Neidio at y cynnwys

S4C

NEWIDIADAU PELLGYRHAEDDOL I HAWLIAU RHAGLENNI

25-Hyd-2005

S4C yw’r darlledwr cyntaf ym Mhrydain i gynnig ad-aseinio hawliau’r holl raglenni a wnaed cyn cyflwyno’r Telerau Masnach presennol yn ôl i’r sector annibynnol.

Mae’r penderfyniad yn golygu y gall dros 20 mlynedd o ddeunydd archif fod ar gael i’r sector annibynnol ac mae’r Sianel ar hyn o bryd yn trafod goblygiadau trosglwyddo hawliau ar y fath raddfa gyda TAC.

Mae S4C hefyd wedi penderfynu trosglwyddo’r cyfrifoldeb ar gyfer archifo rhaglenni a deunydd cysylltiol i’r sector er mwyn cynyddu’r cyfleoedd masnachol ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

“Mae Strategaeth Rhaglenni S4C, y cytundebau datblygu, y polisi ad-aseinio a’r fenter archifo yn golygu trosglwyddiad arwyddocaol yn y cyfrifoldebau creadigol a datblygu economaidd o’r darlledwr i’r sector annibynnol,” esbonia Prif Weithredwr S4C, Iona Jones.

“Mae S4C wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gyda’r sector annibynnol i sicrhau y bydd unrhyw rwystrau ar gyfer gwneud y gorau o’r hawliau yn cael eu codi ac rwy’n hyderus y bydd cwmnïau mentrus yn llwyddo i sicrhau defnydd masnachol o’r cynnwys mewn ieithoedd amrywiol ac ar lwyfannau newydd.

“Fe fydd yr agwedd flaengar hon, a fabwysiadir ledled S4C, yn sicrhau y bydd y buddsoddiad cyhoeddus yn S4C yn darparu rhagoriaeth greadigol ar gyfer cynulleidfaoedd a buddiannau masnachol ar gyfer y diwydiannau creadigol.”

Mae llythyr ar y ffordd i'r Cwmniau Cynhyrchu Annibynnol sy'n dweud:

"Ysgrifennaf atoch yngly^n â newidiadau i Gynllun Dethol ac Archifo S4C yn sgil cyhoeddiad Iona Jones yn ddiweddar yng Nghynhadledd yr RTS yng Nghaerdydd.

Mae S4C mewn trafodaethau gyda TAC yngly^n â’r Cynllun. Gan fod y trafodaethau yma’n parhau, hoffwn eich hysbysu ein bod yn y cyfamser yn parhau i ystyried y gofyn ar eich cwmni i gyfleu’r ffurflenni Pac_cs ynghyd â’r tapiau ar y cynhyrchiad/au sydd eisoes wedi ei/eu targedu. Os oes ffurflenni ganddoch i’w gyrru atom, neu rai ar eu hanner, yna mae croeso i chi barhau i gyfleu a byddwn yn adolygu’r sefyllfa pan bydd statws y Cynllun yn gliriach.

Yn y cyfamser, mae’r deunydd rushes sydd i’w cael yn y canolfannau storio (Llyfrgell S4C, Caerdydd a Clip Cymru Cyf, Caernarfon) yn dal i fod ar gael i gynhyrchwyr rhaglenni sydd angen deunydd i’w gynnwys yn eu cynhyrchiadau.

Mi fyddwn mewn cysylltiad yn y man gyda mwy o wybodaeth am y trefniadau am ddyfodol y Cynllun. "

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales