Neidio at y cynnwys

S4C

DUDLEY AR FAND LLYDAN

25-Tach-2005

Yn dilyn lansiad gwasanaeth rhyngweithiol arloesol i ddysgwyr a bandit247.com, gwefan gerddoriaeth ddwyieithog, mae S4C, mewn partneriaeth â chwmni cynhyrchu Opus TF, yn lansio ei gwasanaeth band llydan cyntaf erioed.

Ers yr wythnos ddiwethaf, fel rhan o brosiect peilot arbennig, mae dwy gyfres o’r sioe goginio boblogaidd, Dudley, a gyflwynir gan y cogydd Dudley Newbery, yn cael eu darlledu ar fand llydan ar s4c.co.uk/dudley.

Mae wyth rhaglen hanner awr o hyd, a ddarlledwyd yn gynharach eleni, ar gael, ynghyd â ryseitiau unigol o’r gyfres gyfredol o Dudley, sy’n cael ei darlledu bob nos Iau ar S4C am 8.25pm.

Mae isdeitlau Saesneg ar y sgrîn ar gael yn awtomatig ar y deunydd band llydan, tra bydd gwe-ddefnyddwyr heb fand llydan hefyd yn gallu gwylio’r cynnwys.

Meddai Prif Weithredwr S4C Iona Jones, “Y prosiect band llydan hwn yw’r ychwanegiad diweddaraf at wasanaethau rhyngweithiol S4C, sy’n cael eu datblygu mewn partneriaeth â chynhyrchwyr annibynnol, ac sy’n darparu cyfleoedd newydd i wylwyr fwynhau ffefrynnau o amserlen S4C.”

Ychwanega Dudley Newbery o gwmni cynhyrchu Opus TF, sy’n cynhyrchu’r gyfres i S4C, “Rydym yn falch iawn i allu cydweithio ag S4C ar ei phrosiect band llydan cyntaf erioed. Mae gwefan Dudley eisoes yn denu nifer fawr o ymweliadau gan bobl sy’n awyddus i roi tro ar ryseitiau’r sioe – mae’r datblygiad ar-lein cyffrous hwn yn ymestyn y gwasanaeth i gogyddion brwd drwy eu galluogi nhw i nid yn unig ddarllen rysáit ond i wylio’r camau rwy’n eu cymryd wrth baratoi pryd o fwyd”

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales