Neidio at y cynnwys

S4C

CYNULLEIDFA FYD-EANG I CAERDYDD

06-Chwe-2006

Y ddrama gyfres gyfoes Caerdydd yw'r rhaglen ddiweddaraf i'w chynnwys fel rhan o arlwy band llydan S4C ar www.s4c.co.uk/caerdydd

Mae'r ddrama yn ymuno â Wedi 7 (www.s4c.co.uk/wedi7) a'r sioe goginio Dudley (www.s4c.co.uk/dudley), sydd eisoes yn cael eu darlledu ar fand llydan.

Bydd penodau o'r gyfres - sy'n dilyn hynt a helynt criw o ffrindiau sy'n byw ac yn gweithio yn y brifddinas - yn cael eu lan-lwytho bob dydd Sadwrn, yn dilyn y dangosiadau teledu. Bydd isdeitlau Saesneg hefyd ar gael.

Mae'r datblygiad newydd yn rhan o ddarpariaeth ryngweithiol gynyddol S4C sydd yn barod yn cynnwys y gallu i wrando ar podcastiau a chwarae fideos o gerddoriaeth Gymraeg ar ffonau symudol yn www.bandit247.com a gwasanaeth rhyngweithiol cynhwysfawr i ddysgwyr yn www.dysguars4c.co.uk

Cwmni Fiction Factory, sy’n rhan o Tinopolis, sy’n cynhyrchu Caerdydd. Ymhlith cast y gyfres mae Ryland Teifi, Alys Thomas, Lee Haven-Jones, Siwan Morris a Rhian Green. Darlledir y ddrama bob nos Fercher a Gwener ar S4C.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales