Neidio at y cynnwys

S4C

CÂN I GYMRU 2006-2007 - Cytundeb Safonol

07-Rhag-2005

Mae S4C wedi cynnig cytundeb dwy flynedd o hyd gwerth £500,000 i gwmni teledu Avanti o'r Porth, y Rhondda, i gynhyrchu cystadleuaeth flynyddol y Sianel, Cân i Gymru, yn dilyn proses dendro agored.

Darlledir Cân i Gymru ar noson Gw^yl Ddewi ac mae’r digwyddiad yn un sy’n chwarae rôl bwysig yn narpariaeth y Sianel ym maes canu ysgafn a chyfansoddi.

Bydd y gystadleuaeth yn 2006 ychydig yn wahanol i’r arfer gan fod yna dri is-gategori yn cynnig gwobrau o £3,000 yr un i bob enillydd. Bydd enillwyr y tri chategori yn mynd ben ben â'i gilydd i ennill gwobr o £7,000 ychwanegol a theitl Cân i Gymru 2006. Anogir y cyhoedd, cyfansoddwyr profiadol a bandiau a pherfformwyr unigol i gystadlu yn y gwahanol gategorïau.

Bydd S4C, ar y cyd ag Avanti, hefyd yn edrych ar ffyrdd i ymestyn yr elfen ryngweithiol o bleidleisio a mynegi barn ymhlith y gwylwyr gartref.

Meddai Meirion Davies, Comisiynydd Adloniant S4C, "Mae cystadleuaeth Cân i Gymru wedi cyfrannu yn helaeth at ddiwylliant canu cyfoes Cymraeg ar hyd y blynyddoedd - mae’n gatalydd i greadigrwydd poblogaidd a dyna yw'r nod ar gyfer y dyfodol."

Gellir cael copi o'r cytundeb safonol yn nodi'r telerau ar gyfer cyfansoddwyr sy'n dymuno cystadlu drwy glicio yma.

Am fwy o wybodaeth: Hannah Thomas, 029 20 741451

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales