Neidio at y cynnwys

S4C

NEWYDDION MIPCOM: ADRODDIAD GAN S4C RHYNGWLADOL

22-Tach-2005

Hon oedd marchnad gyntaf yr S4C Rhyngwladol newydd (menter ar y cyd rhwng Parthenon Entertainment a Barcud Derwen) gyda phresenoldeb stondin a thîm gwerthiant mwy er mwyn cyflwyno prynwyr a chynhyrchwyr i’r drefn newydd, ein rhaglenni cyfredol a’r rheiny sydd ar y gweill gennym.

Gweithiodd y tîm yn dda er mwyn sicrhau cyfnod didrafferth o newid, ac roedd y prynwyr hwythau ar eu hennill gan eu bod wedi eu cyflwyno i amrediad mwy nag erioed o raglenni o safon.

Lansiwyd dwy gyfres ddogfen yn ystod y farchnad.

Lansiwyd Duwiau Coll gan y cwmni Gwyddelig Tile Films a Vision TV International o Ganada yn y bar Gwyddelig, Morrisons i gynulleidfa lawn. Dyma’r gyfres ddogfen gyntaf i gael ei chynhyrchu dan Gytundeb Cyd-gynhyrchu Iwerddon-Canada ac mae’n ddilyniant i’r cyd-gynhyrchiad rhyngwladol llwyddiannus Nefoedd ar y Ddaear. Roedd ymateb prynwyr i’r gyfres safonol hon, wedi ei saethu mewn Manylder Uwch, yn frwdfrydig, gyda gwerthiant ymlaen llaw wedi ei wneud i SBS a rhagor i’w cadarnhau’n fuan.

Lansiwyd Tsieina, cyd-gynhyrchiad sylweddol gyda The New York Times Television, The CBC, Discovery Times, ZDF a France 5 mewn dull traddodiadol Tsieiniaidd gyda dreigiau, dawnswyr rhubanau a bisgedi dweud ffortiwn! Mae’r gyfres wedi cael deunydd na chafwyd ei debyg o’r blaen o’r wlad ryfeddol hon sy’n herio gwledydd mwyaf pwerus y byd ym mhob maes, o’r economi i’r celfyddydau. Does dim cyfres debyg iddi ar gael i ddarlledwyr rhyngwladol ar hyn o bryd ac yn ôl y tîm gwerthiant, cawsant adborth ardderchog gan brynwyr, sy’n argoeli’n dda am werthiannau i ddod.

Cyflwynwyd dwy gyfres arall yn y farchnad – mae Ar Doriad Gwawr gan Kaizen West Productions Inc. a Chynyrchiadau Boomerang yn olrhain hanes trasig milwyr Rhyfel Byd Cyntaf a saethwyd am lwfrdra a ffoi o faes y gad tra bod Bwystfilod Celtaidd gan Cwmni Da a Midas Productions yn defnyddio animeiddio gan yr enwebai Oscar Joanna Quinn er mwyn dod â mythau a bwystfilod y byd Celtaidd yn fyw.

Adlewyrchwyd cyffro’r ymateb i’r llechen ddogfennol yn y maes animeiddio, gyda rhai prosiectau cyffrous ar y gweill.

Aeth Holi Hana – cyd-gynhyrchiad gyda Five a ZDF – i gynhyrchiad tra oeddem yn y farchnad! Roedd ymateb prynwyr yn dal yn gynnes i’r trêl ar gyfer y gyfres bypedau hynod wreiddiol hon a gobeithir cadarnhau rhagor o werthiannau rhag-blaen yn ystod y misoedd nesaf.

Cyflwynwyd dau brosiect a ddatblygwyd ar gyfer y fforwm gartwn Cartoon Forum am y tro cyntaf ym Mipcom – ‘Dwi Moyn Cinio! Gan Arthur Cox a Tðt! Tðt! prosiect gan S4C Rhyngwladol. Ennynodd ’Dwi Moyn Cinio! yn arbennig ymateb arbennig o gadarnhaol gan brynwyr gyda’r pwnc yn ogystal â’r arddull animeiddio ffres yn gwneud argraff.

Yn dilyn y farchnad, mae tapiau sgrinio’n cael eu danfon i bedwar ban byd a bydd rhagor o gyhoeddiadau gwerthiant yn cael eu gwneud gyda hyn.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales