CYHOEDDI CANLYNIADAU’R TENDR DATBLYGU
11-Gorff-2005
Pum cwmni sydd i rannu cronfa ddatblygu £1 miliwn S4C, cyhoeddodd y Sianel heddiw, ar derfyn proses o dendro agored a roddodd gyfle i gwmnïau cynhyrchu gystadlu am arian i ddatblygu ystod o brosiectau.
Grwp Boomerang a chwmnïau Green Bay a Presentable yng Nghaerdydd, Tinopolis yn Llanelli, ac yng Nghaernarfon, Cwmni Da – sy’n uno gyda Tonfedd Eryri - sydd wedi ennill cytundebau datblygu S4C.
Bydd Grwp Boomerang, sy’n ymgorffori Boomerang, Al Fresco a Fflic, mewn cytundeb gydag ITV1 Wales yn derbyn £350,000 i ddatblygu syniadau mewn meysydd amrywiol.
Mae Green Bay yn derbyn £140,000 i ddatblygu syniadau ym maes ffeithiol. Fel rhan o'r cynnig bydd Green Bay yn cydweithio gyda chwmni Chwarel, sydd wedi ei leoli yn Llanystumdwy.
Mae Presentable yn derbyn £100,000 i ddatblygu ystod o syniadau ym maes adloniant. Mae Tinopolis yn derbyn £140,000 i ddatblygu syniadau ym maes drama.
Mae Cwmni Da – sy’n uno gyda Tonfedd Eryri – yn derbyn £300,000 i ddatblygu syniadau mewn gwahanol feysydd. Ymhlith y syniadau hynny mae cynlluniau i sefydlu uned sgriptio traws-genre a chreu adnodd fideo cymunedol.
Fel rhan o’r broses dendro, mae S4C hefyd wedi comisiynu darn o waith gan Ffilmiau’r Bont, er nad yw’r cwmni hwnnw wedi cael cynnig cytundeb datblygu.
Mae S4C ar ganol trafod union fanylion y gwahanol gytundebau a bydd cyhoeddiadau pellach yn cael eu gwneud yn yr hydref.
Meddai Iona Jones, Cyfarwyddwr Rhaglenni S4C a darpar Brif Weithredwr y Sianel, “Mae’r cyhoeddiad hwn yn ben llanw misoedd o waith trwyadl ar ran y cwmnïau ac S4C.
“Mae uchelgais greadigol a gallu strategol y cwmnïau yn brawf o ymroddiad cynhyrchwyr annibynnol Cymru i gyflawni lefel uwch o greadigrwydd a dyfeisgarwch, gan greu sylfaen gref a chynaladwy ar gyfer y dyfodol.”
Ychwanega Huw Eurig Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Grwp Boomerang, “Mae S4C i’w llongyfarch am y weledigaeth a'r strategaeth raglenni glir ar gyfer y dyfodol digidol, ac mae’r Grwp yn falch o fod mewn sefyllfa i ymateb i’r strategaeth honno. Mae’r broses o gyfuno talentau cynhyrchu disglair o fewn un grwp wedi cymryd tua deunaw mis i’w chwblhau, ac rydym yn edrych ymlaen at ymateb i sialens y dyfodol a gwireddu’r weledigaeth mewn partneriaeth gyda S4C .”
Medd John Geraint, Cyfarwyddwr Creadigol Green Bay Media, “Mae Green Bay yn falch iawn i gael y cyfle i symud ymlaen mewn partneriaeth gydag S4C ar ystod o allbwn ffeithiol. Bydd cefnogaeth ac ymwneud strategol S4C yn adeiladu ar lwyddiannau Green Bay mewn ennill comisiynau rhwydwaith y DG ac mewn datblygu syniadau ar gyfer y farchnad ryngwladol.
“Gyda’n partneriaid yn Chwarel, edrychwn ymlaen yn eiddgar at y sialensiau creadigol o ddarganfod rhaglenni o safon sy’n ennill cynulleidfaoedd mawr yng Nghymru ac sy’n apelio at ddarlledwyr a gwylwyr ledled y byd.”
Medd Chris Stuart, Cyfarwyddwr Creadigol Presentable Cyf., "Rydym yn hynod falch o ennill Cytundeb Datblygu S4C. Mae'n cynrychioli pennod newydd gyffrous yn stori ein cwmni ac rydym yn benderfynol o ymateb i'r her y mae'n ei gynnig i ni.
"Mae Presentable erioed wedi ffocysu ar y busnes o ennill cynulleidfaoedd poblogaidd yng Nghymru; hoffwn feddwl y bydd y sgiliau yr ydym wedi eu datblygu drwy weithio i nifer o rwydweithiau eraill yn ein galluogi i ddarparu ystod o syniadau a rhaglenni a fydd wrth fodd gwylwyr S4C ac yn cefnogi'r Sianel yn ei nod."
Meddai Angharad Mair ar ran Tinopolis, “Rydym yn ddiolchgar i S4C am y cyfle i feithrin syniadau ochr yn ochr â’r Sianel. Bydd yr arian datblygu yn cyfrannu at sicrwydd fydd yn ein galluogi ni nawr fel cwmni i weithio’n galed tuag at y dyfodol, gyda syniadau cryf a chyffrous a rhaglenni fydd yn cyfrannu at lwyddiant parhaol S4C.”
Meddai Dylan Huws ar ran Cwmni Da/Tonfedd Eryri, “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r cynllun cyffrous hwn. Bydd yr arian yn ein cynorthwyo i ddatblygu ffrwd o syniadau i S4C dros y ddwy flynedd nesa ac yn rhoi cyfle gwych i ni ddatblygu talentau o flaen a thu ôl i’r camera.”
