CANLYNIAD TENDR MESSNER
22-Tach-2005
Yn dilyn proses dendro agored, mae cwmni P.O.P. 1 wedi cael cynnig cytundeb gan S4C i ddarparu rhaglen ddogfen gynhwysfawr yn y Gymraeg ar daith y mynyddwr, naturiaethwr a gweithredwr byd-enwog, Reinhold Messner, drwy’r Alpau. Mae'r rhaglen yn rhan o gyd-gynhyrchiad rhyngwladol gyda Schwenk Films o'r Almaen, y mae S4C yn ei ran-ariannu, ac ynddi bydd Messner yn cynnig golwg ar fyd diddorol natur a dyn, diwylliant a pheirianneg, economeg, gwyddoniaeth, twristiaeth a mynydda.
