni S4C o Ionawr 2007 am gyfnod o dair blynedd.

Bwriad y gwasanaeth isdeitl Cymraeg yw gwasanaethu’r byddar a’r trwm eu clyw Cymraeg eu hiaith yn ogystal â dysgwyr, a’r rhai sy’n ystyried eu Cymraeg yn ansicr, fel y gallant oll fwynhau rhaglenni Cymraeg S4C.

Bydd Acen yn darparu10 awr yr wythnos ar gyfartaledd o isdeitlau Cymraeg i S4C, y mwyafrif ar raglenni fydd i’w gweld yn ystod yr oriau brig ar wasanaeth analog y sianel a’r rhaglenni cydamserol ar ddigidol.

Cliciwch yma am fanylion y tendr a chwestiynau ac atebion ynglyn â'r tendr

Lliwiau: world of colours

Canlyniad y tendr i'w gyhoeddi.

Cliciwch yma am fanylion y tendr a chwestiynau ac atebion ynglyn â'r tendr

Jazz aberhonddu

Canlyniad y tendr - 20-Gorff-2006

Mae cwmni teledu o Gaerdydd, sy’n arbenigo mewn rhaglenni’r celfyddydau, cerddoriaeth ac antur, wedi ennill cytundeb tair blynedd gydag S4C i ddarlledu o HSBC Gwyl Jazz Ryngwladol Aberhonddu.

Fe fydd Indus Films, a grëwyd yn 2005 gan Paul Islwyn Thomas, Steve Robinson ac Emyr Byron Hughes, yn darlledu o’r wyl fyd-enwog, a gynhelir rhwng 11 a13 Awst, sydd eleni yn cymryd New Orleans fel thema.

Fe ddarlledir pecyn o uchafbwyntiau yn cynnwys perfformiadau o rai o’r 120 o gyngherddau a gynhelir dros y tridiau ar S4C, ynghyd â chyngerdd gospel arbennig. Bydd oriau darlledu S4C o’r wyl yn cynyddu yn 2007 a 2008.

Cliciwch yma am fanylion y tendr.

Dechrau canu dechrau canmoL

Canlyniad y tendr - 03-Gorff-2006

Mae S4C wedi gwobrwyo cytundeb gwerth £2m i gwmni teledu Avanti yn y Rhondda i gynhyrchu'r gyfres canu emynau boblogaidd, Dechrau Canu Dechrau Canmol, un o gyfresi teledu mwyaf hirhoedlog y DU. Bydd Avanti, a wobrwywyd y cytundeb yn dilyn proses dendro agored, yn gyfrifol am oddeutu deugain o raglenni bob blwyddyn dros gyfnod y cytundeb dwy flynedd o hyd. Bydd gwaith cynhyrchu ar gyfres newydd o Dechrau Canu Dechrau Canmol yn dechrau ym mis Gorffennaf. Bydd y gyfres yn cael ei darlledu ar S4C yn yr hydref ac ar gael i wylwyr ar fand llydan am y tro cyntaf erioed.
Cliciwch yma am fanylion y tendr.

Cytundeb animeiddio ar gyfer S4C

Canlyniad y tendr - 03-Awst-2006

Rhennir yr arian, a wobrwywyd yn dilyn proses dendro gystadleuol, rhwng cwmni Calon ym Mae Caerdydd, Griffilms, sydd â swyddfeydd yng Nghaernarfon a Chaerdydd, a phartneriaeth rhwng Cwmni Da o Gaernarfon, a Dinamo o Gaerdydd. Bydd Calon yn derbyn £250,000, tra bydd Griffilms yn derbyn £150,000 a phartneriaeth Cwmni Da/Dinamo yn derbyn £100,000.

Dros gyfnod o ddwy flynedd, disgwylir i'r tri chwmni ddatblygu a chyfleu nifer o brosiectau animeiddio aml-lwyfan, yn amrywio o ffilmiau byrion rhwng 10 eiliad a 10 munud o hyd, i ddeunydd hyrwyddo. Bydd disgwyl i'r prosiectau adlewyrchu blaenoriaethau rhaglenni S4C, a amlinellir yn Strategaeth Rhaglenni'r Sianel, gan ganolbwyntio ar gynulleidfaoedd teuluol, plant a hwyr y nos yn benodol.

Cliciwch yma am fanylion y tendr.

Rhaglen ddawns

Canlyniad y tendr i'w gyhoeddi

Cliciwch yma am fanylion y tendr.

Prosiect hunaniaeth brand S4C

Enillydd y cytundeb - 05-Gorff-2006

Mae S4C wedi penodi Proud Creative i ymgymryd â'r gwaith o ailfrandio'r Sianel yn gyfan gwbl yn barod ar gyfer y newid i Ddigidol yng Nghymru yn 2009. Wedi'i sefydlu gan gyn gyfarwyddwr creadigol Kemistry, Dan Witchell, yn 2005, fe ddewiswyd Proud o blith rhestr fer o bum cwmni a hynny ar ôl proses dendro gystadleuol. Bydd Proud yn dechrau ar y prosiect ail-frandio yn syth bin, a bydd y gwaith yn cynnwys ail-frandio aml-lwyfan, ar y sgrin, oddi ar y sgrin ac ar-lein.

Am fanylion pellach, cliciwch yma

Cân i gymru 2006-2007

Canlyniad y tendr - 07-Rhag-2005

Mae cytundeb dwy flynedd o hyd sy'n werth £500,000 wedi ei gynnig i gwmni teledu Avanti, sydd wedi ei leoli yn y Rhondda, i ddarlledu cystadleuaeth flynyddol S4C Cân i Gymru.

Cliciwch yma am fanylion y tendr.

Messner's alps

Canlyniad y tendr - 22-Tach-2005

Yn dilyn proses dendro agored, mae cwmni P.O.P. 1 wedi cael cynnig cytundeb gan S4C i ddarparu rhaglen ddogfen gynhwysfawr yn y Gymraeg ar daith y mynyddwr, naturiaethwr a gweithredwr byd-enwog, Reinhold Messner, drwy'r Alpau. Mae'r rhaglen yn rhan o gyd-gynhyrchiad rhyngwladol gyda Schwenk Films o'r Almaen, y mae S4C yn ei ran-ariannu, ac ynddi bydd Messner yn cynnig golwg ar fyd diddorol natur a dyn, diwylliant a pheirianneg, economeg, gwyddoniaeth, twristiaeth a mynydda.

Cliciwch yma am fanylion y tendr.

Y Sioe frenhinol a'r ffair aeaf

Canlyniad y tendr - 16-Tach-2005

Mae partneriaeth rhwng Boomerang, ITV Cymru a Theledu Apollo wedi cael cynnig cytundeb i ddarparu darllediadau o'r Sioe Fawr a'r Ffair Aeaf. Bydd y bartneriaeth newydd yn gyfrifol am oddeutu 180 awr o ddarlledu. Mae'r cytundeb pedair blynedd yn werth £2 miliwn.

Cliciwch yma am fanylion y tendr.

Cyflenwi gwasanaeth adolygu isdeitlau

Enillydd y cytundeb yw Testun Cyf.

Cliciwch yma am fanylion y tendr.

Cyfres chwaraeon i blant

Canlyniad y tendr - 08-Tach-2005

Mae cwmni teledu Avanti wedi sicrhau mewn cystadleuaeth agored gytundeb £200,000 i gynhyrchu cyfres gylchgrawn chwaraeon i blant sy'n rhoi sylw i bob mathau o gampau, yng Nghymru a thu hwnt. Bydd Stamina (20x20') yn rhoi blas i wylwyr o chwaraeon nad ydynt yn cael eu darlledu'n aml ar sianeli daearol e.e. reslo sumo, bocsio cic, pêl fas a chwaraeon eithafol, yn ogystal â champau mwy cyfarwydd megis rygbi a phêl-droed. Bydd cyflwynwyr yn y stiwdio yn pontio eitemau wedi eu ffilmio ar leoliad gyda deunydd ffilm o archif chwaraeon S4C a deunydd wedi ei brynu i mewn, fydd hefyd yn cynnwys clipiau doniol o bethau'n mynd o chwith.

Cliciwch yma am fanylion y tendr.

Rhaglenni eisteddfod yr urdd

Canlyniad y tendr - 05-Hyd-2005

Mae Cwmni Da/Tonfedd Eryri a Boomerang wedi sicrhau cytundeb £4 miliwn gan S4C i ddarlledu Eisteddfod yr Urdd dros y pedair blynedd nesaf. Bwriedir darparu elfen ryngweithiol gref i'r darllediadau digidol.

Cliciwch yma am fanylion y tendr.

Cytundebau datblygu

Canlyniadau'r Tendr Datblygu - 11-Gorff-2005

Pum cwmni sydd i rannu cronfa ddatblygu £1 miliwn S4C, cyhoeddodd y Sianel heddiw, ar derfyn proses o dendro agored a roddodd gyfle i gwmnïau cynhyrchu gystadlu am arian i ddatblygu ystod o brosiectau.

Grwp Boomerang a chwmnïau Green Bay a Presentable yng Nghaerdydd, Tinopolis yn Llanelli, ac yng Nghaernarfon, Cwmni Da – sy'n uno gyda Tonfedd Eryri - sydd wedi ennill cytundebau datblygu S4C.

Bydd Grwp Boomerang, sy'n ymgorffori Boomerang, Al Fresco a Fflic, mewn cytundeb gydag ITV1 Wales yn derbyn £350,000 i ddatblygu syniadau mewn meysydd amrywiol.

Mae Green Bay yn derbyn £140,000 i ddatblygu syniadau ym maes ffeithiol. Fel rhan o'r cynnig bydd Green Bay yn cydweithio gyda chwmni Chwarel, sydd wedi ei leoli yn Llanystumdwy.

Mae Presentable yn derbyn £100,000 i ddatblygu ystod o syniadau ym maes adloniant. Mae Tinopolis yn derbyn £140,000 i ddatblygu syniadau ym maes drama.

Mae Cwmni Da – sy'n uno gyda Tonfedd Eryri – yn derbyn £300,000 i ddatblygu syniadau mewn gwahanol feysydd. Ymhlith y syniadau hynny mae cynlluniau i sefydlu uned sgriptio traws-genre a chreu adnodd fideo cymunedol. Fel rhan o'r broses dendro, mae S4C hefyd wedi comisiynu darn o waith gan Ffilmiau'r Bont, er nad yw'r cwmni hwnnw wedi cael cynnig cytundeb datblygu.

Telesgôp i Ddatblygu Ffermio - 19-Gorff-2005

Mae cwmni cynhyrchu Telesgôp wedi cael cytundeb gan S4C i ddatblygu gwasanaeth rhyngweithiol sy'n cyd-redeg â chyfres a bwletinau Ffermio. Bydd y gwasanaeth newydd yn defnyddio technolegau newydd, gan gynnwys y rhyngrwyd, band llydan a gwasanaethau botwm coch, er mwyn rhannu'r newyddion diweddaraf am fyd amaeth a chefn gwlad gyda gwylwyr a defnyddwyr.

Cliciwch yma am fanylion y gwahoddiad

Cliciwch yma am atodlen a ffurflen cais

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales