Neidio at y cynnwys

S4C

RÔL NEWYDD I BENNAETH CYDGYNYRCHIADAU S4C

11-Maw-2005

Mae Cenwyn Edwards yn gadael ei swydd fel Pennaeth Cydgynhyrchiadau S4C i ddechrau gyrfa fel Ymgynghorydd Cydgynhyrchiadau Rhyngwladol.

Bydd Cenwyn, a ymunodd a'r sianel fel Comisiynydd Rhaglenni Ffeithiol, yn 1991, yn gweithio yn y sector annibynnol yn ogystal ag ymgymryd â gwaith ymgynghorol ar ran S4C.
Yn enedigol o Langennech ger Llanelli, fe ddechreuodd Cenwyn ei yrfa fel newyddiadurwr dan hyfforddiant yn HTV (ITV Wales) ar ôl astudio Cymraeg fel gradd gyntaf a gwneud ymchwil i hanes y ddrama yng Nghymru yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor.

Yna fe weithiodd fel gohebydd ac wedyn cynhyrchydd ar raglenni Y Dydd, Outlook, a’r Wythnos, cyn dod yn Bennaeth Materion Cyfoes ITV Wales ac yna'n Rheolwr Rhaglenni Ffeithiol. Tra yn bennaeth materion cyfoes bu'n gyfrifol am lansio Y Byd ar Bedwar ar S4C; a Wales This Week ar ITV Wales; dwy gyfres sy'n parhau hyd heddiw.
Yn S4C bu'n gyfrifol am nifer o gyfresi llwyddiannus, yn eu plith Wedi 7; Y Sioe Gelf a Cymru 2000, cydgynhyrchiadau rhyngwladol fel Y Celtiaid; Yr Aifft; Mapio’r Byd a Rhwng Duw a Dyn. Yn 2003 fe enillodd dwy gyfres wobrau Y Gymdeithas Deledu Frenhinol (RTS) ,sef, y ddogfen Ar y Stryd a chyfres unigryw Byd Pws.
Meddai Iona Jones, Cyfarwyddwr Rhaglenni S4C, "Mae Cenwyn, ar hyd ei gyfnod yn S4C, wedi dod â phrofiad helaeth o ddarlledu ynghyd â chrebwyll newyddiadurol cryf a chysylltiadau rhyngwladol di-rif at waith yr Adran Rhaglenni. Rwy'n gwerthfawrogi ei gyfraniad ac yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio ag ef."

Ychwanegodd Cenwyn Edwards, "Rwy'n ddiolchgar i S4C am y cyfleoedd creadigol a gefais i weithio gyda chynhyrchwyr ledled Cymru a darlledwyr ym mhob cwr o'r byd dros y deng mlynedd diwethaf. Gyda'r newidiadau sylfaenol ym myd darlledu, fel datblygiadau technegol a'r telerau masnach newydd, mae'n gyfnod o newid. Mae llu o gyfleoedd cyffrous yn wynebu'r sector annibynnol a dwi'n awyddus i fod yn rhan o'r bwrlwm hwnnw. Mae cyd-gynhyrchu rhwng darlledwyr a chynhyrchwyr yn allweddol i'r dyfodol ac mae denu arian o dramor i Gymru er mwyn cyfoethogi'r diwydiant yn bwysicach nag erioed.”

Bydd cwmnïau yn gallu cynnig syniadau ar gyfer cydgynhyrchiadau o hyn ymlaen wrth gysylltu â’r Cyfarwyddwr Rhaglenni, Iona Jones ar wefan cynhyrchwyr S4C.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales