Neidio at y cynnwys

S4C

TENDRO AM GYTUNDEBAU CYNHYRCHU GWERTH £500k

24-Maw-2005

Mae ymrwymiad S4C i broses gomisiynu agored a chystadleuol yn parhau gyda chyhoeddiad tri thendr cynhyrchu newydd gwerth cyfanswm o £500,000.

Yn dilyn y newyddion bod S4C wedi ennill yr hawliau Cymraeg i ddarlledu’n fyw gêm rygbi ryngwladol y Llewod yn erbyn yr Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm ar 23 Mai, mae’r Sianel nawr yn gwahodd tendrau ar gyfer cynhyrchu’r darllediad egscliwsif rhad ac am ddim.

Cliciwch yma am fanylion tendr y Llewod

Mae S4C hefyd yn tendro darllediadau Gwyl Cerdd Dant 2005 a 2006, sy’n golygu oddeutu 20 awr o deledu dros ddwy flynedd. Yn 2005 cynhelir y digwyddiad yn Abergwaun; yn 2006, yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam.

Cliciwch yma am fanylion tendr Gwyl Cerdd Dant

Cliciwch yma i weld atodlen y ddogfen


Yn olaf, mae tendr ar gyfer rhaglen beilot awr o hyd wedi ei chyflwyno gan y delynores fyd enwog, Catrin Finch, yn cael ei gynnig. Bydd y rhaglen, sy’n ymdrin â cherddoriaeth glasurol, jazz a cherddoriaeth fyd, yn cynnwys perfformiadau gan Catrin, cyn delynores swyddogol Tywysog Cymru, yn ogystal ag artistiaid eraill.

Cliciwch yma am fanylion tendr Catrin Finch

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales