Polisi Amddiffyn Plant S4C
07-Rhag-2005
Annwyl Aelod
Polisi Amddiffyn Plant S4C
Hyfforddiant ar gyfer Unigolyn Dynodedig a Dirprwy
Yn dilyn seminarau diweddar ar Bolisi Amddiffyn Plant S4C gan Dafydd Downes, mae TAC ac S4C wedi bod mewn trafodaethau gyda’r NSPCC i sicrhau cymhwyster priodol ar gyfer Unigolyn Dynodedig a gyfeirir ato yn y Polisi.
Fel un o amodau o gomisiwn gan S4C, mae disgwyl bod y cynhyrchydd neu'r person sydd â chyfrifoldeb dros blant ar gynyrchiadau’r Cwmni yn cael ei enwi yn y Cytundeb fel 'Unigolyn Dynodedig'. Cyfeiriwch at Rhan 4.1 o’r Polisi ar wefan S4C am ddiffiniad o unigolyn dynodedig – Cliciwch yma i ddadlwytho'r ddogfen
Yn ystod y 6 mis nesaf bwriedir trefnu cyfres o gyrsiau i hyfforddi Unigolyn Dynodedig (a dirprwy(on)) o bob Cwmni Cynhyrchu. Rhagdybir bydd angen trefnu cyrsiau yn y De a’r Gogledd ac amcangyfrifir y bydd y cwrs yn costio hyd at £200 y pen, er gobeithir bydd yn is na hyn. Cwrs deuddydd sydd mewn golwg ar gyfer hyd at 16 cyfranogwyr ar y tro.
Fe’ch atogoffir, ar ôl i’r cyfnod o chwe mis ddod i ben, y bydd yn rhaid fod y person fydd yn cael ei enwi yn y Cytundeb fod wedi cymhwyso cyn dechrau ar y gwaith cyn gynhyrchu, ac mae hyn yn ragamod i oblygiadau’r Cwmni i’r Cytundeb.
Cyn symud ymlaen gyda’r trefniadau rhaid cael syniad o’r gofyn. Felly oes modd i chi gadarnhau gyda Swyddfa TAC, Caernarfon cyn gynted â phosib, ac erbyn 9 Rhagfyr 2005 ar yr hwyraf, pwy fydd yn mynychu’r cwrs o’ch Cwmni (drwy ffonio Bethan neu Einir ar Ffôn: 01286 671123 neu drwy e-bost at einir.roberts@teledwyr.com).
