Neidio at y cynnwys

S4C

TENDR GWYL CERDD DANT – CYHOEDDIAD

17-Mai-2005

Grwp Boomerang sydd wedi ennill y tendr i gynhyrchu rhaglenni i S4C o Wyl Cerdd Dant Cymru yn 2005 a 2006.

Bydd Grwp Boomerang yn cyfleu rhaglenni byw ar S4C analog ac S4C digidol ar brif ddiwrnod y cystadlu ym mis Tachwedd, ynghyd â rhaglenni ychwanegol a fydd yn cynnwys Ymryson y Beirdd ac Uchafbwyntiau’r Wyl. Bydd y Grwp yn darparu dros 20 awr o raglenni i gyd, dros y ddwy flynedd, mewn perthynas â’r Wyl Gerdd Dant.

Dywedodd Ceri Sherlock, Comisiynydd Cerdd S4C: “Mewn cystadleuaeth dda ac agos, cais Grwp Boomerang, dan ofal Ronw Protheroe a Bethan Anwyl, a ddaeth i’r brig. Fe fyddwn ni’n awr yn edrych ymlaen at gydweithio gyda nhw ac â’r Gymdeithas Gerdd Dant i drefnu rhaglenni difyr, eang eu hapêl, o’r wyl yn Abergwaun eleni a Rhosllannerchrugog y flwyddyn nesa’.

“Mae’r Wyl Gerdd Dant yn un o uchelfannau ein hamserlen ac rydym ni’n hyderus y bydd y tîm y mae Grwp Boomerang wedi ei ddwyn ynghyd yn rhoi i ni raglenni o safon uchel a fydd yn plesio cynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt.”

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales