HUW WALTERS YN GADAEL S4C RHYNGWLADOL
26-Ebr-2005
Mae Cyfarwyddwr Busnes S4C Rhyngwladol, Huw Walters, wedi gadael y cwmni ar ôl 15 mlynedd o wasanaeth.
Cyhoeddedd Huw ei fod yn gadael yn dilyn cyhoeddi Tendr Gwerthiant Rhaglenni a Chydlynu Cyd-gynhyrchu S4C Rhyngwladol, a ymddangosodd ar y wefan hon ddydd Gwener.
Dywedodd Huw ei fod wedi penderfynu ymddiswyddo o’i swydd yn syth ar ôl i’r tendr gael ei gyhoeddi. “Bydd hyn yn caniatau i mi drafod gyda phartion sydd â diddordeb yn y tendr heb y gwrthdaro a allai godi pe bawn yn parhau i fod yn gyfarwyddwr S4C Rhyngwladol,” meddai.
Yn y cyfamser mae gweddill tîm S4C Rhyngwladol yn parhau gyda’r gwaith o gyd-gynhyrchu ac ymwelwa ar raglenni S4C.
