CYNHYRCHIAD DECHRAU CANU, DECHRAU CANMOL I SYMUD CARTREF
17-Maw-2005
Mae dau o gwmnïau cynhyrchu mwyaf blaengar Cymru, Teledu Elidir a Green Bay, wedi dod i gytundeb a fydd yn gweld tîm cynhyrchu Dechrau Canu, Dechrau Canmol yn symud i Green Bay ar ôl y Pasg.
Mae'r newid yn digwydd mewn cyfnod cyffrous yn y sector annibynnol yng Nghymru wrth i gwmnïau ar draws y wlad ystyried gweithio yn agosach at ei gilydd.
Fel rhan o'r trefniant newydd, bydd Emlyn Davies, Cadeirydd Teledu Elidir a Golygydd presennol y gyfres, yn ffarwelio â Dechrau Canu, Dechrau Canmol ar ôl ymron i saith mlynedd o arwain y tîm.
"Gweledigaeth Emlyn sydd yn gyfrifol am gryfder y gyfres fel mae wedi datblygu yn y blynyddoedd diwethaf," meddai John Geraint, cyfarwyddwr creadigol Green Bay. "Nawr bod yr amser wedi dod iddo drosglwyddo'r awenau, mae ei barodrwydd goleuedig i ddychmygu dyfodol newydd i'r cynhyrchiad wedi ein galluogi ni i ddod i delerau sy'n agor pennod newydd yn hanes Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Y sialens i ni fydd adeiladu ar ei waith ef, a chadw Dechrau Canu, Dechrau Canmol yn agos at galon y genedl."
Arbenigwyr mewn rhaglenni ffeithiol, cerddorol a chrefyddol yw Green Bay. Mae'r cwmni yn gyfrannwr cyson i sianeli eraill yng Nghymru a thu hwnt, yn ogystal â S4C, ac wedi ennill parch a chydnabyddiaeth am raglenni o'r safon uchaf.
Green Bay oedd yn gyfrifol am gyfres ddiweddar Huw Edwards ar hanes crefydd yng Nghymru, Bread of Heaven. Green Bay hefyd oedd cynhyrchwyr y portread o'r Dr Rowan Williams, Archesgob Caergaint ar rwydwaith y BBC. Mae John Geraint yn gyn-gynhyrchydd Dechrau Canu, Dechrau Canmol.
Yn Adran Crefydd y BBC y dysgodd John a'i gyd-gyfarwyddwr creadigol yn Green Bay, Phil George, eu crefft fel cynhyrchwyr teledu, gan gyfarwyddo, cynhyrchu a chyflwyno cyfresi crefyddol adnabyddus fel Songs of Praise ac Everyman.
Eglura Emlyn Davies, "Bu'n fraint aruthrol cael bod yn gyfrifol am y gyfres hon dros y blynyddoedd diweddar, a chael cydweithio gyda phobl fel Huw Llywelyn Davies ac aelodau eraill y criw cynhyrchu talentog a fydd yn symud draw i Green Bay.
"Rwy'n hyderus y bydd poblogrwydd Dechrau Canu, Dechrau Canmol yn parhau dan y drefn newydd, ac mae'n galonogol meddwl ei bod yn cael ei throsglwyddo i ddwylo mor ddiogel a phrofiadol, i ofal cwmni sy'n arddel safonau mor uchel. Wrth i gwmnïau cynhyrchu ad-drefnu a chydweithio i ateb gofynion oes newydd yn y diwydiant, mae'n braf gweld Dechrau Canu yn arwain y ffordd ynghanol y bwrlwm hwnnw."
Mae Iona Jones, Cyfarwyddwr Rhaglenni S4C, wedi croesawu'r cytundeb rhwng Elidir a Green Bay : Dywed Iona, "Dyma ymateb adeiladol i'r hêr greadigol ac economaidd sy'n wynebu cynhyrchwyr Cymru mewn cyfnod o newid sylfaenol yn y diwydiant. Rwy'n hyderus y bydd y trefniant newydd hwn yn adeiladu ar gyfraniad allweddol Emlyn Davies i gyfres sydd yn agos iawn at galonnau gwylwyr S4C."
Dechrau Canu, Dechrau Canmol yw un o'r cyfresi sydd wedi rhedeg hwyaf ar unrhyw sianel deledu yng ngwledydd Prydain. Dangoswyd y rhaglen gyntaf erioed dros ddeugain mlynedd yn ôl yn 1961, fel darllediad byw o gapel Trinity, Y Sgeti yn Abertawe.
