Neidio at y cynnwys

S4C

DATGANIAD YNGLYN Â GWEITHGAREDDAU MASNACHOL

28-Chwe-2005

Yn dilyn Adroddiad Laughton a’n hadolygiad ninnau o’n gweithgareddau masnachol, mae nifer o benderfyniadau wedi eu cymryd ac mae datganiad cyhoeddus wedi ei wneud yngly^n â rhai o’r prif elfennau.

Casgliad yr adolygiad yw fod tyfu gweithgareddau masnachol o’r tu mewn i S4C yn awr yn llawer anoddach oherwydd cyfyngiadau newydd sydd wedi eu gosod gan ddeddfwriaeth ddiweddar ar ddarlledwyr sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus (fel S4C a’r BBC).

Rydym am weld gweithgareddau masnachol sy’n gysylltiedig â’n gwaith fel darlledwr yn parhau i ddod ag arian ychwanegol i fewn i’w wario ar gryfhau’r gwasanaeth. Ond rydym am wneud hynny yn awr trwy gytundebau allanol a phartneriaethau newydd y byddwn yn ceisio rhoi yn eu lle yn ystod y misoedd sydd i ddod. Yn y bôn, rydym yn gwahanu’n gweithgareddau masnachol presennol oddi wrth ei gilydd ac yn penderfynu ar ddyfodol pob un ohonynt yn unigol.

Mae S4C Masnachol wedi gwneud gwaith ardderchog ers 1998 wrth fynd ar ôl incwm masnachol. Mae rhaglenni cynhyrchwyr o Gymru wedi cael eu gwerthu i dros gant o wledydd ledled y byd. Mae yna werth sylweddol bellach yn ein buddsoddiad yn SDN, a thros y cyfnod mae dros £34 miliwn wedi ei drosglwyddo o S4C Masnachol i’r darlledwr, yn bennaf oherwydd i ni fanteisio’n fedrus ar werth masnachol ein gofod ar yr awyr.

Fe fydd Wyn Innes, Rheolwr Gyfarwyddwr S4C Masnachol, yn awr yn gadael y Sianel i gychwyn ei gwmni ei hun – Greenfield Media. Fe fydd Greenfield yn gyfrifol am reoli gweithgareddau S4C yn y farchnad hysbysebion teledu. Fe fydd Wyn hefyd yn parhau i gynrychioli S4C ar fwrdd SDN – y cwmni sy’n dal trwydded digidol daearol Prydeinig y mae S4C yn berchen ar draean ohono – ac i roi cyngor ar faterion yn ymwneud â’r newid i ddigidol. Mae rhain yn feysydd lle mae arbenigedd y tîm a gyflogir ar hyn o bryd gan S4C yn cael ei ystyried yn unigryw a lle mae gweithredu di-dor yn angenrheidiol.

Cyn belled ag y mae gwerthiant rhaglenni rhyngwladol a chydlynu gweithgarwch cyd-gynhyrchu yn y cwestiwn, dymuniad S4C yw archwilio ffyrdd o ehangu’r gweithgareddau hyn trwy gyhoeddi tendr agored.

Mae’r newid yn y sefyllfa mewn perthynas â hawliau rhaglenni, sy’n golygu fod cynhyrchwyr annibynnol yn cael cadw’r hawliau ar gyfer marchnadoedd eraill, yn rhoi cyfle mawr i gynhyrchwyr annibynnol o Gymru. Mae S4C am barhau i ymwneud â chyd-gynyrchiadau rhyngwladol o safon uchel gan gynnwys animeiddio a rhaglenni dogfen, ac fe all ein polisïau yn y meysydd hyn roi sylfaen bwysig ar gyfer tyfu gwerthiant rhyngwladol o Gymru o fewn fframwaith newydd.

Fe fydd manylion y tendr yn cael eu cyhoeddi tua chanol mis Mawrth. Nes y bydd y broses dendro wedi ei chwblhau, fe fydd S4C Rhyngwladol yn parhau i wasanaethu cwsmeriaid yn y modd arferol, ac mae’n bwriadu cyflwyno nifer o raglenni newydd cynhyrfus ym marchnad Mip yn Cannes ym mis Ebrill.

O ran staff S4C Masnachol, fe fydd Phil Evans, Sara Williams, Huw Potter a Bethan Mair Rowlands yn ymuno â chwmni Greenfield. Un o’r penderfyniadau eraill yw ein bod yn cau swyddfa S4C Rhyngwladol yn Llundain. Mae hyn yn ei dro yn golygu ein bod yn ffarwelio â Lisa Collischon ac fe hoffai S4C ddiolch iddi hi am ei gwaith trylwyr ar bob achlysur – pan oedd hi i lawr yma gyda ni yng Nghaerdydd ac wedi hynny yn y swyddfa yn Llundain.

Hefyd, yn dilyn penderfyniad na fyddwn bellach yn targedu prosiectau masnachol newydd yn fewnol, rydym yn ffarwelio ag Eina McHugh wrth iddi hi gyrraedd diwedd ei chyfnod secondiad i’r Adran Gorfforaethol. Rydym yn dymuno’n dda iawn iddi wrth iddi hi ail-leoli – dros dro o leiaf – nôl yng Ngogledd Iwerddon.

Fe fydd dyfodol y swyddi eraill yn S4C Masnachol yn dibynnu ar ganlyniad y broses dendro ar gyfer gwerthu rhaglenni rhyngwladol a chydlynu cyd-gynhyrchu.

Hoffem ddymuno’n dda i Wyn a’i dîm ar y fenter newydd. Rydym yn falch iawn ein bod yn medru sicrhau y bydd eu sgiliau nhw yn dal i fod ar gael i ni mewn cyfnod lle rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod incwm o hysbysebion yn parhau mor uchel â phosibl a hefyd bod SDN yn dod â’r arian mwyaf posibl i fewn i S4C.


Huw Jones
PRIF WEITHREDWR

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales