Neidio at y cynnwys

S4C

35 ENWEBIAD BAFTA I S4C

24-Maw-2005

Yn arwain cyfanswm o 35 enwebiad i raglenni a ddarlledwyd ar y Sianel, mae dwy o raglenni realaeth newydd S4C, sydd wedi eu henwebu am wobrau yn seremoni wobrwyo Ffilm, Teledu a Chyfryngau Newydd BAFTA Cymru, i’w chynnal yng Nghaerdydd y mis nesaf.

Enwebwyd Y Briodas Fawr, a ddilynodd dîm o enwogion wrth iddyn nhw drefnu priodas go iawn pâr o Frynaman, yng nghategori’r Adloniant Ysgafn Gorau. Mae Ffordd Newydd o Fyw, a welodd bum cartref Cymraeg yn brwydro i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd, wedi ei henwebu yng nghategori’r Rhaglen Nodwedd/Gylchgrawn Orau.

Mae opera sebon ddyddiol y Sianel, Pobol y Cwm, a ddathlodd ei phen-blwydd yn ddeg ar hugain oed y llynedd, wedi ei henwebu am wobr y Ddrama Gyfres/Gyfresol Orau, gyda’r actor Huw Euron, sy’n actio rhan y mecanic Darren, wedi ei enwebu am wobr yr Actor Gorau.

Mae ffilm Dydd Nadolig 2004 S4C, C’mon Midffîld a Rasbrijam, wedi derbyn enwebiad am y Ffilm Orau, tra bo’r ffilm dod-i-oed Mela wedi ei henwebu yng nghategori’r Ddrama Orau ar Gyfer Teledu. Mae’r ddrama Talcen Caled hefyd wedi ei henwebu am Y Ddrama Gyfres/Gyfresol Orau, gydag awdur y gyfres, Meic Povey, wedi ei enwebu am wobr yr Awdur Gorau ar gyfer y Sgrîn.

Derbyniodd y gyfres boblogaidd am gartrefi, 04 Wal dri enwebiad – Y Rhaglen Nodwedd/Gylchgrawn Orau, Y Camera Gorau – Heblaw Drama a’r Cyflwynydd Gorau i Aled Samuel. Mae’r ffilm ddogfen Cwmgiedd, Colombia, Cartre? sy’n edrych ar berthynas y dramodydd Ed Thomas gyda’i gartref, ei wreiddiau a’i hunaniaeth wedi ei henwebu yng nghategori’r Rhaglen Ddogfen/Ddrama Ddogfen.

Mae Jonathan, sioe sgwrsio Jonathan Davies ar thema rygbi, wedi ei henwebu yng nghategori’r Adloniant Ysgafn Gorau, tra bod y sioe gerddoriaeth gyfoes Bandit, a gyflwynir gan Huw Evans, Huw Stephens a Sarra Elgan, a Procar Pinc, a ddilynodd chwe pherson hoyw i’r Mardi Gras yn Sydney, wedi eu henwebu yng nghategori’r Rhaglen Ieuenctid Orau.

Mae Offeren Heddwch Karl Jenkins, a ddarlledwyd i ddathlu pen-blwydd y cyfansoddwr o Benclawdd yn 60 oed, wedi derbyn dau enwebiad, am y Rhaglen Gerddorol Orau a’r Cyfarwyddwr Goleuo Gorau: Dim Camera.

Enwebwyd y sioe blant newydd Ofn!, sy’n dilyn y cyflwynwyr Rhodri Owen a Branwen Gwyn wrth iddyn nhw chwilio am ysbrydion mewn hen dai ar draws Cymru, yng nghategori’r Rhaglen Blant Orau. Mae Pentre Bach, cyfres ddrama feithrin newydd S4C am Sali Mali a’i ffrindiau, sydd wedi ei lleoli mewn pentre’ a adeiladwyd yn bwrpasol ar eu cyfer yng ngorllewin Cymru, wedi ei henwebu am Y Gwisgoedd Gorau, tra bod gwefan Sali Mali S4C wedi ei henwebu am wobr Y Cyfryngau Newydd Gorau: ar gyfer Ffilm neu Deledu.

Yng nghategori’r Cyfarwyddwr Gorau mae ’Nôl i Fangladesh, a ddilynodd y gwr busnes o dde Cymru, Sirajul Islam wrth iddo ddychwelyd i’w dref enedigol ym Mangladesh wedi ei henwebu, tra bo’r actor Iwan Charles, sy’n actio rhan y ‘Thrill o’r Rhyl’ yn y ddrama gyfres Emyn Roc a Rôl wedi ei enwebu am wobr y Newydd Ddyfodiad Gorau. Mae’r bytholwyrdd Dai Jones, cyflwynydd Cefn Gwlad, hefyd wedi ei enwebu am wobr y Cyflwynydd Gorau.

Dywed Iona Jones, Cyfarwyddwr Rhaglenni S4C, “Yn 2004 darlledodd S4C amrywiaeth o raglenni oedd yn torri tir newydd ochr yn ochr â chyfresi poblogaidd, hir-dymor. Rwy’ wrth fy modd gydag ystod a nifer yr enwebiadau i’n cynhyrchwyr rhaglenni ac yn dymuno’n dda iawn iddyn nhw ar y noson.”



Enwebiadau S4C:
Y Ffilm Orau
C’mon Midffîld a Rasbrijam – Sue Waters

Y Ddrama Orau ar gyfer Teledu
Mela – Siôn Humphreys

Y Ddrama Gyfres/Gyfresol Orau
Pobol y Cwm – Bethan Jones
Talcen Caled – Siôn Humphreys

Y Materion Cyfoes Gorau
Y Byd ar Bedwar – Geraint Evans

Y Rhaglen Nodwedd/Gylchgrawn Orau
04 Wal – Gwenda Griffith
Ffordd Newydd o Fyw – Iwan England

Y Rhaglen Ddogfen/Drama Ddogfen Orau
Cwmgiedd, Colombia, Cartre? – Dafydd Rhys

Adloniant Ysgafn Gorau
Jonathan – Emyr Afan/Matthew Tune
Y Briodas Fawr – Will Davies

Y Rhaglen Gerddorol Orau
Offeren Heddwch Karl Jenkins – Hefin Owen

Y Rhaglen Blant Orau
Ofn! – Dylan Huws

Y Rhaglen Ieuenctid Orau
Bandit – Gruffydd Davies/Amanda Price Jones
Procar Pinc – Huw Eurig Hughes

Yr Animeiddio Gorau
Nadolig Pengwin – Arjan Wilschut

Y Cyfryngau Newydd Gorau: ar gyfer Ffilm neu Deledu
Sali Mali – Simon Griffiths/Rachel Van Koningsveld/Nia Davies

Y Camera Gorau – Heblaw Drama
04 Wal – Stephen Kingston

Y Golygydd Gorau
Darn o Dir – Dafydd Hunt

Y Cyfarwyddwr Goleuo Gorau: Dim Camera
Offeren Heddwch Karl Jenkins – Martin Rodgers
Pobol y Cwm – John Walton

Y Graffeg/Teitlau Gorau
Bandit – Departures/No.Brake
Croeso i Gymru - Elfen

Y Gwisgoedd Gorau
Pentre Bach – Masquerade (Andrew Bradshaw/Geoff Evans)

Y Coluro Gorau
Porc Peis Bach – Linda Hughes
Tipyn o Stad – Alma Roscoe

Y Criw Byw/O.B. Gorau
Eisteddfod Genedlaethol Cymru – BBC Cymru
Eisteddfod yr Urdd 2004 – Barcud Derwen
Y Clwb Rygbi Rhyngwladol – BBC Cymru

Yr Awdur Gorau ar gyfer y Sgrîn
Talcen Caled – Meic Povey

Y Trac Sain Gerddorol Wreiddiol Orau
Bobinogi – Geraint Cynan/Elen Rhys

Y Cyfarwyddwr Gorau
Nôl i Fangladesh – Rhodri Davies

Yr Actor Gorau
Pobol y Cwm – Huw Euron

Y Cyflwynydd Gorau
04 Wal – Aled Samuel
Cefn Gwlad – Dai Jones

Y Newydd Ddyfodiad Gorau
Emyn Roc a Rôl – Iwan Charles

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales