PRESENTABLE YN ENNILL TENDR CATRIN FINCH
30-Meh-2005
Mae Presentable wedi ennill tendr cystadleuol i gynhyrchu rhaglen gerddorol arbennig ar gyfer S4C.
Bydd Presentable yn cynhyrchu rhaglen gerddorol awr o hyd fydd yn cael ei chyflwyno gan y gyn delynores Frenhinol Catrin Finch.
Wedi ei chynhyrchu a'i chyfarwyddo gan Siān G Williams, bydd y rhaglen yn adlewyrchu croes-doriad cyfoethog o gerddoriaeth glasurol, jazz a byd ac yn cynnwys perfformiadau gan rai o gerddorion disgleiriaf y DU.
Dywed Ceri Sherlock, Comisiynydd Cerddoriaeth S4C: "Mae rhaglen Catrin Finch ymhlith uchafbwyntiau ein hamserlen Cerddoriaeth ar gyfer 2005/2006 ac rwy'n edrych ymlaen at weld Presentable yn dod ag agwedd ffres a chyfoes i genre rhaglenni sy'n bwysig i S4C."
