Neidio at y cynnwys

S4C

S4C YN CYHOEDDI EI DDATGANIAD POLISI RHAGLENNI CYNTAF

02-Maw-2005

Mae Awdurdod S4C wedi cyhoeddi ei Ddatganiad Polisi Rhaglenni cyntaf yn cyflwyno nodau ac amcanion y gwasanaeth rhaglenni ar gyfer 2005.

Mae'r Datganiad yn nodi nifer o uchelfannau gan gynnwys y darllediad byw diweddar o gynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru, La traviata a'r premiere teledu o ffilm y cyfarwyddwr rhyngwladol Marc Evans am farddoniaeth Gymraeg, Dal/Yma:Nawr

Mae S4C wedi ymroi i ddarlledu 200 awr o raglenni newyddion, gan gynnwys newyddion i blant ac i ddysgwyr Cymraeg, ynghyd â 60 awr o raglenni materion cyfoes a gynhyrchir gan BBC Cymru ac ITV Wales.

Mae'r Sianel hefyd yn addo dyblu ei gwariant ar raglenni i blant oed meithrin a chynyddu pwysigrwydd cerddoriaeth yn yr amserlen, gyda rhaglenni yn cynnwys Cerddorfa Ieuenctid Cenedlaethol Cymru a'r gystadleuaeth Côr Cymru yn amlwg.

Mae'r Sianel yn archwilio ffyrdd newydd o gynyddu gwerth rhaglenni ar gyfer y rhai sy'n dysgu Cymraeg ac fe atgyfnerthir hyn gan y gwasanaeth isdeitlo gydag isdeitlau Saesneg ar 80% o raglenni.

Mae'r ymroddiad i ddrama o ansawdd uchel yn amlwg hefyd, gydag S4C yn darlledu 140 awr o ddrama yn ystod y flwyddyn. Mae S4C hefyd wedi ymroi i neilltuo miliwn o bunnau ar gyfer gwaith datblygu er mwyn annog hyd yn oed mwy o greadigrwydd a gwreiddioldeb.

Y targedau mwyaf sylfaenol ar gyfer 2005 yw darlledu 35 awr o raglenni Cymraeg bob wythnos ar y gwasanaeth analog, comisiynu cwmnïau annibynnol i gynhyrchu 95% o'i rhaglenni a darlledu 90% o raglenni gwreiddiol yn ystod yr oriau brig.

Meddai Elan Closs Stephens, Cadeirydd S4C, "Mae Awdurdod S4C yn croesawu'r cyfle hwn i gyhoeddi Datganiad Polisi Rhaglenni Blynyddol ac i asesu perfformiad y Sianel yng ngoleuni'r Datganiad. Mae Awdurdod S4C yn falch iawn hefyd fod ffrwyth y polisi i'w weld yn yr amserlen gyda'i phwyslais ar ansawdd ac amrywiaeth. Fe ddylai'r Datganiad fod yn llinyn mesur ar gyfer amserlenni rhaglenni yn y dyfodol."

Os hoffech dderbyn copi caled o Ddatganiad Polisi Rhaglenni, gallwch e-bostio bethan.behan@s4c.co.uk.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales