S4C YN GWERTHU SDN AM £34 MILIWN
28-Ebr-2005
Mae Bwrdd S4C Digital Media Cyf., yn cyhoeddi ei fod wedi gwerthu ei gyfranddaliad yn SDN Ltd (“SDN”) i ITV plc (“ITV”) am dâl net o oddeutu £34 miliwn mewn arian parod.
Mae SDN yn rhedeg a chynnal plethiad teledu digidol daearol yn y DU o dan drwydded gan Ofcom i ddarlledu sianelau teledu digidol daearol dros fandiau tonfedd penodol. Ymhlith cwsmeriaid y cwmni mae Five, S4C, y BBC, QVC, Sit-up TV, Teletext, Disney a Turner Classic Movies. Tri o gyfranddalwyr oedd gan SDN, sef United Business Media plc (UBM), MUKBL Digital Ltd (MUKBL) (ntl digital ltd gynt) a S4C Digital Media Cyf. (S4CDM).
Mae S4C Digital Media Cyf. yn is-gwmni i S4C Masnachol Cyf., cangen fasnachol S4C.
O dan amodau’r cytundeb rhwng y cyfranddalwyr ac Erthyglau Ymgorffori SDN, fe weithredodd UBM ac S4CDM eu hawl i gael y cyfle cyntaf i brynu cyfranddaliad MUKBL yn SDN. Yn ddiweddarach, daethant i gytundeb terfynol gydag ITV i werthu SDN am oddeutu £134 miliwn, gan gynnwys derbyn cyfrifoldeb am ddyled net o £33 miliwn, yn amodol ar addasu’r gydnabyddiaeth i adlewyrchu’r hyn sy’n weddill o gyfalaf gweithredol SDN ac addasiadau posib eraill.
Meddai Prif Weithredwr S4C, Huw Jones, “Dyma ddiweddglo boddhaol iawn i ymrwymiad a wnaed yn wreiddiol gan gangen fasnachol S4C yn ôl ym 1997. Bydd yr elw sylweddol yma am ein buddsoddiad yn cynnig adnodd pwysig i gefnogi gweithgareddau gwasanaeth cyhoeddus S4C yn y blynyddoedd sydd i ddod. Mae hyn yn arbennig o bwysig i ni ar adeg pan, yn ôl pob tebyg, bydd incwm o werthiant hysbysebion yn disgyn.”
