Y NEWYDDION DIWEDDARAF AR WEFAN Y CYNHYRCHWYR BELLACH AR GAEL FEL GWASANAETH RSS
29-Ebr-2005
Mae gwefan y cynhyrchwyr bellach wedi’i diweddaru fel bod yr eitemau newyddion diweddaraf ar gael mewn allbwn RSS (RSS feed).
Mae RSS yn dalfyriad o “Really Simple Syndication”, ac mae’n fodd i ddosbarthu newyddion mewn fformat sy’n gallu cael ei ddarllen yn hawdd gan amryw fath o feddalwedd. Yn y bôn, mae’n golygu y gallwch gael rhybudd pob tro yr ychwanegir unrhywbeth at y dudalen ‘Diweddaraf’ heb orfod ymweld â’r safle.
Dyma ystyr yr arwydd
sydd i’w weld ar y dudalen ‘Diweddaraf’.
Awgrymwn ddwy ffordd i chi elwa ar y gwasanaeth hwn.
1) Os ydych yn defnyddio’r porwr Mozilla Firefox, gallwch ychwanegu dalen-gofnod (‘bookmark’) i’r allbwn RSS. Cliciwch ar yr eicon oren
yn y gornel gwaelod ar y dde ac yna cliciwch ar “subscribe to ‘eitemau newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf’”. Awgrymwn eich bod yn dewis ei roi yn y “bookmarks toolbar folder” – yna bydd yn bosibl checio’r eitemau diweddaraf gydag un clic o’r llygoden.
Am fwy o wybodaeth am sut i ddefnyddio gwasanaeth RSS o fewn Firefox ewch i: http://johnbokma.com/firefox/rss-and-live-bookmarks.html . Os oes allbwn RSS ar wefan (a’r wefan wedi’i chynllunio i hysbysebu’r ffaith i Firefox) yna fe welir yr eicon yn y gwaelod ar y dde: gweler http://www.mozilla.org/products/firefox/live-bookmarks.html .
Gallwch ddadlwytho Firefox o http://www.mozilla.org/
2) Nid yw Internet Explorer yn cynnig gwasanaeth darllen RSS ar hyn o bryd, felly os ydych yn defnyddio’r meddalwedd yma bydd yn rhaid i chi ddadlwytho meddalwedd arbennig. Un enghraifft yw klipfolio, sydd ar gael yn ddi-dâl o:
http://www.serence.com/site.php?action=ser_products,klipfolio
Gallwch leoli klipfolio ar eich ‘desktop’, lle bydd yn chwilio’n awtomatig am unrhyw eitemau newydd ar wefan y cynhyrchwyr – ac ar unrhyw safle arall sy’n cynnig gwasanaeth RSS.
Posibilrwydd arall yw defnyddio meddalwedd e-bost sy’n gallu darllen gwasanaeth RSS, er enghraifft thunderbird:
http://www.mozilla.org/products/thunderbird/
Am syniadau eraill am feddalwedd i ddarllen gwasanaeth RSS (gan gynnwys meddalwedd i Macs) gallwch ymweld â safle'r BBC
