Neidio at y cynnwys

S4C

S4C YN DARLLEDU’R CWPAN HEINEKEN – AC YN TENDRO’R GWAITH CYNHYRCHU

30-Meh-2005

S4C fydd yr unig ddarlledwr daearol yn y DU i ddangos cystadleuaeth rygbi clybiau pwysicaf Ewrop ar ôl i’r Sianel ennill yr hawliau i ddarlledu uchafbwyntiau estynedig o’r Cwpan Heineken am y pum tymor nesaf.

Enillodd S4C yr hawliau ar ôl dod i gytundeb gyda threfnwyr y bencampwriaeth, ERC Cyf.

O’r tymor nesaf ymlaen (2005-2006), bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau estynedig o’r gêmau Cwpan Heineken. Bydd Sky Sports yn darlledu’r gêmau yn fyw ac yn ecsgliwsif yn y DU ar loeren a chêbl yn unig.

Bydd S4C yn gallu darlledu uchafbwyntiau o unrhyw gêmau yn ystod y bencampwriaeth, gan gynnwys gêmau Gleision Caerdydd, Sgarlets Llanelli, Dreigiau Casnewydd Gwent a’r Gweilch. Mae’r gystadleuaeth yn dechrau gyda’r gêmau Grŵp cyntaf ym mis Hydref ac yn cyrraedd uchafbwynt gyda’r rownd derfynol yng Nghaerdydd fis Mai nesaf.

Bydd S4C yn gweithredu proses dendro gystadleuol ar gyfer y gwaith o gynhyrchu’r rhaglenni. Cliciwch yma am fanylion llawn.

Dywed Gareth Davies, Comisiynydd Chwaraeon a Phennaeth Hawliau S4C, “Ers 1995, y Cwpan Heineken yw prif bencampwriaeth rygbi clybiau Ewrop. Mae sicrhau’r hawliau yma yn ychwanegu yn sylweddol at ein hystod eang o raglenni rygbi. Mae’n ategu ein darpariaeth rygbi sydd hefyd yn cynnwys y Cynghrair Celtaidd, rygbi clybiau Ffrainc a chystadlaethau rygbi eraill ledled y byd.

“Bydd yr uchafbwyntiau estynedig yn ystod yr oriau brig yn darparu gwasanaeth rhad ac am ddim ac amhrisiadwy i ddilynwyr rygbi p’un ai bod nhw’n gallu derbyn darllediadau byw neu beidio.”

Wrth groesawu’r bartneriaeth ddarlledu newydd, meddai Derek McGrath, Prif Weithredwr yr ERC, “Bydd y darllediadau ychwanegol a ddarperir gan S4C yng Nghymru yn ymestyn proffil ac enw da’r Cwpan Heineken ac mae’n siwr o ddarparu gwylio ardderchog ar gyfer dilynwyr chwaraeon yng Nghymru.

“Mae gan S4C record ddiguro ym maes darlledu chwaraeon, yn enwedig rygbi. Maen nhw wedi bod yn gefnogwyr brwd i’r ERC a’i gystadlaethau. Edrychwn ymlaen at gydweithio â hwy dros y pum tymor nesaf.”

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales