Neidio at y cynnwys

S4C

CRYFHAU'R DDARPARIAETH RYGBI AR S4C

25-Ebr-2005

Mae S4C wedi ennill yr hawliau i ddangos uchafbwyntiau o rai o gystadlaethau rygbi mwya’r byd, gan gynnwys Cwpan Heineken Ewrop, y Dwsin Disglair, cystadleuaeth y Tair Gwlad a Thaith y Llewod yr haf yma i Seland Newydd.

Bydd y rhaglen uchafbwyntiau newydd Rygbi’r Byd (Total Rugby) yn cael ei darlledu nosweithiau Gwener ar S4C digidol gan ddechrau nos Wener yma, 29 Ebrill am 9.45pm.

Rhoddir yr hawliau i’r Sianel gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol, ond cynhyrchir y gyfres gan y cwmni o Ben-y-bont ar Ogwr, Sports Media Services, fu’n brif gynhyrchydd rhaglenni y Bwrdd dros y tair blynedd diwethaf.

Mae’r sioe wythnosol, yng nghwmni’r tîm cyflwyno Russell Isaac, Wyn Gruffydd ac Ann-Marie Lewis, yn dechrau gydag uchafbwyntiau rowndiau cynderfynol Cwpan Heineken a gêmau’r Dwsin Disglair.

Medd Gareth Davies, Comisiynydd Chwaraeon S4C, “Mae hyn yn newyddion gwych i wylwyr y Sianel, yn enwedig yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ein bod am ddarlledu gêm y Llewod yn erbyn Yr Ariannin. Mae’r gyfres uchafbwyntiau newydd yn golygu ein bod yn gallu cynnig y gwasanaeth cyflawn sy’n cynnwys gemau Uwch Gynghrair Cymru, y Cynghrair Celtaidd, cystadlaethau Ewrop, Hemisffer y De a gemau rhyngwladol Cymru. Mae’n becyn aruthrol o rygbi rhyfeddol.”

Dywed Russell Isaac, Rheolwr Gyfarwyddwr Sports Media Services, bod y sioe yn llwyfan gwych i brif gystadlaethau’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol.

Esbonia, “Mae’n wych bod S4C yn gallu cynnig darllediadau o gystadlaethau y tu hwnt i ffiniau Cymru. Mae’n rhoi golwg fyd-eang o’r hyn sy’n digwydd yn y gamp. Yn naturiol, bydd y rhaglen y rhoi priod le i gystadlaethau pwysig fel y Dwsin Disglair, y Tair Gwlad a thaith y Llewod, ond bydd cystadlaethau fel Cwpan y Byd Dan-21 a Chwpan y Merched a datblygiadau yn y gêm ledled y byd hefyd yn cael sylw.”

Mae Rygbi’r Byd, fydd yn dilyn y prif gystadlaethau rygbi dros ran fwya’r flwyddyn, yn rhoi sylw i’r straeon Cymreig yn y byd rygbi rhyngwladol.

Mae Sports Media Services eisoes yn cynhyrchu cystadleuaeth Saith-Bob-Ochr y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ar gyfer ei darlledu ar S4C digidol.

Yn y cyfamser, mae S4C wedi cyhoeddi mai cwmni cynhyrchu Tinopolis, sydd wedi ennill tendr i gynhyrchu darllediad S4C o gêm Llewod v Yr Ariannin i’w ddangos yn fyw o Stadiwm y Mileniwm ddydd Llun, 23 Mai.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales