TENDR ANIMEIDDIO MEITHRIN
11-Gorff-2005
Mae adran Rhaglenni S4C wedi trwyddedu dwy gyfres feithrin animeiddedig i'w darlledu ym mis Ionawr, 2006.
Yn dilyn proses dendr y llynedd, mae S4C wedi creu rhestr fer o bedwar o gwmniau yn unig sydd yn derbyn gwahoddiad i ymgeisio am unrhyw waith dybio cartwnau sydd ar gael.
Os oes gan unrhyw gwmni arall ddiddordeb mewn cael eu cynnwys ar y rhestr a cheisio am y gwaith o ddybio’r cyfresi animeiddio uchod, yna bydd angen hysbysu S4C drwy e-bost erbyn Gorffennaf 19, 2005.
Bydd angen i'r e-bost gynnwys manylion y tim cynhyrchu a thechnegol. Gwneir penderfyniad i gynnwys y cwmni ar y rhestr fer ar sail profiad a llwyddiant yn y maes.
Y cyfeiriad i ddanfon eich manylion yw:
tendr@s4c.co.uk
