GWOBRAU BAFTA CYMRU S4C
25-Ebr-2005
Mae Ifor ap Glyn, cynhyrchydd y gyfres ddogfen Cymry Rhyfel Cartre America, a edrychodd ar Ryfel Cartref America trwy lygaid y milwyr Cymreig a fu’n brwydro yn y lladdfa, wedi ennill Gwobr Gwyn Alf Williams BAFTA Cymru.
Cyflwynwyd y wobr, sy’n cydnabod y rhaglen neu’r gyfres sy’n cyfrannu mwyaf i ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o hanes Cymru, i Ifor, o gwmni cynhyrchu Cwmni Da, nos Sadwrn yn seremoni BAFTA Cymru yng Nghaerdydd.
Enillodd y rhaglen i blant, Ofn!, sydd hefyd yn cael ei chynhyrchu gan y cwmni o Gaernarfon, Cwmni Da, y wobr am y Rhaglen Orau i Blant. Mae’r gyfres newydd hon yn dilyn Rhodri Owen a Branwen Gwyn wrth iddynt ymweld ag adeiladau ar hyd a lled Cymru sy’n adnabyddus am eu hysbrydion.
Cipiodd y gyfres sebon boblogaidd Pobol y Cwm, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 30 oed yn 2004, un o’r prif wobrau gyda Huw Euron, sy’n chwarae rhan y mecanig Darren, yn ennill y wobr am yr Actor Gorau. Cynhyrchir y gyfres i S4C gan BBC Cymru.
Meic Povey, awdur y gyfres ddrama afaelgar Talcen Caled (Ffilmiau’r Nant) enillodd y wobr am Yr Awdur Gorau ar gyfer y Sgrîn, tra enillodd Rhodri Davies, cyfarwyddwr Nôl i Fangladesh (Fflic), rhaglen a ddilynodd y dyn busnes a’r dysgwr o dde Cymru, Sirajul Islam, ar daith emosiynol i’w bentref genedigol, y wobr am y Cyfarwyddwr Gorau.
Gwefan Sali Mali enillodd y wobr am Y Cyfryngau Newydd Gorau o fewn Ffilm neu Deledu. Y gyfres i bobl ifanc, Bandit, a gynhyrchir gan Boomerang ac a gyflwynir gan Sarra Elgan, Huw Evans a Huw Stephens, enillodd y wobr am y Graffeg/Teitlau Gorau, ar gyfer y cwmnïau cynllunio Departures a No. Brake.
Enillodd darllediadau Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd y wobr am Y Criw Byw/OB Gorau.
Meddai Iona Jones, Cyfarwyddwr Rhaglenni S4C, “Mae’r gwobrau hyn, yn eu cyfanrwydd, yn gydnabyddiaeth deilwng o uchelgais olygyddol a gweledol S4C ac o’n partneriaeth gyda’r sector annibynnol a’r BBC. Llongyfarchiadau i bawb.”
Enillwyr BAFTA Cymru 2004 S4C
Rhaglen Orau i Blant
Ofn!, Dylan Huws, Cwmni Da,
Y Cyfryngau Newydd Gorau o fewn Ffilm neu Deledu
Sali Mali, Simon Griffiths/Rachel Van Koningsveld/Nia Davies, Crumble Creative/S4C
Graffeg/Teitlau Gorau
Bandit, Departures/No. Brake, Boomerang
Y Criw Byw/OB Gorau
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, BBC Cymru
Awdur Gorau
Talcen Caled, Meic Povey, Ffilmiau’r Nant
Cyfarwyddwr Gorau
‘Nôl i Fangladesh, Rhodri Davies, Fflic
Actor Gorau
Pobol y Cwm, Huw Euron, BBC Cymru
Gwobr Gwyn Alf Williams
Cymry Rhyfel Cartre America, Ifor ap Glyn, Cwmni Da
