Neidio at y cynnwys

S4C

GALW I GYNNAL GWIFREN GWYLWYR S4C

19-Mai-2005

Mae Galw, is-gwmni CYMAD, cwmni cyfyngedig sy'n hybu cymunedau ym Meirion, Arfon a Dwyfor, wedi ennill cytundeb tair blynedd o hyd i ddarparu gwasanaeth gwybodaeth Gwifren Gwylwyr S4C.

Enillodd Galw – sydd wedi bod yn rhedeg y gwasanaeth ers dwy flynedd - y cytundeb fel rhan o broses dendro agored a gynhaliwyd gan y Sianel.

Bydd tîm o bump o swyddogion mewn canolfan alw bwrpasol ym Mharc Busnes Porthmadog yn cynnal y gwasanaeth gydol y flwyddyn, sy’n ateb ymholiadau gan y cyhoedd ar ffurf galwadau ffôn, e-byst a gohebiaeth arall.

Meddai Tim Hartley, Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol S4C, “Mae Gwifren Gwylwyr S4C yn cyflawni rôl hollbwysig. Dyma wasanaeth gwybodaeth cyfleus ac effeithiol ar gyfer pob math o ymholiadau, p’un ai’n amserlennu hoff raglenni neu’n gwestiynau am y datblygiadau diweddaraf ym myd darlledu.

“Mae Galw wedi darparu gwasanaeth penigamp ers dros ddwy flynedd gyda thîm ymroddedig sy’n rhoi o’u gorau ar bob achlysur. Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio â hwy.”

Sefydlwyd Gwifren Gwylwyr S4C, sy’n delio â channoedd o ymholiadau bob wythnos, dros ddeng mlynedd yn ôl. Mae’r Wifren ar gael ar 0870 6004141 o 9 y bore hyd 10 yr hwyr, bob diwrnod o’r flwyddyn, i ateb ymholiadau’r cyhoedd.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales