Neidio at y cynnwys

S4C

COFNODION GRWP PERTHYNAS TAC/S4C

22-Tach-2005

Grwp Perthynas

Nodiadau cyfarfod 9ed o Dachwedd, 2005

Presennol
TAC
Angharad Anwyl
Branwen Cennard
Emyr Davies
Dafydd Hughes
Nia Wyn Thomas

Ymddiheuriadau Huw Eurig Davies

S4C
Iona Jones
Delyth Wynne Griffiths
Sara Griffiths

1. Materion Agoriadol

1.1 Cyfarfod cyntaf IJ fel cadeirydd. Bwriadu i gyfarfodydd yn y dyfodol fod yn debyg mewn dull ag o’r blaen.

1.2 Penodiad DWG i dim Rheoli S4C fel Rheolwr Cyffredinol. Rhan o’i brîff yw atgyfnerthu’r berthynas a’r sector.

1.3 Mae tymor Elan Closs Stephens fel cadeirydd Awdurdod S4C yn dod i ben fis Mawrth y flwyddyn nesaf. Dim ond dau dymor sy’n bosibl, ac mae’r rhain eisoes wedi eu gwasanaethu. Penodiad y llywodraeth yw hwn, ac nid mater i Awdurdod S4C yw penodi olynydd.

1.4 Yn dilyn dyrchafiad DWG, mae Margaret Hughes wedi ei phenodi yn Bennaeth Trefniant Rhaglenni.

1.5 Mae tymor Angharad Jones fel golygydd Comisiynu Drama yn dod i ben fis Medi nesaf. Mae hi wedi cyflwyno cais i beidio adnewyddu ei chytundeb.
‘Does dim penderfyniadau wedi eu gwneud eto parthed trefniadau comisiynau
i ddod. Bydd S4C yn hysbysu TAC a bydd manylion ar safle gwe cynhyrchwyr.


2. Protocol i gofnodi’r cyfarfodydd (eitem agenda TAC)

Cytuno y dylai’r nodiadau osod allan y casgliadau gyrhaeddwyd yn hytrach na adroddiad air am air. Lle bo cwestiwn penodol wedi ei ofyn ar ran aelodau TAC, bydd yn cael ei nodi ynghyd â’r atebion gan S4C. Ni nodir gwybodaeth gefndirol gyffredinol. NT a SG i greu’r nodiadau ynghyd.


3. Perthynas S4C â BBC Wales (eitem agenda TAC)

Mae cytundeb drafft yn bodoli rhwng Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC. Mae trafodaethau yn parhau. ‘Does dim i’w gyhoeddi ar hyn o bryd, ond mae S4C yn rhagweld y bydd cyhoeddiad yn eithaf buan gan fod yr amserlen ynghlwm a’r Papur Gwyn sy’n cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.


4. Safle cyfredol parthed Comisiynau 2006/07 (eitem agenda TAC)

2006. Yn unol a’r broses gomisiynu, tynnodd S4C linell derfyn dan y comisiynau gynlluniwyd am 2006 ym Mehefin 2005. Dylai comisiynau fod yn symud ymlaen yn unol â’r gwahanol gamau yn y broses.

2007. Nifer o gomisiynau eisoes wedi eu hymrwymo i 2007, a nifer o raglenni “craidd” gyda chytundebau hirach sy’n ymestyn i 2007.

Cyllideb drafft yn cael ei drafod yn fuan, fydd yn effeithio beth sy’n cael ei gomisiynu. Ni fydd S4C yn rhyddhau rhestr siopa na dogfennau gofynion rhaglenni i’r slotiau gwag. Y Strategaeth Rhaglenni yw’r llyw i’r broses gomisiynu.

Ni fydd S4C yn rhoi gwybod i’r sector annibynnol pa raglenni sydd wedi cael eu comisiynu. Mae’r wybodaeth yn sensitif gan fod S4C yn cystadlu a sianeli eraill. Os yw cynhyrchydd am wybod a ddylid datblygu syniad penodol gall y Comisiynwyr eu llywio heb dorri’r oblygiadau cyfrinachedd sy’n ddyledus i gwmnïau yn unol a’u cytundebau â S4C.


5. Amserlen i ymateb i’r Cynigion Rhaglenni (eitem agenda TAC)

Mae 21 cynnig yn y system sydd heb dderbyn ymateb o fewn y llinell derfyn 28 diwrnod. Rhan fach yw hyn o’r holl gynigion dderbyniwyd.

Yn gyffredinol, gwneir y penderfyniad gan y Comisiynwyr, ond mewn nifer fechan o achosion, os yn ansicr, byddant yn gofyn am farn IJ. Gall hyn olygu bod y 28 diwrnod yn mynd heibio. Gall y 28 diwrnod fynd heibio hefyd os yw’r cyfarfod cyn banel yn symud. Weithiau mae cynhyrchydd yn cael penderfyniad yn llafar, ond nid yw hyn yn cael ei ddilyn trwy’r bas data. S4C i drafod yn fewnol.

Efallai fod peth dryswch parthed pa lefel o fanylder ddylid ei gyflwyno ar y cam yma. Mae S4C angen cyflwyniad mwyafrif 300 gair, dim ffeil exe/brîff comisiynu. Rheda’r 28 diwrnod o amser y cyflwyniad ffurfiol ac nid o sgyrsiau anffurfiol. Mae’r ffeil exe yn llawer mwy manwl nad yw yn cael ei llenwi oni bai fod S4C yn rhoi gwahoddiad ffurfiol fel yng Ngham 5 o’r broses gomisiynu.

S4C i wirio’r negeseuon anfonir gan y comisiynwyr.


6. Comisiynu hwyr (eitem agenda TAC)

DH i gael mwy o fanylion gan y cwmni ddaeth a’r pryder yma i’r amlwg.


7. Gweinyddu (eitem agenda ar y cyd)

Gofynnwyd y cwestiwn os yw S4C wedi canfod gwelliannau gyda throsglwyddo tapiau, gwaith papur ac is deitlau ayb. Mae hyn wedi gwella dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Yn unol a’r trefniadau newydd, dylid anfon pob cais am newidiadau i ddyddiadau trosglwyddo i Rhys Parry.

Ffeiliau Exe Mae rhai o aelodau TAC wedi dweud, pan yn llenwi
nifer o ffeiliau exe, maent yn gorfod teipio’r un wybodaeth i mewn bob tro.
DWG i edrych i holi os gall hyn gael ei symleiddio fel bo gwybodaeth safonol, ee, manylion cwmni yn cael ei adnabod, a’i lenwi’n otomatig. Dylai’r fersiwn electroneg newydd o’r brîff golygyddol a busnes gael ei gwblhau erbyn diwedd y mis, a dylai hyn hwyluso a symleiddio’r broses o gyflenwi’r manylion i S4C.

PACs. Mae S4C ar hyn o bryd yn profi PAC yn electroneg (ciw-restr cerddoriaeth a PAC a) trwy wefan S4C. Mae 3 cwmni yn ymwneud â’r
prawf , ac mae’r ymateb hyd yn hyn yn bositif. Bydd data yn cael ei lawrlwytho i system rheoli ganolog S4C ac yn lleihau amser staff yn mewnbynnu’r data. Yn anelu i fynd yn fyw ar ôl y Nadolig. Mae staff S4C wedi eu hyfforddi i gynorthwyo’r cwmnïau i ddefnyddio’r system newydd.

Cynlluniau Hyfforddi

Gofyniad Deddf Gyfathrebu yw y dylai S4C roi adroddiad o hyfforddi yn y diwydiant i Ofcom. Derbyniwyd fod gan gwmnïau gynllun hyfforddi corfforaethol yn hytrach na chynllun fesul cynhyrchiad. Cytunwyd y bydd cynllun hyfforddi yn cael ei gyflenwi ar gyfer y comisiwn cyntaf yn y flwyddyn galendr yn hytrach na’r un cynllun yn cael ei gyflwyno ar gyfer pob cynhyrchiad. Dylai unrhyw newidiadau yn ystod y flwyddyn gael ei adrodd yn ôl i S4C a bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflenwi i S4C ar ddiwedd y flwyddyn. SG i ddiwygio’r drwydded a thelerau masnach i adlewyrchu hyn.


8. Hyrwyddo Rhaglenni (eitem agenda TAC)

Gofynnwyd i S4C sut y byddant yn penderfynu beth i hyrwyddo. Mae’r penderfyniad yn tarddu o’r blaenoriaethau sydd wedi eu gosod allan yn y Strategaeth Rhaglenni. Mae’r adran farchnata yn rhan o’r adran raglenni a bydd y Pennaeth Marchnata’n cyfarfod yn fisol â IJ a’r comisiynwyr, felly mae’n agos i’r broses gomisiynu.


9. Gwybodaeth Ymchwil (eitem agenda TAC)

Gofynnwyd i S4C os fyddai gwybodaeth ymchwil roddir i ambell gwmni ‘n cael ei rannu a gweddill y sector. Ystyriai S4C yr wybodaeth yma’n gyfrinachol i’r cytundebau unigol dan sylw.


10. Ailneilltuo Hawliau (eitem agenda S4C)

Cadarnhaodd IJ gyhoeddiad o fwriad S4C i ailneilltuo rhai hawliau mewn ôl gatalog. Mae gwaith paratoi ar faterion i’w ystyried wedi ei wneud gan S4C, a bydd cyfarfod gyda TAC ar Dachwedd 10ed i drafod.

Y bwriad yw i’r egwyddorion gael eu cytuno erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae rhai cwmnïau eisoes wedi gwneud cais am ailneilltuo. Gellid bod llawer o waith ynghlwm â dychwelyd dros 20 mlynedd o gynnwys a gall fod y bydd S4C yn gorfod blaenoriaethu ceisiadau.


11. Undebau (eitem agenda S4C)

Bectu: ‘Roedd TAC yn cyfarfod Bectu yn syth wedi’r Grw^p Perthynas, Maen’t yn y broses o ddiweddaru cytundeb TAC/BECTU.

Equity: cyfarfod ddiwedd y mis yma.

Undeb yr Ysgrifenwyr ac Undeb y Cerddorion: Mae TAC wedi’u cyfarfod ac yn disgwyl eu hymateb.

Nodwyd fod y cytundeb termau sy’n:-

1. Cymhwyso newid i ddigidol (allai effeithio rhaglenni sy’n cael eu cynhyrchu mor fuan a 2006); â
2. Adlewyrchu’r pecyn hawliau (yn cynnwys gweddarlledu) a gafwyd gan S4C dan y termau masnachol newydd

yn flaenoriaeth.


12. Unrhyw fusnes arall

Mae pryderon gan aelodau TAC parthed arafwch MCPS yn anfon gwaith papur terfynol fel y bont yn gallu cau’r llyfrau. Mae hyn yn debygol o gael ei
ddwysáu pan drwyddedir yr MCPS yn swyddogol gan y PPL i weinyddu cronfa’r PPL ar gyfer cynhyrchiadau S4C. SG i siarad â’r PPL.


13. Cyfarfod Nesaf

TAC i awgrymu dyddiadau. Anelu am fis Chwefror.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales